![6ghz-(web)](/siteassets/resources/images/-news-centre/thumbnail-images/spectrum/6ghz-web.jpg?width=1920&height=577&quality=80)
Mae Ofcom wedi cyhoeddi cynigion heddiw i ddarparu sbectrwm 6 GHz uchaf rhwng gwasanaethau symudol a Wi-Fi. Mae’r DU yn arwain ymdrechion i archwilio’r broses o rannu 6 GHz uchaf rhwng y ddwy dechnoleg wahanol hyn, a ddylai ddod â manteision i’r economi, ac mae hefyd wedi bod yn hyrwyddo’r dull hwn yn rhyngwladol.
Byddai’r sbectrwm newydd hwn yn rhoi llawer mwy o gapasiti i wasanaethau symudol a Wi-Fi, gan osod y sylfeini ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol o dechnolegau sy’n llyncu data, fel realiti rhithwir ac estynedig, a deallusrwydd artiffisial.
Mewn hwb i’r economi, byddai hefyd yn helpu darparwyr ffonau symudol a Wi-Fi i ddarparu gwell gwasanaethau i ragor o gwsmeriaid, yn enwedig lle mae’r galw mwyaf. Byddai’n cefnogi Wi-Fi uwch i gartrefi, i fusnesau ac i ddiwydiant, ac yn galluogi rhwydweithiau symudol i wasanaethu eu cwsmeriaid yn well, yn enwedig yn y mannau mwyaf prysur fel y stryd fawr neu stadia.
Dylai rhannu’r band arwain at ragor o fanteision cyffredinol i’r DU, gan helpu’r ddau wasanaeth i ymdopi â’r cynnydd mewn traffig, a chreu rhagor o gyfleoedd ar gyfer arloesi, twf a buddsoddiad.
O dan y cynigion, byddai angen i dechnoleg Wi-Fi a symudol integreiddio’n well yn y dyfodol, er enghraifft gyda mecanweithiau lle byddai Wi-Fi yn ‘synhwyro’ presenoldeb rhwydwaith symudol ac yn ymateb, gan arwain at wasanaethau gwell yn gyffredinol.
Cynigion
Ar gyfer rhan uchaf y band (6425-7125 MHz), rydym yn cynnig rhannu’r sbectrwm rhwng darparwyr gwasanaethau symudol a Wi-Fi masnachol. Byddem yn gwneud hyn mewn dau gam:
Cam 1: caniatáu Wi-Fi dan do pŵer isel ar draws y band 6 GHz Uchaf i gyd cyn gynted â phosibl, yn ddelfrydol cyn diwedd 2025.
Cam 2: awdurdodi gwasanaethau symudol i ddefnyddio’r band hefyd, yn gysylltiedig â chanlyniad trafodaethau ar lefel Ewropeaidd ar gysoni sut mae’r band yn cael ei ddefnyddio, rydym yn disgwyl gorffen hyn erbyn 2027.
Byddai cysoni Ewropeaidd yn golygu rhannu 6 GHz rhwng gwasanaethau symudol a Wi-Fi ar draws y cyfandir, a bydd yn helpu gweithgynhyrchwyr, gweithredwyr a defnyddwyr i gael yr hyder i fuddsoddi mewn offer a gwasanaethau ar gyfer y band, yr ydym yn awyddus i’w hannog.
Ar wahân, yn rhan isaf y band 6 GHz (5925-6425 MHz), rydym hefyd yn cynnig caniatáu i Wi-Fi pŵer uwch ac awyr agored weithredu o dan reolaeth cronfa ddata awtomataidd i ddiogelu defnyddwyr eraill rhag ymyriant. Ar hyn o bryd, mae Wi-Fi yn y band hwn wedi’i gyfyngu i ddefnydd pŵer isel dan do yn unig.
Byddai'r newid hwn yn helpu i ddod â Wi-Fi o ansawdd uchel i gampysau prifysgolion, ysbytai, gorsafoedd trenau, canolfannau diwydiannol a stadia chwaraeon, yn ogystal â gwasanaethau band eang nodweddiadol i gwsmeriaid gwledig.
Rydym yn ymgynghori ar ein cynigion ac yn croesawu adborth erbyn 8 Mai 2025.