Trosolwg o gylch gwaith amrywiaeth mewn darlledu Ofcom

Cyhoeddwyd: 2 Tachwedd 2022
Diweddarwyd diwethaf: 16 Mawrth 2023

Mae'r dudalen hon yn darparu trosolwg o bwerau cyfreithiol Ofcom mewn perthynas ag amrywiaeth mewn darlledu ac nid yw'n gynhwysfawr.

Rhwymedigaethau amrywiaeth gweithlu darlledwyr

Sail gyfreithiol

O dan Ddeddf Cyfathrebiadau 2003, mae'n ofynnol i Ofcom:

  • gymryd y camau y tybiwn eu bod yn briodol ar gyfer hyrwyddo cyfle cyfartal rhwng dynion a menywod, pobl o grwpiau hiliol gwahanol ac ar gyfer pobl anabl mewn perthynas â chyflogaeth a hyfforddi/ailhyfforddi gan y darlledwyr teledu a radio  rydym yn eu rheoleiddio; a
  • phennu amodau trwydded sy'n mynnu bod darlledwyr yn gwneud trefniadau i hyrwyddo cyfle cyfartal rhwng dynion a menywod, pobl o grwpiau hiliol gwahanol ac ar gyfer pobl anabl. Mae hyn yn cynnwys gwneud pobl sydd wedi'u heffeithio'n ymwybodol o'r trefniadau, adolygu'r trefniadau, a chyhoeddi arsylwadau ar weithrediad ac effeithiolrwydd y trefniadau o leiaf bob blwyddyn.

Amodau trwydded

Fel amod o'u trwydded gan Ofcom, mae'n ofynnol i ddarlledwyr teledu a radio wneud trefniadau i:

  • hyrwyddo cyfle cyfartal mewn cyflogaeth rhwng dynion a menywod, pobl o grwpiau hiliol gwahanol ac ar gyfer pobl anabl; ac i
  • hyfforddi neu ailhyfforddi pobl sydd wedi'u cyflogi wrth ddarparu'r gwasanaeth a drwyddedir neu mewn perthynas ag ef.

Wrth wneud y trefniadau hyn, mae'n rhaid i ddarlledwyr:

  • roi sylw i arweiniad Ofcom ar amrywiaeth mewn darlledu; a
  • gwneud y bob sydd wedi'u heffeithio'n ymwybodol o'r trefniadau hyn, adolygu'r trefniadau o bryd i'w gilydd, a chyhoeddi arsylwadau ar eu gweithrediad ac effeithiolrwydd o leiaf bob blwyddyn.

Nid yw'r rhwymedigaethau hyn ond yn berthnasol i ddarlledwyr (gan gynnwys y rhai o fewn grŵp o gwmnïau) sy'n cyflogi nwy nag ugain o bobl mewn perthynas â darparu gwasanaethau trwyddedig, ac sydd wedi'u hawdurdodi i ddarlledu am fwy na 31 diwrnod y flwyddyn.

Mae'n ofynnol hefyd i'r BBC wneud trefniadau ar gyfer hyrwyddo cyfle cyfartal mewn perthynas ag anableddau, hil a rhyw. Mae'r gofynion hyn wedi'u disgrifio yn Atodlen 3 Cytundeb y BBC.

Beth rydym yn ei wneud

Fel rhan o'n dyletswyddau statudol, rydym yn monitro gweithluoedd a threfniadau cyfle cyfartal darlledwyr. Rydym yn cywain gwybodaeth am gyflogeion darlledwyr o ran hil, rhyw ac anableddau ar sail fandadol. Rydym hefyd yn cywain gwybodaeth am nodweddion gwarchodedig eraill a ddisgrifir yn Neddf Cydraddoldeb 2010 (crefydd neu gred, tueddfryd rhywiol ac oedran), yn ogystal â chefndir cymdeithasol ac economaidd, ar sail wirfoddol. Rydym yn dal y diwydiant yn atebol yn ein hadroddiadau blynyddol ar gyfansoddiad gweithluoedd darlledwyr.

Rydym yn darparu arweiniad ar gyfer darlledwyr ar wneud eu trefniadau cyfle cyfartal. Fel a amlinellir uchod, fel amod o'u trwydded, mae'n rhaid i ddarlledwyr roi sylw i'r arweiniad hwn wrth wneud ac adolygu eu trefniadau i hyrwyddo cyfle cyfartal rhwng dynion a menywod, pobl o grwpiau hiliol  gwahanol ac ar gyfer pobl anabl. Gall yr arweiniad helpu darlledwyr i wneud trefniadau hefyd i hyrwyddo cyfle cyfartal mewn perthynas â'r nodweddion gwarchodedig eraill o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 nad ydynt wedi'u cofnodi gan Ddeddf Cyfathrebiadau 2003.

Rydym yn cynnal digwyddiadau a thrafodaethau rheolaidd i'r diwydiant hefyd er mwyn rhannu syniadau a gweithio ar y cyd i wneud cynnydd cyflymach ar hyrwyddo cyfle cyfartal mewn darlledu.

Gall Ofcom gymryd camau gorfodi yn erbyn darlledwyr os nad ydynt yn cydymffurfio â'u hamodau trwydded.

Beth na allwn ei wneud

Nid oes gennym bwerau cyfreithiol i:

  • bennu a/neu orfodi cwotâu neu dargedau ar gyfer amrywiaeth mewn darlledu;
  • mynnu bod data'n cael ei ddarparu ar y gweithlu darlledu llawrydd;
  • rheoli neu orfodi cyllido sydd wedi'i glustnodi neu sydd ag elfen o gystadleuaeth; neu
  • drin cwynion mewn perthynas ag amrywiaeth y gweithlu.

Gofynion amrywiaeth ychwanegol ar gyfer darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus

Mae Ofcom yn adolygu'r cyfraniad y mae'r darlledwyd gwasanaeth cyhoeddus (“PSBs”) - BBC, ITV, STV, Channel 4, Channel 5 ac S4C – wedi'i wneud i'r dibenion ac amcanion darlledu gwasanaeth cyhoeddus statudol, sy'n cynnwys adlewyrchu amrywiaeth u DU yn eu rhaglenni. Gallwch gael mwy o wybodaeth am rôl Ofcom wrth ddal y PSBs yn atebol am fodloni'r dyletswyddau hyn ar ein gwefan Sgrîn Fach Trafodaeth Fawr.

Gofynion cynhyrchu y tu allan i Lundain

Mae'n rhaid i Ofcom sicrhau hefyd bod cyfran briodol o'r cynyrchiadau a gomisiynwyd gan y PSBs (y BBC, y trwyddedeion Channel 3 (ITV ac STV), Channel 4 a Channel 5) ar gyfer darllediadau teledu DU-gyfan yn cael eu gwneud yn y DU y tu allan i'r M25 ac yn ychwanegol ar gyfer y BBC, yn y cenhedloedd. Mae Ofcom wedi pennu cwotâu ar yr isafswm cyfran o oriau a gwariant y mae'n rhaid eu dyrannu i gynyrchiadau rhanbarthol.

Mae Ofcom hefyd yn pennu cwotâu ar gyfer rhaglenni rhanbarthol i BBC One, BBC Two a'r gwasanaethau Channel 3 (ITV ac STV) i sicrhau y neilltuir maint priodol o amser i raglenni rhanbarthol o ddiddordeb penodol i bobl sy'n byw yn yr ardal ddaearyddol lle darperir y gwasanaeth. Gallwch gael mwy o wybodaeth ar ein gwefan.

Rhwymedigaethau amrywiaeth ehangach

Mae gan y BBC a Chorfforaeth Channel 4 rwymedigaethau ychwanegol gysylltiedig ag amrywiaeth:

BBC

Mae Siarter y BBC yn mynnu bod y BBC yn adlewyrchu, yn cynrychioli ac yn gwasanaethu cymunedau amrywiol cenhedloedd a rhanbarthau 'r Deyrnas Unedig. Mae Ofcom wedi pennu nifer o amodau gysylltiedig ag amrywiaeth yn Nhrwydded Weithredu'r BBC, gan gynnwys gofyniad i gynhyrchu Cod Ymarfer Comisiynu Amrywiaeth ac i adrodd yn flynyddol i Ofcom ar gydymffurfio â'r cod ymarfer hwn

Mae'n rhaid hefyd i'r BBC adrodd yn flynyddol ar:

  • sut y mae wedi adlewyrchu, cynrychioli a gwasanaethu cymunedau amrywiol y DU i gyd;
  • ei chynnydd tuag at gwrdd â'i chynrychiolaeth ei hun ar y sgrîn a/neu dargedau portreadu;
  • ei data boddhad cwsmeriaid; ac
  • amrywiaeth yr holl staff (cyflogeion a llawrydd) a gyflogir mewn perthynas â darparu gwasanaethau cyhoeddus y DU.

Rydym yn asesu perfformiad y BBC yn erbyn ei rwymedigaethau yn ein hadroddiadau blynyddol ar y BBC.

Channel 4

Mae gan Channel 4 gylch gwaith statudol sy'n cynnwys darparu amrywiaeth eang o raglenni uchel eu hansawdd ac amrywiol sy'n apelio at flas a diddordebau cymdeithas sy'n amrywiol yn ddiwylliannol.

Estynnodd Deddf Economi Ddigidol 2010 rwymedigaethau Corfforaeth Channel 4 y tu hwnt i'r brif sianel trwy gyflwyno amrywiaeth o ddyletswyddau cynnwys cyfryngau a all gael eu cyflwyno ar draws ei holl wasanaethau. Mae hyn yn cynnwys gofynion i wneud amrywiaeth eang o gynnwys uchel ei ansawdd sy'n apelio at flas a diddordebau cymdeithas sy'n ddiwylliannol amrywiol ac i gefnogi datblygiad pobl sydd â doniau creadigol.

Mae Ofcom yn asesu perfformiad Corfforaeth Channel 4 yn erbyn ei rhwymedigaethau - am fwy o wybodaeth gweler ein hadolygiad cyfnodol diweddaraf.

Cod Darlledu Ofcom

At hynny, mae'n rhaid i ddarlledwyr gydymffurfio â'r rheolau yng Nghod Darlledu Ofcom. Mae'r rhain yn cynnwys bod yn rhaid i ddarlledwyr gymhwyso safonau a dderbynnir yn gyffredinol i gynnwys gwasanaethau teledu a radio er mwyn darparu gwarchodaeth ddigonol ar gyfer aelodau'r cyhoedd rhag cynnwys deunydd niweidiol a/neu dramgwyddus yn y fath wasanaethau.

Mae agweddau a goddefgarwch pobl o ran cynnwys rhaglenni teledu a radio'n newid dros amser. Mae ein hymchwil ddiweddar yn dangos bod gwylwyr a gwrandawyr bellach yn fwy tebygol o ystyried ymddygiad ac iaith wahaniaethol yn annerbyniol ac eisiau gweld hyn yn cael ei drin fel blaenoriaeth.

Gall Ofcom gymryd camau gorfodi os nad yw darlledwr yn cydymffurfio â'r rheolau yng Nghod Darlledu Ofcom.

Yn ôl i'r brig