Nid yw pob galwad farchnata yn alwad gan ganolfan alwadau sy'n ceisio gwerthu cynnyrch-weithiau dim ond clywed neges wedi ei recordio y byddwch chi.
Mae'n bosibl y bydd y negeseuon hyn yn honni bod iawndal yn ddyledus i chi, oherwydd damwain bersonol o bosibl neu oherwydd bod polisi yswiriant wedi cael ei gamwerthu i chi, neu dim ond ceisio marchnata cynnyrch neu wasanaeth i chi, o bosibl.
Mae'r canllaw hwn yn esbonio rhagor am alwadau marchnata sy'n cynnwys negeseuon wedi eu recordio a beth allwch chi ei wneud i'w stopio.
Os nad oedd y neges yn cynnwys unrhyw farchnata, ond yn neges wybodaeth gan gwmni yn dweud ei fod wedi ceisio eich ffonio chi ond nad oes staff yn rhydd i gymryd yr alwad, gelwir hyn yn 'alwad sy'n cael ei gadael'. Gallwch ddysgu rhagor am hyn drwy ddarllen y canllaw am alwadau mud a galwadau sy'n cael eu gadael.
Mae sawl pwrpas i’r galwadau hyn. Er enghraifft:
Rheoli hawliadau - mae’r rhain yn ymwneud yn bennaf â hawliadau am anafiadau personol a hawliadau am gamwerthu yswiriant gwarchod taliadau (PPI).
Rheoli dyledion – mae’r negeseuon hyn yn cynnig amrywiaeth o wasanaethau rheoli dyledion.
Mae sefydliadau’n defnyddio’r galwadau hyn i greu rhestr o gwsmeriaid posibl y maent wedyn yn ei gwerthu i gwmnïau sy’n cynnig y gwasanaeth yn y neges.
Yn achos hawliadau anafiadau personol, byddai’r rhestr yn cynnwys enwau pobl sydd â diddordeb mewn hawlio iawndal am anaf personol.
Mae’r rhestr hon wedyn yn cael ei gwerthu i gwmni sy’n rheoli hawliadau anafiadau personol. Bydd yn cysylltu â’r bobl ar y rhestr ac yn cynnig iddynt y gwasanaethau y maent yn eu darparu ar gyfer delio â hawliadau posibl.
Mae’n bosibl y bydd y galwadau hyn yn gofyn i chi bwyso ar rif er mwyn siarad ag asiant byw. Gallwch wrth gwrs ddewis rhoi’r ffôn i lawr. Ond, os byddwch yn derbyn neges farchnata awtomatig ac yn dewis gwasgu rhif i siarad â rhywun, ni fydd raid i chi dalu am yr alwad.
Os oedd rhif ffôn wedi ei gynnwys yn yr alwad, byddem yn eich cynghori i beidio â ffonio’r rhif, oni bai eich bod yn gyfarwydd â’r cwmni sy’n ceisio cysylltu â chi. Os byddwch yn penderfynu ffonio’r rhif, bydd costau’r alwad yn dibynnu ar sawl ffactor, fel y rhif y gwnaethoch ei alw ac a ydych yn galw o’ch ffôn llinell dir neu o’ch ffôn symudol, fel y nodir yn ein canllaw ar gostau galwadau.
Rhaid i gwmnïau neu sefydliadau sy’n gwneud galwadau marchnata awtomatig gael eich caniatâd chi cyn iddyn nhw eich ffonio.
Os ydych chi’n cael negeseuon marchnata awtomatig a heb roi eich caniatâd ymlaen llaw, gallwch gwyno wrth Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth. Y Swyddfa honno sy’n gyfrifol am orfodi’r rheoliadau yn y maes hwn.
Ceisiwch roi gymaint o wybodaeth â phosibl i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth am yr alwad, yn arbennig:
- y sefydliad a gyflwynodd y neges wedi ei recordio;
- rhif yr alwad;
- dyddiad ac amser yr alwad; a
- natur y gwerthu/marchnata a ddigwyddodd yn ystod yr alwad.
Cwyno wrth Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth
Gallwch gwyno i'r Comisiynydd drwy:
- ffonio y llinell gymorth: 0303 123 1113
- ymweld â gwefan Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth
- neu drwy'r post: Information Commissioner's Office, Wycliffe House, Water Lane, Wilmslow, Cheshire, SK9 5AF
Hyd yn oed os nad ydych yn gwybod pwy wnaeth eich ffonio, mae Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth yn dal yn dymuno clywed gennych chi.
Dylech fod yn ymwybodol o alwadau sgam, fel y rheini sy’n gofyn i chi anfon arian ymlaen llaw neu brynu rhywbeth ymlaen llaw cyn i chi gael y wobr neu’r cynnig, gofyn i chi wneud galwadau ffôn drud i gael y wobr neu’r cynnig, neu ofyn i chi am eich manylion banc neu wybodaeth bersonol arall.
Am yr wybodaeth a’r cyngor diweddaraf am y sgamiau diweddaraf, dylech gysylltu ag Action Fraud - canolfan genedlaethol y Deyrnas Unedig ar gyfer rhoi gwybod am dwyll. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i wefan y ganolfan.
Dylai cwmnïau tramor sy’n galw ar ran sefydliad yn y Deyrnas Unedig barhau i gydymffurfio â deddfwriaeth y Deyrnas Unedig.
Os ydych chi’n cael galwadau marchnata awtomatig o dramor ar ran cwmni yn y Deyrnas Unedig, dylech ddilyn yr arweiniad sydd wedi ei roi uchod.