Pam mae amrywiaeth yn bwysig

Cyhoeddwyd: 1 Gorffennaf 2021

Mae'r adran hon yn cynnwys astudiaethau achos ar amrywiaeth a chynhwysiad mewn darlledu.

Rydym yn diweddaru'r adran hon yn rheolaidd gyda myfyrdodau gan gynulleidfaoedd a phobl sy'n gweithio ar draws y diwydiant.

Sgwrs gydag arweinwyr diwydiant:

Fel rhan o'n digwyddiad yn Hydref 2020 Sgrîn Fach Trafodaeth Fawr, myfyriodd uwch arweinwyr ar draws y byd darlledu ar y rôl y mae darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus yn ei chwarae wrth gefnogi amrywiaeth ar y sgrîn ac oddi arni:

Ym mis Tachwedd 2020, cynhaliodd tîm Ofcom Cymru ddigwyddiad Sgrîn Fach Trafodaeth Fawr. Fel rhan o hyn, myfyriodd uwch reolwyr BBC Cymru Wales ac ITV Cymru Wales ar beth mae amrywiaeth yn ei olygu iddyn nhw:

Sbotolau ar RadioCentre

Rhannodd Radiocentre, corff Radio Masnachol y diwydiant, sut mae'n cefnogi amrywiaeth yn niwydiant radio y DU:

Safbwyntiau ar Amrywiaeth

Amrywiaeth yn niwydiant teledu'r DU

Mae'r beirniad ffilm/teledu a colofnydd Ellen E Jones, a'r actor, awdur a chynhyrchydd David Proud, yn rhannu mewnwelediadau personol ar amrywiaeth a chyfle cyfartal, yn seiliedig ar eu profiadau fel gweithwyr proffesiynol sy'n gweithio yn y diwydiant teledu. Cyhoeddwyd y fideos hyn yn gyntaf ochr yn ochr â'n hadroddiad blynyddol yn 2019 ar amrywiaeth a chyfle cyfartal yn niwydiant teledu'r DU.

Dialling up diversity in radio – podlediad gan Ofcom

Mae Vikki Cook, Cyfarwyddwr Darlledu a Chynnwys Ar-lein Ofcom, yn cadeirio trafodaeth d- flewyn ar dafod gyda Rhona Burns, Prif Swyddog Gweithredol Radio'r BBC; Will Harding, Prif Swyddog Strategaeth Global; a Paul Keenan, Llywydd Sain yn Bauer Media Group

Mae'r arweinwyr diwydiant hyn yn esbonio eu barn am wella amrywiaeth, ac mae amrywiaeth o bobl o ystod o gefndiroedd amrywiol yn rhannu eu profiadau o lwyddo ym myd radio. Cyhoeddwyd y podlediad hwn yn gyntaf ochr yn ochr â'n hadroddiad blynyddol yn 2018 ar amrywiaeth a chyfle cyfartal yn niwydiant radio'r DU.

Cyhoeddwyd y podlediad hwn yn gyntaf ochr yn ochr â'n hadroddiad blynyddol 2019 ar amrywiaeth a chyfle cyfartal yn niwydiant radio'r DU (PDF, 13.8 MB).

Pam mae amrywiaeth ym maes teledu'n bwysig

Cyfle i glywed gan uwch arweinwyr mewn rhai o'r darlledwyr mwyaf ar pam mae amrywiaeth yn bwysig ar draws y diwydiant teledu. Cyhoeddwyd y fideos hyn yn gyntaf ochr yn ochr â'n hadroddiad blynyddol yn 2018 ar amrywiaeth a chyfle cyfartal yn niwydiant teledu'r DU.

Ymchwil gan Ofcom

Rydym yn gwneud cryn dipyn o ymchwil sy'n edrych ar beth mae cynulleidfaoedd yn ei feddwl am amrywiaeth a chynhwysiad  mewn darlledu. Isod mae detholiad o'n cyhoeddiadau ymchwil allweddol:

Mae ein hymchwil Sgrîn Fach:Trafodaeth Fawr yn ymchwilio i beth mae pobl ar draws y DU ei eisiau a'i angen gan ddarlledu gwasanaeth cyhoeddus.

Mae ein hymchwil Disgwyliadau Cynulleidfaoedd mewn Byd Digidol yn rhoi mewnwelediad i sut mae pobl yn teimlo  am yr hyn y maent yn ei weld a'i glywed ar y teledu a'r radio. Mae'r ymchwil yn dangos b od cynulleidfaoedd eisiau i Ofcom ymdrin â chynnwys gwahaniaethol fel blaenoriaeth

Hyb Ymchwil Cynrychiolaeth a Phortreadu - Yn 2018, fe adolygom sut mae'r BBC yn cynrychioli ac yn portreadu pobl wahanol ar y teledu. Mae'r ymchwil sy'n  sail i'r adolygiad hwn yn cynnig mewnwelediadau eang eu cwmpas a diddorol i beth mae pobl yn ei feddwl am gynrychiolaeth a phortreadu ar y teledu.

Rate this page

Thank you for your feedback.

We read all feedback but are not able to respond. If you have a specific query you should see other ways to contact us.

Was this page helpful?
Yn ôl i'r brig