Mae’r datganiad hwn yn berthnasol i dudalennau gwe sy’n dechrau gyda ofcomlive.my.salesforce-sites.com/formentry/PRS
Ofcom sy'n cynnal y wefan hon. Rydym am sicrhau bod cynifer â phosib o bobl yn gallu defnyddio'r wefan hon. Er enghraifft, mae hyn yn golygu y dylech chi allu gwneud y canlynol:
- newid lliwiau, lefelau cyferbyniad a ffontiau
- chwyddo i mewn hyd at 200% heb golli'r testun oddi ar y sgrin
- llywio drwy ran o'r wefan gan ddefnyddio dim ond bysellfwrdd
- llywio drwy'r rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio meddalwedd adnabod llais
- gwrando ar y rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio darllenydd sgrin (gan gynnwys fersiynau diweddaraf JAWS, NVDA a VoiceOver)
- Cael strwythur penawdau ystyrlon ar y rhan fwyaf o dudalennau
- Profi safonau AA o ran 1.4.3 Cyferbyniad
- Gwneud cais rhesymol am fformatau eraill, y bydd Ofcom yn eu hystyried
- Rydym wedi gwneud testun y wefan mor syml â phosib i’w ddeall gan gyhoeddi erthyglau defnyddwyr yng nghyswllt cyhoeddiadau mawr
Mae cyngor ar gael ar AbilityNet ynghylch gwneud eich dyfais yn haws ei defnyddio os oes gennych chi anabledd.
Pa mor hygyrch yw'r wefan hon
Rydym yn gwybod nad yw rhai rhannau o’r wefan hon yn gwbl hygyrch:
- Mae rhai rhannau o'r adnodd yn anoddach eu defnyddio gyda bysellfyrddau a meddalwedd darllenydd sgrin.
- Mae rhai cydrannau’n anoddach eu defnyddio gyda thechnolegau cynorthwyol gan nad ydynt yn cynnwys labeli disgrifiadol neu labeli sydd wedi’u pennu’n rhaglennol.
Adborth a gwybodaeth gyswllt
Os oes angen gwybodaeth arnoch am y wefan hon mewn fformat gwahanol, fel PDF hygyrch, print bras, testun hawdd ei ddarllen, recordiad sain neu braille, cysylltwch â ni gan ddefnyddio’r ffurflen adborth ar y wefan. Byddwn yn ystyried eich cais ac yn cysylltu â chi o fewn 21 diwrnod.
Gallwch gysylltu â ni dros y ffôn, drwy’r post neu drwy anfon e-bost at accessibilityrequests@ofcom.org.uk. Mae manylion am hyn a sut i gysylltu â ni drwy gyfrwng y Gymraeg neu BSL ar gael ar ein tudalen cysylltu â ni.
Gallwch hefyd gwyno drwy ein hyb.
Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd gyda'r wefan hon
Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os ydych chi’n dod o hyd i unrhyw broblemau sydd heb eu rhestru ar y dudalen hon, neu os ydych chi’n meddwl nad ydym yn cyflawni’r gofynion o ran hygyrchedd, cysylltwch â ni gan ddefnyddio’r ffurflen adborth ar y wefan.
Gweithdrefn Gorfodi
Y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) sy’n gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau ac Apiau Symudol) (Rhif 2) 2018 (y ‘rheoliadau hygyrchedd’). Os nad ydych chi’n fodlon ar sut rydym yn ymateb i’ch cwyn, cysylltwch â’r Gwasanaeth Cynghori a Chefnogi Cydraddoldeb (EASS).
Gwybodaeth dechnegol am hygyrchedd y wefan hon
Mae Ofcom wedi ymrwymo i sicrhau bod ei wefan yn hygyrch, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau ac Apiau Symudol) (Rhif 2) 2018.
Statws cydymffurfio
Mae’r wefan hon yn cydymffurfio’n rhannol â Chanllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We fersiwn 2.2.Safon AA oherwydd y diffyg cydymffurfio a restrir isod.
Methu cydymffurfio â’r rheoliadau hygyrchedd
- Nid yw tudalennau sydd â blychau ticio a botymau radio yn cael eu cyflwyno'n gywir i raglenni darllen sgrin, a gall fod yn anodd i ddefnyddwyr darllenydd sgrin ddeall pwrpas rhai cwestiynau. Nid yw hyn yn bodloni Maen Prawf Llwyddiant 4.1.2 Enw, Rôl, Gwerth
- Nid yw rhai meysydd wedi’u nodi’n glir fel rhai gorfodol, a allai arwain at wallau yn y ffurflen. Nid yw hyn yn bodloni Maen Prawf Llwyddiant 3.3.2 Labeli neu Gyfarwyddiadau.
- Nid yw cynnwys mewn blychau naid yn cael ei gyflwyno'n briodol i ddefnyddwyr darllenydd sgrin. Gall fod yn anodd deall pwrpas y blwch naid. Nid yw hyn yn bodloni Maen Prawf Llwyddiant 4.1.2 Enw, Rôl, Gwerth
- Nid yw rhai negeseuon statws, gan gynnwys "wrthi’n llwytho", yn cael eu cyflwyno i ddefnyddwyr darllenydd sgrin. Nid yw hyn yn bodloni Maen Prawf Llwyddiant 4.1.3, Negeseuon Statws.
- Nid yw meysydd chwilio wedi'u labelu'n iawn. Gall hyn fod yn anodd i ddefnyddwyr ddeall sut i ddefnyddio’r mathau hyn o feysydd. Nid yw hyn yn bodloni Maen Prawf Llwyddiant 3.3.2 Labeli neu Gyfarwyddiadau.
- Nid oes mecanwaith ar gael i anwybyddu cynnwys sy’n cael ei ailadrodd. Nid yw hyn yn bodloni Maen Prawf Llwyddiant 2.4.1, Osgoi Rhwystrau.
- Nid yw trefn tabiau rhai elfennau yn rhesymegol. Gall hyn olygu ei bod yn anodd i ddefnyddwyr darllenydd sgrin a bysellfwrdd ganfod ble maent ar y dudalen. Nid yw hyn yn bodloni Maen Prawf Llwyddiant 2.4.3, Trefn Ffocws.
- Nid yw rhai dangosyddion ffocws yn bodloni’r lefel isaf o gyferbyniad lliw. Nid yw hyn yn bodloni Maen Prawf Llwyddiant 2.4.7, Ffocws Gweladwy.
- Nid yw teitl pob tudalen yn unigryw. Gall hyn olygu ei bod yn anodd i ddefnyddwyr darllenydd sgrin ganfod ar ba dudalen y maent. Nid yw hyn yn bodloni Maen Prawf Llwyddiant 2.4.2, Teitlau Tudalennau.
Rydym yn bwriadu datrys yr uchod erbyn mis Rhagfyr 2025.
Paratoi’r datganiad hygyrchedd hwn
Paratowyd y datganiad hwn ar 17 Ionawr 2025.
Cafodd y wefan hon ei phrofi ddiwethaf ym mis Ionawr 2025. Cynhaliwyd y prawf gan Ofcom, a defnyddiwyd yr offer canlynol yn ogystal â dulliau profi eraill.
- JAWS
- Offeryn Gwerthuso WAVE
- headingsMap
- Accessibility Insights for Web
- Gwiriwr Cyferbyniad Lliw WCAG