Datganiad hygyrchedd ar gyfer Porth Talu Ar-lein

Cyhoeddwyd: 3 Gorffennaf 2024
Diweddarwyd diwethaf: 16 Mawrth 2023

Datganiad yw hwn ar gyfer Porth Talu Ar-lein Ofcom, mae’n berthnasol i bob tudalen we sy’n dechrau gyda secure.ofcom.org.uk/payments.

Datganiad yw hwn ar gyfer Porth Talu Ar-lein Ofcom, mae’n berthnasol i bob tudalen we sy’n dechrau gyda secure.ofcom.org.uk/payments.

  • newid lliwiau, lefelau cyferbyniad a ffontiau
  • chwyddo i mewn hyd at 200% heb golli'r testun oddi ar y sgrin
  • llywio drwy ran o'r wefan gan ddefnyddio dim ond bysellfwrdd
  • llywio drwy'r rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio meddalwedd adnabod llais
  • gwrando ar y rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio rhaglen darllen sgrin (gan gynnwys fersiynau diweddaraf JAWS, NVDA a VoiceOver)
  • Cael strwythur penawdau ystyrlon ar y rhan fwyaf o dudalennau
  • Mwynhau safonau AA o ran 1.4.3 Cyferbyniad
  • Gwneud cais rhesymol am fformatau eraill, y bydd Ofcom yn eu hystyried
  • Rydym wedi sicrhau bod testun y wefan mor syml â phosibl

Mae cyngor ar gael ar AbilityNet ynghylch gwneud eich dyfais yn haws ei defnyddio os oes gennych chi anabledd.

Pa mor hygyrch yw'r wefan hon

Rydym yn gwybod nad yw rhai rhannau o’r wefan hon yn gwbl hygyrch:

  • Mae allwedd set maes yn bresennol ond nid yw'n cynnwys disgrifiad
  • Does dim rhanbarthau tudalennau wedi'u diffinio i nodi'r prif feysydd cynnwys
  • Lefel pennawd wedi'i hepgor ar y brif dudalen
  • Mae dolen logo Ofcom a ‘gwefan Ofcom’ yn cynnwys yr un URL felly efallai y bydd un ddolen yn ddiangen

Adborth a gwybodaeth gyswllt

Os oes angen gwybodaeth arnoch am y wefan hon mewn fformat gwahanol, fel PDF hygyrch, print bras, testun hawdd ei ddarllen, recordiad sain neu braille, cysylltwch â’r tîm Digidol gan ddefnyddio'r ffurflen hon:

Cysylltu â’r Tîm Digidol

Byddwn yn ystyried eich cais ac yn cysylltu â chi o fewn 21 diwrnod.

Gweithdrefn Gorfodi

  Y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) sy’n gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau ac Apiau Symudol) (Rhif 2) 2018 (y ‘rheoliadau hygyrchedd’). Os nad ydych chi’n fodlon ar sut rydym yn ymateb i’ch cwyn cysylltwch â’r Gwasanaeth Cynghori a Chefnogi Cydraddoldeb (EASS).

Cysylltu â ni dros y ffôn

Gallwch gysylltu â ni dros y ffôn, drwy’r post neu wneud cwyn drwy ein hyb. Mae manylion cyswllt ar gael ar ein tudalen cysylltu â ni.

Yn ystod y cyfnod clo, ni allwn dderbyn galwadau cyfnewid testun neu ganiatáu ymweliadau wyneb yn wyneb.

Gwybodaeth dechnegol am hygyrchedd y wefan hon

Mae Ofcom wedi ymrwymo i sicrhau bod ei wefan yn hygyrch, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau ac Apiau Symudol) (Rhif 2) 2018.

Statws cydymffurfio

  Mae’r wefan hon yn cydymffurfio’n rhannol â safon AA Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We fersiwn 2.1 oherwydd y cynnwys nad yw'n hygyrch isod.  

Cynnwys nad yw’n hygyrch

  • Mae allwedd set maes yn bresennol ond nid yw'n cynnwys disgrifiad.  Nid yw hyn yn bodloni Maen Prawf Llwyddiant 3.3.2
  • Does dim rhanbarthau tudalennau wedi'u diffinio i nodi'r prif feysydd cynnwys.  Nid yw hyn yn bodloni Maen Prawf Llwyddiant 1.3.1
  • Lefel pennawd wedi'i hepgor ar y brif dudalen.  Nid yw hyn yn bodloni Maen Prawf Llwyddiant 1.3.1
  • Mae dolen logo Ofcom a ‘gwefan Ofcom’ yn cynnwys yr un URL felly efallai y bydd un ddolen yn ddiangen.  Nid yw hyn yn bodloni Maen Prawf Llwyddiant 2.4.4

Mae’r uchod wrthi’n cael eu datblygu ar hyn o bryd a’r bwriad yw eu datrys erbyn mis Rhagfyr 2020.

Paratoi’r datganiad hygyrchedd hwn

Cafodd y datganiad hwn ei baratoi ar 21 Medi 2020.

Cafodd y wefan hon ei phrofi ddiwethaf ar 16 Medi 2020. Cynhaliwyd y prawf gan Ofcom, a defnyddiwyd yr offer canlynol:

  • JAWS
  • NVDA
  • Offeryn Gwerthuso WAVE
  • headingsMap
  • Pecyn cymorth ARC
  • Accessibility Insights for Web
  • Gwiriwr Cyferbyniad Lliw WCAG
  • Chwyddo’r Testun yn Unig
  • Darllen yn Uchel
  • Adroddwr
  • VoiceOver
Yn ôl i'r brig