Datganiad hygyrchedd ar gyfer Porth Llwyfannau Rhannu Fideos Ofcom

Cyhoeddwyd: 3 Gorffennaf 2024
Diweddarwyd diwethaf: 16 Mawrth 2023

Ofcom sy'n cynnal y wefan hon. Rydym am sicrhau bod cynifer â phosib o bobl yn gallu defnyddio'r wefan hon. Er enghraifft, mae hyn yn golygu y dylech chi allu gwneud y canlynol:

  • newid lliwiau, lefelau cyferbyniad a ffontiau
  • chwyddo i mewn hyd at 200% heb golli'r testun oddi ar y sgrin
  • llywio drwy ran o'r wefan gan ddefnyddio dim ond bysellfwrdd
  • llywio drwy'r rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio meddalwedd adnabod llais
  • gwrando ar y rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio rhaglen darllen sgrin (gan gynnwys fersiynau diweddaraf JAWS, NVDA a VoiceOver)
  • Cael strwythur penawdau ystyrlon ar y rhan fwyaf o dudalennau
  • Mwynhau safonau AA o ran 1.4.3 Cyferbyniad
  • Gwneud cais rhesymol am fformatau eraill, y bydd Ofcom yn eu hystyried 
  • Rydym wedi gwneud testun y wefan mor syml â phosib i’w ddeall gan gyhoeddi erthyglau defnyddwyr yng nghyswllt cyhoeddiadau mawr

Mae cyngor ar gael ar AbilityNet ynghylch gwneud eich dyfais yn haws ei defnyddio os oes gennych chi anabledd.

Pa mor hygyrch yw'r wefan hon

Rydym yn gwybod nad yw rhai rhannau o’r wefan hon yn gwbl hygyrch:

  • Dydy’r gwiriwr cyfeiriad ddim ar gael ar unrhyw ddyfais
  • Does dim modd defnyddio'r tab i ddilysu'r botwm cyfeiriad
  • Dydy’r strwythur penawdau ar gyfer blychau gwybodaeth gyswllt ddim mewn trefn
  • Dydy’r negeseuon gwall ddim wedi'u nodi'n glir
  • Dydy’r negeseuon gwall ddim yn cynnig awgrymiadau clir o ran gwallau

Adborth a gwybodaeth gyswllt

Os oes angen gwybodaeth arnoch am y wefan hon mewn fformat gwahanol, fel PDF hygyrch, print bras, testun hawdd ei ddarllen, recordiad sain neu braille, cysylltwch â’r tîm Digidol gan ddefnyddio'r ffurflen hon:

Cysylltu â’r Tîm Digidol

Byddwn yn ystyried eich cais ac yn cysylltu â chi o fewn 21 diwrnod.

Gweithdrefn Gorfodi

  Y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) sy’n gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau ac Apiau Symudol) (Rhif 2) 2018 (y ‘rheoliadau hygyrchedd’). Os nad ydych chi’n fodlon ar sut rydym yn ymateb i’ch cwyn ,cysylltwch â’r Gwasanaeth Cynghori a Chefnogi Cydraddoldeb (EASS).

Cysylltu â ni dros y ffôn

Gallwch gysylltu â ni dros y ffôn, drwy’r post neu wneud cwyn drwy ein hyb. Mae manylion cyswllt ar gael ar ein tudalen cysylltu â ni.

Yn ystod y cyfnod clo, ni allwn dderbyn galwadau cyfnewid testun neu ganiatáu ymweliadau wyneb yn wyneb.

Gwybodaeth dechnegol am hygyrchedd y wefan hon

Mae Ofcom wedi ymrwymo i sicrhau bod ei wefan yn hygyrch, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau ac Apiau Symudol) (Rhif 2) 2018.

Statws cydymffurfio

Mae’r wefan hon yn cydymffurfio’n rhannol â safon AA Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We fersiwn 2.1, oherwydd y cynnwys nad yw'n hygyrch sydd wedi'i restru isod.

Cynnwys nad yw’n hygyrch

  • Dydy’r gwiriwr cyfeiriad ddim ar gael. Nid yw hyn yn bodloni Maen Prawf Llwyddiant 2.1.1 ac mae wrthi’n cael ei ddatblygu ar hyn o bryd
  • Does dim modd defnyddio'r tab i ddilysu'r botwm cyfeiriad.  Nid yw hyn yn bodloni Maen Prawf Llwyddiant 2.1.1 ac mae wrthi’n cael ei ddatblygu ar hyn o bryd
  • Dydy’r strwythur penawdau ar gyfer blychau gwybodaeth gyswllt ddim mewn trefn. Nid yw hyn yn bodloni Maen Prawf Llwyddiant 2.4.6 ac mae wrthi’n cael ei ddatblygu ar hyn o bryd
  • Dydy’r negeseuon gwall ddim wedi'u nodi'n glir. Nid yw hyn yn bodloni Maen Prawf Llwyddiant 3.3.1 ac mae wrthi’n cael ei ddatblygu ar hyn o bryd, a byddir yn mynd i’r afael ag ef erbyn mis Mai 2021
  • Dydy’r negeseuon gwall ddim yn cynnig awgrymiadau clir o ran gwallau. Nid yw hyn yn bodloni Maen Prawf Llwyddiant 3.3.3 ac mae wrthi’n cael ei ddatblygu ar hyn o bryd, a byddir yn mynd i’r afael ag ef erbyn mis Mai 2021

Paratoi’r datganiad hygyrchedd hwn

Cafodd y datganiad hwn ei baratoi ar 1 Ebrill 2021.

Cafodd y wefan hon ei phrofi ddiwethaf ym mis Ebrill 2021. Cynhaliwyd y prawf gan Ofcom, a defnyddiwyd yr offer canlynol:

  • JAWS
  • NVDA
  • Offeryn Gwerthuso WAVE
  • headingsMap
  • Pecyn cymorth ARC
  • Accessibility Insights for Web
  • Gwiriwr Cyferbyniad Lliw WCAG
  • Chwyddo’r Testun yn Unig
  • Darllen yn Uchel
  • Adroddwr
  • Bwlch rhwng testun
Yn ôl i'r brig