Datganiad: Moderneiddio Trwydded Weithredu'r BBC

Cyhoeddwyd: 22 Mehefin 2022
Ymgynghori yn cau: 14 Medi 2022
Statws: Ar gau (cyhoeddwyd y datganiad)

Yn ystod y degawd diwethaf, mae tirwedd y cyfryngau a'r ffordd y mae cynulleidfaoedd yn defnyddio cynnwys wedi newid yn aruthrol. Yn y dirwedd gynyddol dameidiog hon, mae’r BBC yn parhau i chwarae rhan bwysig, ond mae angen iddo drawsnewid a moderneiddio er mwyn parhau i gyflawni ei gylch gwaith.

Mae angen i'n gwaith rheoleiddio foderneiddio hefyd, i adlewyrchu newidiadau yn nhirwedd y cyfryngau ac ymddygiad cynulleidfaoedd. Yn dilyn ymgynghori helaeth, mae’r datganiad hwn yn nodi ein penderfyniadau ar Drwydded Weithredu newydd i’r BBC.

Bydd y Drwydded newydd, a ddaw i rym ar 1 Ebrill 2023, o fudd i gynulleidfaoedd drwy ddiogelu cynnwys pwysig, tra’n galluogi’r BBC i addasu ac arloesi yn y modd y mae’n cyflwyno cynnwys i wylwyr a gwrandawyr. Am y tro cyntaf, mae'r drwydded hefyd yn gosod gofynion eang ar wasanaethau ar-lein y BBC – BBC iPlayer, BBC Sounds a gwefan y BBC – ac yn ei gwneud yn ofynnol i'r BBC gyflwyno adroddiadau cynhwysfawr ar ei gynlluniau a'i berfformiad

Ymatebion

Manylion cyswllt

Cyfeiriad

BBC Operating Licence review team
Ofcom
Riverside House
2A Southwark Bridge Road
London SE1 9HA

Yn ôl i'r brig