Datganiad: Dyfeisiau Mwyhau ar gyfer Ffonau Symudol

Cyhoeddwyd: 5 Ebrill 2017
Ymgynghori yn cau: 6 Mehefin 2017
Statws: Ar gau (cyhoeddwyd y datganiad)

Mae'r ddogfen hon yn nodi penderfyniad Ofcom i lunio rheoliadau a fydd yn caniatáu i ddefnyddwyr weithredu dau gategori o ddyfeisiau mwyhau ar gyfer ffonau symudol ar sail esemptiad trwydded, hy heb yr angen am drwydded:

  1. dyfeisiau mwyhau statig ar gyfer ffonau symudol i'w defnyddio dan do; a
  2. dyfeisiau mwyhau mantais isel ar gyfer ffonau symudol i'w defnyddio mewn cerbydau.

Mae dyfeisiau mwyhau ar gyfer ffonau symudol yn cynyddu'r signal rhwng ffôn symudol a gorsaf sylfaen gweithredwr rhwydwaith, ac maent yn gallu cynyddu'r ddarpariaeth mewn sefyllfaoedd lle mae'r signal yn wan. Mae'n anghyfreithlon i ddefnyddwyr eu defnyddio ar hyn o bryd, gan fod y mathau o ddyfeisiau mwyhau band llydan rydym yn dod ar eu traws heddiw yn gallu tarfu'n ormodol neu gael effeithiau andwyol eraill ar wasanaethau symudol i ddefnyddwyr eraill. Yr unig eithriad yw lle bo'r dyfeisiau mwyhau yn cael eu cyflenwi a'u gweithredu dan reolaeth gweithredwr rhwydwaith symudol.

Mae'r ddogfen hon yn nodi'r gofynion technegol y mae'n rhaid i ddyfeisiau mwyhau ar gyfer ffonau symudol eu bodloni er mwyn i ddefnyddwyr allu eu defnyddio'n gyfreithlon ar sail esemptiad trwydded, gan sicrhau hefyd nad ydynt yn debygol o darfu'n ormodol neu gael effaith andwyol ar ansawdd technegol gwasanaeth. Mae hyn yn ymwneud yn benodol â dyfeisiau mwyhau statig ar gyfer ffonau symudol i'w defnyddio dan do; a dyfeisiau mwyhau mantais isel ar gyfer ffonau symudol i'w defnyddio mewn cerbydau.

Dylid nodi bod defnyddio dyfeisiau mwyhau ar gyfer ffonau symudol, ar wahân i'r rheini a gyflenwir ac a weithredir dan reolaeth gweithredwr rhwydwaith symudol, yn anghyfreithlon nes i'r rheoliadau esemptiad trwydded ddod i rym yn gynnar yn 2018.

Bydd defnyddio mathau eraill o ddyfeisiau mwyhau ar gyfer ffonau symudol, ar wahân i'r rheini a gyflenwir ac a weithredir dan reolaeth gweithredwr rhwydwaith symudol, yn dal yn anghyfreithlon hyd yn oed ar ôl i'r rheoliadau ddod i rym.

Manylion cyswllt

Cyfeiriad
Jack Hindley
Ofcom
Riverside House
2A Southwark Bridge Road
London SE1 9HA
Yn ôl i'r brig