Ymgynghoriad: Hyrwyddo cystadleuaeth a buddsoddiad mewn rhwydweithiau ffeibr – Cynigion cychwynnol – Dull gweithredu ar gyfer atebion

Cyhoeddwyd: 29 Mawrth 2019
Ymgynghori yn cau: 7 Mehefin 2019
Statws: Ar gau (yn aros datganiad)

Mae'r galw am gysylltiadau band eang symudol a band eang sefydlog yn prysur gynyddu, gan bobl a chan fusnesau. I ateb y galw hwn, mae angen buddsoddi cryn dipyn i ddiweddaru seilwaith band eang y DU. Bydd angen rhagor o rwydweithiau ffeibr i gefnogi'r genhedlaeth nesaf o wasanaethau yn y DU, boed hynny’n cefnogi ffeibr mewn band eang mewn cartrefi, cysylltiadau i orsafoedd symudol 5G, neu gysylltedd di-dor i fusnesau. Mae Llywodraeth y DU hefyd wedi dangos cefnogaeth gref i ffeibr llawn, ac mae am weld 15 miliwn o safleoedd yn cael eu cysylltu erbyn 2025.

Ein nod yw cefnogi buddsoddiad a chystadleuaeth mewn gwasanaethau gwibgyswllt, i gynifer o bobl a busnesau â phosib. Ym mis Gorffennaf 2018, fe wnaethom nodi ein strategaeth gyffredinol i gefnogi buddsoddiad a chystadleuaeth mewn gwasanaethau gwibgyswllt.

Ein strategaeth yw sicrhau buddsoddiad mewn rhwydweithiau ffeibr gan BT a chwmnïau eraill, drwy hybu cystadleuaeth ar sail rhwydwaith. Rydym am annog cystadleuwyr BT i greu rhwydweithiau yn hytrach na dibynnu ar fynediad i rwydwaith Openreach. Cystadleuaeth yw’r ffordd orau o sicrhau buddsoddiad parhaus i ddatblygu a chynnal rhwydweithiau telegyfathrebu o safon uchel sy’n addas ar gyfer y dyfodol.

Mae sicrhau bod cwmnïau eraill yn cael cyfle teg i fuddsoddi ar gost isel yn hanfodol i'r strategaeth hon. Mae hyn yn golygu rhoi cyfle iddyn nhw gael yr un manteision â BT o ran ail-ddefnyddio’r seilwaith polion a phibellau presennol ar delerau cyfatebol. Mae hyn yn cael ei wneud drwy ein hadolygiad o'r farchnad seilwaith ffisegol.

Mae'r ddogfen hon yn nodi ein safbwyntiau cychwynnol ar fesurau rheoleiddio ar gyfer marchnadoedd telegyfathrebiadau sefydlog cyfanwerthol o 2021 ymlaen. Rydyn ni o’r farn mai’r rhain, ochr yn ochr â chael defnyddio polion a phibellau, fydd y ffordd orau o gyflawni ein strategaeth i sicrhau buddsoddiad drwy hybu cystadleuaeth ar sail rhwydwaith.

Ymateb i'r ymgynghoriad hwn

Cyflwynwch ymatebion gan ddefnyddio'r ffurflen ymatebion i'r ymgynghoriad (RTF, 261.5 KB).

Ymatebion

Manylion cyswllt

Cyfeiriad
Competition Group
Ofcom
Riverside House
2A Southwark Bridge Road
London SE1 9HA
Yn ôl i'r brig