Cyfnewid fideo brys

Cyhoeddwyd: 31 Mawrth 2023

Gall defnyddwyr Iaith Arwyddion Prydeinig (BSL) nawr alw'r gwasanaethau brys yn eu hiaith gyntaf.

Mae Ofcom yn mynnu i ddarparwyr telathrebu ddarparu cyfnewid fideo brys yn y DU. Bydd hyn yn ei gwneud hi'n haws i ddefnyddwyr BSL byddar gael yr help sydd ei angen arnynt, fel yr heddlu, ambiwlans neu frigâd dân, mewn argyfyngau.

Bydd cyfnewid testun brys ac SMS brys yn parhau i fod ar gael ochr yn ochr â chyfnewid fideo brys.

Hoffem ddiolch i'r bobl fyddar a oedd yn rhan o'r ymgyrchu dros y newid hwn, ac sydd wedi rhoi cyngor i Ofcom.

I ddefnyddio cyfnewid fideo brys, bydd angen dyfais gysylltiedig arnoch fel ffôn clyfar, llechen neu gyfrifiadur. Gallwch gael mynediad at gyfnewid fideo brys drwy'r wefan 999BSL neu drwy lawrlwytho'r ap pwrpasol.

Pum peth y dylech chi wybod am gyfnewid fideo brys

  • Mae ar gael 24 awr y dydd
  • Gellir ei ddefnyddio am ddim
  • Mae'r gwasanaethau brys yn trin galwadau 999 BSL yn yr un modd yn union â galwadau 999 llais: mae ganddynt yr un flaenoriaeth ac yn cael eu hateb gan yr un staff yn yr ystafell rheoli argyfyngau
  • Pan fyddwch chi'n gwneud galwad cyfnewid fideo brys, mae eich lleoliad fel arfer yn cael ei ddarparu i'r gwasanaethau brys (eto, yn yr un modd yn union â galwad 999 lais)
  • Mae'r gwasanaeth wedi'i staffio gan ddehonglwyr cymwysedig a phrofiadol

Mae'r fideo yma wedi cael ei greu gan Ofcom. Ni yw rheoleiddiwr y DU ar gyfer gwasanaethau cyfathrebu gan gynnwys gwasanaethau band eang, ffôn cartref a gwasanaethau symudol, yn ogystal â gwasanaethau teledu, radio a'r post.

Mae'n bosib y gall pobl wneud galwadau cyfnewid fideo brys o'r tu allan i'r DU, ond dim ond i ystafelloedd rheoli 999 y DU y gellir cysylltu'r galwadau. Weithiau mae galwadau Llais 999 yn cael eu derbyn o'r tu allan i'r DU, e.e. o ffonau symudol sy'n agos at y ffin yn Iwerddon. Mae awdurdodau brys y DU yn delio â'r galwadau hyn, felly mae hyn yn gyfatebol.

Efallai y bydd angen cofrestru i ddefnyddio Wi-Fi ar drên neu mewn gwesty. Ni allwn reoli sut mae busnesau preifat yn rheoli eu rhwydweithiau. Fodd bynnag, rhaid i gyfnewid fideo brys fod yn gyfradd sero o dan reolau Ofcom, felly dylai defnyddwyr allu defnyddio eu dyfeisiau eu hunain gan ddefnyddio data symudol yn rhad ac am ddim, heb redeg allan o ddata neu dderbyn taliadau ychwanegol.

Os yw dehonglwyr 999BSL yn gyfarwydd ag Iaith Arwyddion Iwerddon, maen nhw'n rhydd i'w ddefnyddio os yw hyn o fudd i alwr byddar mewn sefyllfa argyfwng. Fodd bynnag, nid yw Ofcom wedi mynnu bod galwadau'n cael eu hateb mewn Iaith Arwyddion Iwerddon.

Mae Iaith Arwyddion Iwerddon yn defnyddio sillafu ar fysedd un llaw. Pe bai galwr yn defnyddio sillafu ar fysedd un llaw ac ni all y dehonglydd ei deall yn hawdd, mae'r opsiwn o ddefnyddio'r sianel destun yn yr ap ar gyfer pethau fel enwau a chyfeiriadau. Bydd y sianel destun hefyd yn ddefnyddiol ar gyfer sillafwyr ar fysedd dwy law sy'n dal ffôn symudol mewn un llaw.

Mae gan ffonau clyfar gysylltiad data i alluogi galwadau fideo. I ddefnyddio 999BSL, neu i wneud unrhyw alwad fideo, bydd angen i chi gael o leiaf system trydedd genhedlaeth - 3G. Mae gan y rhan fwyaf o bobl yn y DU ffonau sy’n gweithio ar 4G neu 5G erbyn hyn. Mae’r rhain yn galluogi galwadau fideo o ansawdd gwell o lawer.

Bydd rhwydweithiau 3G yn y DU yn cael eu diffodd yn raddol dros y blynyddoedd nesaf. Mae hyn yn gwneud mwy o le ar gyfer 4G a 5G, sy’n gyflymach ac yn fwy dibynadwy.

Os oes gennych chi ffôn 3G, bydd eich darparwr ffôn symudol yn cysylltu â chi i ddweud bod angen ffôn newydd arnoch sy’n gweithio ar 4G neu 5G. Dylech ddechrau derbyn negeseuon testun (SMS) neu e-bost dri i chwe mis cyn diffodd y rhwydwaith. Dylai gwybodaeth hefyd fod ar gael ar wefan eich darparwr ffôn symudol. Os oes gennych chi 4G neu 5G ar hyn o bryd, does dim angen i chi wneud unrhyw beth.

Nid oes gan Ofcom rôl ffurfiol o ran diffodd y rhwydwaith 3G, ond rydyn ni wedi dweud ein bod yn disgwyl i ddarparwyr symudol wneud y canlynol:

  • rhoi digon o rybudd i gwsmeriaid fel bod pobl yr effeithir arnynt yn gallu prynu a gosod ffonau newydd. Rydyn ni’n meddwl bod tri i chwe mis o rybudd yn iawn
  • sicrhau bod cyfathrebiadau’n syml ac yn glir, gyda gwybodaeth am yr hyn y mae angen i gwsmeriaid ei wneud i barhau i ddefnyddio eu gwasanaethau
  • defnyddio amrywiaeth o ddulliau cyfathrebu,defnyddio fformatau sy’n adlewyrchu anghenion cwsmeriaid ac anfon mwy o negeseuon atgoffa wrth i’r dyddiad diffodd ddod yn nes
  • rhoi cymorth ychwanegol i gwsmeriaid sydd ei angen, yn enwedig pobl a allai fod yn cael trafferthion ariannol
  • rhoi gwybodaeth i gwsmeriaid am grwydro wrth deithio dramor
Yn ôl i'r brig