Dyma’r ail o bedwar ymgynghoriad mawr y bydd Ofcom, fel y rheoleiddiwr diogelwch ar-lein penodedig, yn eu cyhoeddi fel rhan o’n gwaith i sefydlu’r rheoliadau newydd o dan Ddeddf Diogelwch Ar-lein (2023).
Ar hyn o bryd, nid oes gan wasanaethau sy'n cyhoeddi cynnwys pornograffig ar-lein fesurau digonol ar waith i atal plant rhag cyrchu'r cynnwys hwn. Mae llawer yn caniatáu mynediad i gynnwys pornograffig i blant heb wiriadau oedran, neu drwy ddibynnu ar wiriadau sydd ond yn ei gwneud yn ofynnol i’r defnyddiwr gadarnhau eu bod dros 18 oed.
Mae'r Ddeddf Diogelwch Ar-lein yn nodi'n glir bod yn rhaid i ddarparwyr gwasanaethau sy'n cyhoeddi cynnwys pornograffig ar-lein weithredu sicrwydd oedran sy'n hynod effeithiol wrth benderfynu'n gywir a yw defnyddiwr yn blentyn er mwyn atal plant rhag dod ar draws cynnwys pornograffig ar-lein fel arfer.
Mae’r ymgynghoriad hwn yn canolbwyntio ar ein canllawiau drafft i gynorthwyo darparwyr gwasanaethau ar-lein sy’n cyhoeddi neu’n arddangos cynnwys pornograffig darparwyr wedi'u rheoleiddio i gydymffurfio â’u dyletswyddau sicrwydd oedran a chadw cofnodion o dan y Ddeddf.
Ochr yn ochr â'r ymgynghoriad, rydym wedi cyhoeddi canllawiau drafft ar sicrwydd oedran a dyletswyddau Rhan 5 eraill ar gyfer darparwyr gwasanaeth sy’n cyhoeddi cynnwys pornograffig ar wasanaethau ar-lein (Atodiad 2).
Rydym hefyd wedi cyhoeddi darn esboniadol syml o'r dyletswyddau Rhan 5 a'r canllawiau drafft.
Sut i ymateb
I ymateb i'r cynigion yn ein hymgynghoriad, cwblhewch y ffurflen ymateb i ymgynghoriad (Saesneg yn unig) a'i chyflwyno i Part5Guidance@ofcom.org.uk. Cofiwch gynnwys unrhyw wybodaeth neu dystiolaeth ategol gyda'ch ymateb.
Y terfyn amser ar gyfer derbyn ymatebion yw 5pm ddydd Mawrth 5 Mawrth 2024.
Prif ddogfennau
Manylion cyswllt
Online Safety Group
Ofcom
Riverside House
2A Southwark Bridge Road
London SE1 9HA