Cyhoeddwyd: 19 Mehefin 2018
Ymgynghori yn cau: 20 Awst 2018
Statws: Ar gau (yn aros datganiad)
Ym mis Mawrth 2018, fe wnaeth Llywodraeth y DU gyflwyno deddfwriaeth ar gyfer ymrwymiad gwasanaeth cyffredinol (“USO”) band eang sy’n rhoi hawl i gartrefi a busnesau cymwys gael cysylltiad band eang digonol.
Mae Ofcom nawr yn gyfrifol am weithredu'r USO. Mae’r ddogfen hon yn nodi ein hamcanion a sut y byddwn ni’n dynodi Darparwr/wyr Gwasanaeth Cyffredinol i ddarparu’r cysylltiadau band eang hynny. Mae hefyd yn galw ar gyrff sydd â diddordeb i'w cyflwyno eu hunain fel darpar Ddarparwr/wyr Gwasanaeth Cyffredinol, ac mae’n esbonio beth yw’r rhwymedigaethau tebygol y bydd yn rhaid iddyn nhw eu bodloni, a sut gallan nhw ddisgwyl cael eu digolledu.
Ymatebion
Manylion cyswllt
Cyfeiriad
Jack Gaches
Ofcom
Riverside House
2A Southwark Bridge Road
London SE1 9HA
Ofcom
Riverside House
2A Southwark Bridge Road
London SE1 9HA
Ebost: Broadband.USO@ofcom.org.uk