Datganiad: Diwygiadau arfaethedig i'r Cod Darlledu a'r Cod ar Amserlennu Hysbysebion Teledu

Cyhoeddwyd: 24 Tachwedd 2020
Ymgynghori yn cau: 23 Rhagfyr 2020
Statws: Ar gau (cyhoeddwyd y datganiad)

Datganiad wedi'i gyhoeddi 31 December 2020

Mae fframwaith statudol sy'n siapio rheoleiddio gwasanaethau teledu'r DU yn newid.

Daeth Rheoliadau Gwasanaethau Cyfryngau Clyweledol 2020  i rym ar 1 Tachwedd 2020. Mae’r Rheoliadau’n rhoi’r Gyfarwyddeb Gwasanaethau Cyfryngau Clyweledol (AVMSD) ddiwygiedig ar waith yng nghyfraith y DU. Maen nhw’n diwygio Adran 319 o Ddeddf Cyfathrebiadau 2003, sy’n pennu amcanion y safonau sy’n sail i God Darlledu Ofcom.

O 1 Ionawr 2021 ymlaen, ni fydd y Gyfarwyddeb AVMS ei hun na’r egwyddor gwlad tarddiad yn berthnasol mwyach fel yr oeddent yn arfer bod yn berthnasol i wasanaethau teledu yn y DU a oedd yn darlledu i’r UE. Fodd bynnag, bydd y rheolau cynnwys a osodwyd gan y Gyfarwyddeb AVMS cyn y dyddiad hwnnw’n dal yn berthnasol. Mae hyn yn golygu y bydd y rheolau a oedd eisoes yn bodoli, a’r rhai yr ydym wedi bod yn ymgynghori arnynt i roi’r Gyfarwyddeb AVMS ar waith, yn dal yn berthnasol. Bydd ein rheolau a oedd yn rhoi’r Gyfarwyddeb AVMS ar waith yn cael eu dehongli fel o’r blaen.

Hefyd, bydd fframwaith y Confensiwn Ewropeaidd ar Deledu Trawsffiniol (ECTT) yn dal yn berthnasol, ac mae’r ddeddfwriaeth yn mynnu bod Ofcom yn ei roi ar waith. Mae hyn yn golygu bod gwasanaethau a sefydlwyd yn y DU sy’n darlledu i wledydd ECTT yn gorfod cydymffurfio â’r safonau darlledu sydd wedi’u nodi yn yr ECTT, sy’n cynnwys y safonau ar faint o hysbysebion mae darlledwyr yn gallu eu darlledu ac ymhle maen nhw’n cael eu hamserlennu.

Mae’r datganiad hwn yn cynnwys diwygiadau y mae Ofcom yn eu gwneud i’r Cod Darlledu a’r Cod ar Amserlennu Hysbysebion Teledu (COSTA) yn dilyn newidiadau deddfwriaethol diweddar.

Manylion cyswllt

Yn ôl i'r brig