Concerned looking woman on laptop

Helpu i daclo twyll o dan y drefn diogelwch ar-lein newydd

Cyhoeddwyd: 12 Chwefror 2024
Diweddarwyd diwethaf: 12 Chwefror 2024

Mae twyll yn ffynhonnell wirioneddol o niwed i ddefnyddwyr, ac mae troseddwyr yn aml yn defnyddio gwasanaethau ar-lein i dargedu eu dioddefwyr.

Ar gyfer yr Wythnos Ymwybyddiaeth Twyll Ryngwladol, dyma ein rheolwyr polisi Kate Engles a Hannah Green o dîm Twyll Ar-lein Ofcom yn esbonio’r cyfrifoldebau newydd y bydd yn rhaid i gwmnïau ar-lein fynd i’r afael â nhw er mwyn atal twyll ar eu gwasanaethau, o dan gylch gwaith Ofcom fel rheoleiddiwr diogelwch ar-lein.

Twyll yw'r drosedd a brofir ac a adroddir amlaf yn y DU ac mae'n cyfrif am 40% o'r holl ddigwyddiadau droseddu a adroddir yng Nghymru a Lloegr. Gan edrych yn benodol ar y gofod ar-lein, roedd 83% o’r holl dwyll a adroddwyd ledled y wlad yn ystod y flwyddyn ddiwethaf yn seiliedig ar ddulliau seiber, gyda chyfran sylweddol o adroddiadau'n cyfeirio at gyfryngau cymdeithasol a llwyfannau negeseuon wedi'u hamgryptio.

Nododd ein hymchwil ein hunain fod tua naw o bob deg oedolyn ar-lein yn y DU wedi dod ar draws cynnwys yr oeddent yn amau ei fod yn sgam neu’n dwyll, gyda dros chwarter yn colli arian o ganlyniad. Ond, nid colled ariannol mo'r unig ffactor; dywedodd mwy na thraean fod y profiad wedi cael effaith negyddol ar eu hiechyd meddwl.

Mae twyllwyr yn addasu'n gyflym i fanteisio ar dechnolegau newydd ac i'r ffordd yr ydym yn byw ein bywydau ar-lein fwyfwy. Dros y deng mlynedd diwethaf, mae defnydd cynyddol o gyfryngau cymdeithasol, negeseuon ar-lein a gwasanaethau chwilio wedi ysgogi cynnydd mewn tactegau ar-lein fel sgamiau buddsoddi a thwyll rhamant. Mae AI cynhyrchiol a 'ffugio dwfn' hefyd yn darparu offer newydd i droseddwyr dwyllo defnyddwyr ar-lein i golli arian neu roi eu manylion personol i ffwrdd.

Bydd rheolau diogelwch ar-lein newydd yn ei gwneud yn anoddach i dwyllwyr weithredu ar-lein

Does dim ateb syml i daclo problem gymhleth fel twyll, ond mae'r rheolau diogelwch ar-lein newydd yn rhan bwysig o'i gwneud yn fwy anodd i dwyllwyr weithredu ar-lein. Bydd yn ofynnol yn awr i wasanaethau ar-lein asesu'r risg y bydd eu defnyddwyr yn cael eu niweidio gan ddeunydd anghyfreithlon ar eu llwyfannau. Mae eu dyletswyddau newydd yn cynnwys archwilio'r risg y bydd troseddwyr yn cyflawni twyll a throseddau gwasanaethau ariannol, cymryd camau priodol i amddiffyn eu defnyddwyr, a dileu cynnwys anghyfreithlon pan fyddant yn ei adnabod neu'n cael eu hysbysu amdano.

Yr wythnos ddiwethaf, bu i ni gyhoeddi ymgynghoriad yn nodi sut yr ydym yn asesu risgiau twyll a niwed anghyfreithlon arall ar-lein, sut y dylai cwmnïau ei fesur a'i leihau, a sut y byddwn yn cymryd camau yn erbyn y rhai sy'n methu â chyrraedd y nod.  Fe wnaethom hefyd gyhoeddi set o godau a chanllawiau drafft sy'n nodi'r hyn y gall gwasanaethau ar-lein ei wneud mewn perthynas â chanlyniadau chwilio a chynnwys sy'n cael ei gynhyrchu neu ei uwchlwytho gan ddefnyddwyr i gydymffurfio â'r rheolau newydd. Yn y dogfennau hyn rydym wedi cynnig rhai camau wedi'u targedu cychwynnol i frwydro yn erbyn twyll.

Ymhlith y mesurau a argymhellir ar gyfer gwasanaethau mawr â risgiau lefel ganolig i uchel mae:

  • Chwilio allweddeiriau'n awtomatig: Bydd hyn yn tarfu ar droseddwyr trwy gael ei ddefnyddio i ganfod cynnwys â geiriau allweddol sy'n gysylltiedig yn gryf â gwerthu gwybodaeth bersonol ac ariannol sydd wedi'i dwyn.
  • Adroddiadau arbenigol symlach: Bydd sianel adrodd bwrpasol ar gyfer twyll yn amharu ar sgamwyr, drwy ganiatáu i gyrff arbenigol sydd â phrofiad penodol o ymchwilio i dwyll adrodd ar gynnwys (gan gynnwys gorfodi’r gyfraith, adrannau llywodraeth a rheoleiddwyr fel yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol).
  • Cyfrifon wedi'u dilysu: Polisïau mewnol clir ar gyfer dilysu defnyddwyr nodedig a chynlluniau dilysu defnyddwyr y telir amdanynt, a gwell tryloywder cyhoeddus i ddefnyddwyr ynghylch yr hyn y mae statws wedi'i ddilysu yn ei olygu'n ymarferol. Bydd hyn yn helpu i amharu ar weithgarwch twyllodrus sy'n ymwneud â dynwared enwogion, cwmnïau a chyrff llywodraethol.

Mae'r cynigion hyn yn rhan o ymdrech ehangach ar y cyd i fynd i'r afael â thwyll

Ym mis Chwefror 2022, fe wnaethom esbonio ein rôl wrth daclo galwadau a negeseuon testun sgam. Gyda'r Ddeddf Diogelwch Ar-lein nawr yn gyfraith, mae gennym gyfrifoldebau newydd i helpu gwneud gwasanaethau ar-lein yn fwy diogel i bob defnyddiwr, gan gynnwys goruchwylio sut mae’r gwasanaethau hyn yn cyflawni eu dyletswyddau o ran taclo twyll.

Ond, nid yw'n ymwneud â chynnwys a gynhyrchir gan ddefnyddwyr yn unig. Mae'r Ddeddf Diogelwch Ar-lein yn mynnu dyletswyddau ychwanegol ar gyfer rhai gwasanaethau mwy “wedi'u categoreiddio" i daclo hysbysebu twyllodrus y telir amdano yng "ngham tri" ein gwaith. Yn gynnar y flwyddyn nesaf rydym yn bwriadu cyhoeddi cais am dystiolaeth i gefnogi ein datblygiad o’r cod ymarfer a fydd yn sail i’r dyletswyddau hyn.

Nid ni yw’r unig gorff sydd â rôl allweddol o ran taclo twyll. Yn gynharach eleni cyhoeddodd y Swyddfa Gartref strategaeth i leihau twyll. Mae’n hanfodol ein bod yn gweithio’n agos gyda chyrff cyhoeddus eraill sydd â chyfrifoldebau statudol i ymchwilio ac atal twyll, ochr yn ochr â chyrff diwydiant a defnyddwyr. Ni fydd ein dyletswyddau a’n pwerau wedi'u targedu sy'n ymwneud â gwasanaethau ar-lein a darparwyr telathrebu yn cwmpasu pob sefyllfa lle daw sgamiau i’r amlwg. Ond, am y tro cyntaf, bydd ein dyletswyddau ar-lein newydd yn ein galluogi i ddwyn gwasanaethau ar-lein i gyfrif am y risgiau a achosir gan sgamwyr ar-lein sy'n manteisio ar eu llwyfannau.

Rhannwch eich barn am ein cynigion

Rydym yn ymgynghori ag arbenigwyr, diwydiant a'r cyhoedd ar y dull yr ydym yn bwriadu ei ddefnyddio. Bydd Senedd y DU wedyn yn adolygu ein codau ymarfer diwydiant y flwyddyn nesaf, cyn iddynt ddod i rym.

Os oes gennych farn ynglŷn â sut y dylid gweithredu’r Ddeddf Diogelwch Ar-lein, gan gynnwys y cynigion sy’n ymwneud â thwyll, darllenwch ac ymatebwch i'n hymgynghoriad ar ddiogelu pobl rhag niwed anghyfreithlon ar-lein. Y terfyn amser ar gyfer derbyn ymatebion yw 5pm ddydd Gwener 23 Chwefror 2024.

Yn ôl i'r brig