Datganiad: Crwydro symudol – Cryfhau amddiffyniadau cwsmeriaid

Cyhoeddwyd: 20 Gorffennaf 2023
Ymgynghori yn cau: 28 Medi 2023
Statws: Ar gau (yn aros datganiad)
Diweddarwyd diwethaf: 1 Hydref 2024

Datganiad wedi'i gyhoeddi 22 Mawrth 2024

Ar ddiwedd mis Mehefin 2022, dirwymwyd mesurau diogelu statudol a oedd wedi'u dylunio'n benodol i amddiffyn cwsmeriaid wrth grwydro dramor. Ers hynny, rydym wedi bod wrthi'n adolygu profiadau cwsmeriaid o grwydro (yn yr UE ac yn ehangach) i ddeall a yw cwsmeriaid wedi'u hamddiffyn yn ddigonol rhag niwed posibl wrth grwydro.

Ym mis Gorffennaf 2023, gwnaethom ymgynghori ar gynigion ar gyfer rheolau a chanllawiau newydd yn ymwneud â chrwydro a chrwydro anfwriadol (pan fydd dyfais cwsmer yn cysylltu â rhwydwaith mewn gwlad wahanol er nad yw'r cwsmer yn gorfforol yn y wlad honno). Rydym wedi cyhoeddi ein penderfyniad terfynol ar y newidiadau i'r Amodau Cyffredinol a chanllawiau newydd.

Bydd y newidiadau hyn yn dod i rym ar 1 Hydref 2024.

Manylion cyswllt

Cyfeiriad
Roaming team
Ofcom
Riverside House
2A Southwark Bridge Road
London SE1 9HA
Yn ôl i'r brig