Datganiad: Asesiad o sylwedd y newid yn sgil BritBox

Cyhoeddwyd: 19 Gorffennaf 2019
Ymgynghori yn cau: 12 Awst 2019
Statws: Ar gau (cyhoeddwyd y datganiad)
Datganiad: 19 Medi 2019

Mae’r ddogfen hon yn esbonio ein penderfyniad terfynol ynghylch a yw rhan y BBC yn BritBox, sef gwasanaeth fideo ar-alw newydd drwy danysgrifio ar y cyd ag ITV, yn cael ei ystyried yn ‘newid sylweddol’ i’w weithgareddau masnachol.

Pan fydd y BBC yn cymryd rhan mewn gweithgareddau newydd neu wahanol iawn, mae Siarter y BBC yn mynnu bod angen ystyried a yw’n newid sylweddol i’w weithgareddau masnachol. Os felly, byddai angen archwilio’r newid yn fanwl cyn ei lansio.

Aeth Bwrdd y BBC ati i asesu rhan arfaethedig y BBC yn BritBox, a phennu nad oedd yn sylweddol. O dan y Siarter, mae’n rhaid i Ofcom ystyried y cwestiwn hwn hefyd, fel rhan o’n rôl i amddiffyn cystadleuaeth deg ac effeithiol.

Manylion cyswllt

Cyfeiriad
Caroline Longman
Ofcom, Riverside House
2a Southwark Bridge Road
London
SE1 9HA
Yn ôl i'r brig