Datganiad: 19 Medi 2019
Yn ystod mis Awst a mis Medi 2019, fe wnaethom ymgynghori ar y cais gan ITV i ddarlledu darllediadau byw ecsgliwsif o Gwpan Rygbi’r Byd 2019. Mae Cwpan Rygbi’r Byd yn cael ei gynnal yn Japan rhwng 20 Medi a 2 Tachwedd 2019 ac mae’n cynnwys 48 gêm rygbi.
Cafodd Ofcom un ymateb ynghylch darparu darllediadau Cymraeg addas o Gwpan Rygbi’r Byd 2019. Wrth ystyried y pryder hwn, rydym wedi nodi yn ein hymgynghoriad fod S4C wedi cael yr hawl i ddarlledu’n Gymraeg, gan gynnwys darlledu’n fyw ac uchafbwyntiau gyda’r nos o bob un o gemau Cymru yn ystod y Twrnamaint, yn ogystal ag un gêm o bob rownd bwrw allan, y gêm gyntaf a’r Gêm Derfynol. Ni chafwyd datganiadau o ddiddordeb.
Ar ôl ystyried yr ymateb i’r ymgynghoriad a’r wybodaeth a ddarparwyd gan ITV i gefnogi eu cais, mae Ofcom wedi penderfynu caniatáu i ITV wneud darllediadau byw ecsgliwsif.
Manylion cyswllt
Ofcom
Riverside House
2a Southwark Bridge Road
London
SE1 9HA