Datganiad: Adolygiad o’r rhwymedigaeth gwasanaeth cyffredinol teleffoni

Cyhoeddwyd: 9 Tachwedd 2021
Ymgynghori yn cau: 11 Ionawr 2022
Statws: Ar gau (cyhoeddwyd y datganiad)

O dan y rhwymedigaeth gwasanaeth cyffredinol (USO) teleffoni, mae'n ofynnol i BT a KCOM ddarparu gwasanaethau teleffoni, gan gynnwys blychau ffôn cyhoeddus, ar draws y DU. Mae'r defnydd o flychau ffôn cyhoeddus wedi dirywio'n sylweddol, yn bennaf o ganlyniad i'r defnydd cynyddol o ffonau symudol. Ond i'r rhai sydd heb fynediad i linell dir neu ffôn symudol gweithredol, neu mewn ardaloedd sydd â darpariaeth symudol wael, gall blwch ffôn cyhoeddus fod yr unig ddewis ar gyfer gwneud galwadau i ffrindiau a theulu, llinellau cymorth ac, yn bwysicaf oll, cael mynediad at wasanaethau brys. Felly, rydym am ddiogelu'r blychau y mae eu hangen fwyaf rhag cael eu tynnu ymaith.

Bydd newid rhwydwaith ffonau'r DU i dechnoleg Protocol Rhyngrwyd (IP) hefyd yn cael effaith sylweddol ar y ddarpariaeth o flychau ffôn cyhoeddus yn y dyfodol. Bydd yr hen rwydwaith ffôn yn cael ei ymddeol erbyn mis Rhagfyr 2025, felly bydd angen uwchraddio blychau ffôn cyhoeddus gydag offer newydd i sicrhau y byddant yn dal i weithio. Yng ngoleuni'r datblygiadau hyn, rydym yn diweddaru ein rheolau fel y gall BT a KCOM gael gwared ar flychau ffôn cyhoeddus nad oes eu hangen bellach ac ar yr un pryd, diogelu'r blychau hynny y mae pobl yn dal i ddibynnu arnynt. Rydym hefyd wedi gwneud newidiadau eraill i foderneiddio a symleiddio'r rheolau USO teleffoni.

Manylion cyswllt

Yn ôl i'r brig