A close-up photo of a camera lens

Ofcom yn agor pedwar ymchwiliad didueddrwydd dyladwy newydd i GB News

Cyhoeddwyd: 7 Awst 2023

Heddiw, mae Ofcom wedi agor pedwar ymchwiliad pellach i gydymffurfiaeth GB News â’n rheolau didueddrwydd dyladwy.

Mae’r ymchwiliad cyntaf yn ymwneud â rhifyn o Friday Morning with Esther and Phil, a ddarlledwyd ar 12 Mai 2023. Yn ystod y rhaglen, roedd trafodaeth am amryw faterion yn ymwneud ag unigolyn yn eu harddegau a oedd yn cael eu dedfrydu am droseddau terfysgaeth.

Yn benodol, bydd ein hymchwiliad yn penderfynu a dorrodd y rhaglen Reol 5.3 o’r Cod Darlledu. Mae hyn yn atal gwleidyddion rhag gweithredu fel darllenydd newyddion, cyfwelydd neu sylwebydd ar unrhyw raglen newyddion oni bai, mewn achos eithriadol, bod cyfiawnhad golygyddol dros hyn.

Rydym hefyd yn ymchwilio i ddwy raglen arall o dan y rheol ‘gwleidyddion yn gyflwynwyr’ – Jacob Rees-Mogg’s State of the Nation, 13 Mehefin 2023, lle trafodwyd digwyddiad trywanu yn Nottingham, a Saturday Morning with Esther and Phil, 13 Mai 2023, lle cafwyd cyfweliad gyda Howard Cox – ymgeisydd Reform UK yn Etholiad Maer Llundain – yn siarad yn fyw o wrthdystiad gwrth-Barthau Allyriadau Isel Iawn. Rydym hefyd yn asesu cydymffurfiaeth yr ail raglen â Rheol 5.1 o’r Cod Darlledu sy’n ei gwneud yn ofynnol i newyddion, ym mha ffurf bynnag, gael eu cyflwyno gyda didueddrwydd dyladwy.

Yn olaf, rydym yn ymchwilio i rifyn o Laurence Fox a ddarlledwyd ar 16 Mehefin 2023, a gafodd ei gyflwyno gan gyflwynydd gwadd, sef Martin Daubney. Roedd yn cynnwys trafodaeth am bolisi mewnfudo a lloches, yn arbennig mewn perthynas â’r mater cychod bach yn croesi’r Sianel, ac yn cynnwys cyfweliad gydag arweinydd y blaid wleidyddol Reform UK, Richard Tice.

Yn benodol, rydym yn ymchwilio i’r rhaglen hon o dan Reolau 5.11 a 5.12 o’r Cod Darlledu sy’n ei gwneud yn ofynnol i ddiogelu didueddrwydd dyladwy ar faterion a allai fod yn ddadleuol iawn o ran gwleidyddiaeth neu ddiwydiant, neu faterion yn ymwneud â pholisi cyhoeddus cyfredol, ac yn gofyn bod amrywiaeth briodol o eang o safbwyntiau sylweddol yn cael eu cynnwys a’u cydbwyso’n briodol.

Byddwn yn gweithio i ddod â’n hymchwiliadau i derfyn mor gyflym â phosibl yn unol â’r gweithdrefnau ffurfiol a gyhoeddwyd gennym y mae’n ofynnol i ni eu dilyn.

What-happens-when-we-investigate-a-programme_Investigation-timeline-CYM

Yn ôl i'r brig