Ymgynghoriad: Gweithredu’r Rhwymedigaeth Gwasanaeth Cyffredinol Band Eang

Cyhoeddwyd: 13 Medi 2018
Ymgynghori yn cau: 15 Hydref 2018
Statws: Ar gau (yn aros datganiad)

Ym mis Mawrth 2018, fe wnaeth y Llywodraeth gyflwyno deddfwriaeth ar gyfer rhwymedigaeth gwasanaeth cyffredinol (“USO”) band eang, sy’n rhoi hawl i gartrefi a busnesau cymwys ofyn am gysylltiad band eang digonol.

Mae Ofcom nawr yn gyfrifol am weithredu'r USO. Mae’r ddogfen hon yn cyflwyno ein cynigion ar gyfer y broses o ddynodi Darparwr Gwasanaeth Cyffredinol. Byddwn yn ystyried beth yw’r agweddau ehangach o ran USO, gan gynnwys adnabod Darparwyr Gwasanaeth Cyffredinol a’r rhwymedigaethau rheoleiddio a fydd yn berthnasol iddynt, mewn ymgynghoriad arall yn nes ymlaen yn y flwyddyn.

Manylion cyswllt

Cyfeiriad
Jack Gaches
Ofcom
Riverside House
2A Southwark Bridge Road
London SE1 9HA
Yn ôl i'r brig