Datganiad: Gwasanaethau cyfyngedig – cynigion i gynyddu'r sbectrwm sydd ar gael a symleiddio ein hymagwedd at drwyddedu

Cyhoeddwyd: 14 Mawrth 2022
Ymgynghori yn cau: 9 Mai 2022
Statws: Ar gau (yn aros datganiad)

Datganiad wedi'i gyhoeddi 19 Gorffennaf 2022

Mae gan wasanaethau cyfyngedig ardaloedd bach o ddarpariaeth ac fe'u defnyddir yn aml i ddarlledu mewn digwyddiadau, neu o fewn sefydliad penodol. Maent yn cynnwys radio ysbyty, traciau sain ffilmiau gyrru i mewn a sylwebaeth ar gyfer digwyddiadau awyr agored fel sioeau awyr. Maent hefyd yn cynnwys gwasanaethau radio ar gyfer arsylwi crefyddol megis Ramadan.

Darlledir gwasanaethau cyfyngedig yn bennaf yn y bandiau darlledu AM a FM, ond nid oes gennym ddigon o amleddau bob amser i ateb y galw. Ac mae diddordeb yn y gwasanaethau hyn ond wedi cynyddu yn ystod y pandemig Covid-19, yn enwedig ar gyfer digwyddiadau gyrru i mewn.

Er mwyn ateb y galw yn well, rydym wedi datblygu ymagwedd newydd ac arloesol at gynllunio sbectrwm sy'n ein galluogi i nodi bylchau bach yn y defnydd o sbectrwm – rhwng gwasanaethau radio darlledu presennol yn y band FM. Rydym yn cyfeirio at y bylchau hyn fel 'sbectrwm darpariaeth gyfyngedig'. Oherwydd y ddarpariaeth gyfyngedig y gellir ei chyflawni gan ddefnyddio'r sbectrwm hwn, nid yw'n addas ar gyfer darllediadau radio cenedlaethol, lleol a chymunedol, ond mae'n arbennig o addas ar gyfer darllediadau gwasanaeth cyfyngedig.

Byddwn ni'n gwneud defnydd mwy effeithlon o sbectrwm ddarpariaeth gyfyngedig i gynyddu'r adnoddau sbectrwm cyffredinol sydd ar gael ar gyfer gwasanaethau cyfyngedig. Bydd hyn yn darparu cyfleoedd i fwy o'r mathau hyn o wasanaethau gael eu trwyddedu.

Rydym hefyd yn symleiddio ein dull trwyddedu ar gyfer gwasanaethau cyfyngedig ac i wneud y broses ymgeisio yn fwy syml.

Ymatebion

Manylion cyswllt

Cyfeiriad
RSL Review
Broadcast Licensing Team
Ofcom
Riverside House
2A Southwark Bridge Road
London SE1 9HA
Yn ôl i'r brig