Datganiad hygyrchedd ar gyfer Porth Trwyddedu Ofcom

Cyhoeddwyd: 24 Mawrth 2023
Diweddarwyd diwethaf: 7 Ebrill 2025

Mae’r datganiad hwn yn berthnasol i dudalennau gwe sy’n dechrau gyda licensing-portal.ofcom.org.uk.

Ofcom sy'n cynnal y wefan hon. Rydym am sicrhau bod cynifer â phosib o bobl yn gallu defnyddio'r wefan hon. Er enghraifft, mae hyn yn golygu y dylech chi allu gwneud y canlynol:

  • newid lliwiau, lefelau cyferbyniad a ffontiau
  • chwyddo i mewn hyd at 200% heb golli'r testun oddi ar y sgrin
  • llywio drwy ran o'r wefan gan ddefnyddio dim ond bysellfwrdd
  • llywio drwy'r rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio meddalwedd adnabod llais
  • gwrando ar y rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio darllenydd sgrin (gan gynnwys fersiynau diweddaraf JAWS, NVDA a VoiceOver)
  • Cael strwythur penawdau ystyrlon ar y rhan fwyaf o dudalennau
  • Profi safonau AA o ran 1.4.3 Cyferbyniad
  • Gwneud cais rhesymol am fformatau eraill, y bydd Ofcom yn eu hystyried

Mae cyngor ar gael ar AbilityNet ynghylch gwneud eich dyfais yn haws ei defnyddio os oes gennych chi anabledd.

Pa mor hygyrch yw'r wefan hon

Rydym yn gwybod nad yw rhai rhannau o’r wefan hon yn gwbl hygyrch:

  • Mae rhai rhannau yn anodd eu defnyddio gyda bysellfyrddau a meddalwedd darllenydd sgrin.
  • Mae rhai cydrannau’n anodd eu defnyddio gyda thechnolegau cynorthwyol gan nad ydynt yn cynnwys labeli disgrifiadol neu labeli sydd wedi’u pennu’n rhaglennol.

Adborth a gwybodaeth gyswllt

Os oes angen gwybodaeth arnoch am y wefan hon mewn fformat gwahanol, fel PDF hygyrch, print bras, testun hawdd ei ddarllen, recordiad sain neu braille, cysylltwch â ni gan ddefnyddio’r ffurflen adborth ar y wefan. Byddwn yn ystyried eich cais ac yn cysylltu â chi o fewn 21 diwrnod.

Gallwch gysylltu â ni dros y ffôn, drwy’r post neu drwy anfon e-bost i accessibilityrequests@ofcom.org.uk. Mae manylion am hyn a sut i gysylltu â ni drwy gyfrwng y Gymraeg neu BSL ar gael ar ein tudalen cysylltu â ni.

Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd gyda'r wefan hon

Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os ydych chi’n dod o hyd i unrhyw broblemau sydd heb eu rhestru ar y dudalen hon, neu os ydych chi’n meddwl nad ydym yn cyflawni’r gofynion o ran hygyrchedd, cysylltwch â ni gan ddefnyddio’r ffurflen adborth ar y wefan.

Gweithdrefn Gorfodi

Y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) sy’n gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau ac Apiau Symudol) (Rhif 2) 2018 (y ‘rheoliadau hygyrchedd’). Os nad ydych chi’n fodlon ar sut rydym yn ymateb i’ch cwyn, cysylltwch â’r Gwasanaeth Cynghori a Chefnogi Cydraddoldeb (EASS).

Gwybodaeth dechnegol am hygyrchedd y wefan hon

Mae Ofcom wedi ymrwymo i sicrhau bod ei wefan yn hygyrch, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau ac Apiau Symudol) (Rhif 2) 2018.

Statws cydymffurfio

Mae’r wefan hon yn cydymffurfio’n rhannol â Chanllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We fersiwn 2.2.Safon AA oherwydd y diffyg cydymffurfio a restrir isod.

Methu cydymffurfio â’r rheoliadau hygyrchedd

  1. Mae cydrannau toglo ond yn defnyddio lliw i nodi eu pwrpas. Nid yw hyn yn bodloni Maen Prawf Llwyddiant 1.4.1 Defnyddio Lliw (Lefel A).
  2. Dydy trefn tabiau rhai elfennau ddim yn rhesymegol, a bydd ffocws y bysellfwrdd yn cael ei ailosod ar ôl dewis rhywfaint o ddata technegol. Gall hyn ei gwneud yn anodd i ddefnyddwyr darllenydd sgrin a bysellfwrdd ganfod ble maen nhw ar y dudalen. Nid yw hyn yn bodloni Maen Prawf Llwyddiant 2.4.3, Trefn Ffocws.
  3. Nid yw rhywfaint o gynnwys, fel negeseuon cadarnhau, crynodebau rhaglenni na chanlyniadau chwilio yn cael eu cyflwyno i ddarllenwyr sgrin, sy'n ei gwneud yn anodd i ddefnyddwyr ddeall y cyd-destun, a gwybod pan fydd eu gweithredoedd wedi'u cwblhau. Nid yw hyn yn bodloni Maen Prawf Llwyddiant 4.1.3, Negeseuon Statws.
  4. Nid yw rhai dangosyddion ffocws yn glir, gall hyn fod yn anodd i ddefnyddiwr bysellfwrdd nodi lle maen nhw ar dudalen. Nid yw hyn yn bodloni Maen Prawf Llwyddiant 2.4.7, Ffocws Gweladwy.
  5. Does dim modd defnyddio rhywfaint o gynnwys fel dewis cyswllt gyda darllenydd sgrin. Nid yw hyn yn bodloni Maen Prawf Llwyddiant 1.3.1 Gwybodaeth a Pherthnasoedd.
  6. Nid yw rhai gwallau wedi’u nodi’n glir yn y ffurflenni cais, a gall hyn ei gwneud yn anodd i ddefnyddwyr wneud cywiriadau. Nid yw hyn yn bodloni Maen Prawf Llwyddiant 3.3.1, Adnabod Gwallau.
  7. Nid yw rhai meysydd wedi’u nodi’n glir fel rhai gorfodol, a allai arwain at wallau yn y ffurflen. Nid yw hyn yn bodloni Maen Prawf Llwyddiant 3.3.2 Labeli neu Gyfarwyddiadau (Lefel A).
  8. Does dim modd cau rhai dewislenni gan ddefnyddio bysellfwrdd. Gall hyn ei gwneud yn anodd i ddefnyddwyr bysellfwrdd lywio oddi wrth y dewislenni hynny. Nid yw hyn yn bodloni Maen Prawf Llwyddiant 2.1.2 Dim Trap Bysellfwrdd.
  9. Mae rhai botymau'n ymddangos yn segur oherwydd y lliwiau a ddefnyddir; gall hyn arwain defnyddwyr i feddwl nad oes modd defnyddio botymau. Nid yw hyn yn bodloni Maen Prawf Llwyddiant 1.4.1 Defnyddio Lliw.
  10. Mae rhai botymau wedi'u labelu'n anghywir fel dolenni. Gall hyn arwain defnyddwyr i dybio bod eu swyddogaeth yn wahanol i swyddogaeth botwm. Nid yw hyn yn bodloni Maen Prawf Llwyddiant 3.3.2 Labeli neu Gyfarwyddiadau.

Rydym yn bwriadu datrys yr uchod erbyn mis Mehefin 2026.

Paratoi’r datganiad hygyrchedd hwn

Paratowyd y datganiad hwn ar 24 Chwefror 2025.

Cafodd y wefan hon ei phrofi ddiwethaf ym mis Chwefror 2025. Cynhaliwyd y prawf gan Ofcom, a defnyddiwyd yr offer canlynol yn ogystal â dulliau profi eraill.

  • JAWS
  • Offeryn Gwerthuso WAVE
  • headingsMap
  • Accessibility Insights for Web
  • Gwiriwr Cyferbyniad Lliw WCAG
Yn ôl i'r brig