Gweithgor Ymchwil, Tystiolaeth a Gwerthuso

Cyhoeddwyd: 16 Rhagfyr 2024
Diweddarwyd diwethaf: 24 Chwefror 2025

Mae ein gweithgor Ymchwil, Tystiolaeth a Gwerthuso yn cynnwys academyddion ac arbenigwyr sydd â diddordeb cyffredin mewn ystod eang o bynciau sy’n ymwneud ag ymchwilio a gwerthuso ymwybyddiaeth o’r cyfryngau.

Mae’r grŵp yn cefnogi’r rhaglen Gwneud Synnwyr o’r Cyfryngau i gyflawni ei blaenoriaethau strategol ar draws y meysydd ymchwil, tystiolaeth a gwerthuso, fel y nodir yn ein strategaeth tair blynedd, Gweledigaeth Gadarnhaol ar gyfer Ymwybyddiaeth o'r Cyfryngau.

Mae’r grŵp yn cyfarfod bedair gwaith y flwyddyn ac mae’r aelodaeth yn para am gyfnod y strategaeth (tan fis Medi 2027). Penodwyd y grŵp ym mis Chwefror 2025.

Pwrpas y grŵp yw:

  • Meithrin gwell dealltwriaeth ynghylch ymwybyddiaeth o’r cyfryngau a ffordd well o fesur hynny, gan godi ymwybyddiaeth ymysg y cyhoedd yn ehangach yn y DU.
  • Rhoi cipolwg arbenigol ar arferion gorau a datblygiadau ym maes gwerthuso.
  • Deall rhagor am ‘yr hyn sy’n gweithio’ o ran cyflawni ymyriadau ymwybyddiaeth o'r cyfryngau mewn sectorau perthnasol.

Aelodau

  • Louise Baxter - Prif Swyddog Gweithredol, Consumer Friend; Pennaeth y Tîm Sgamiau Safonau Masnach Cenedlaethol
  • Kara Brisson-Boivin - Cyfarwyddwr Ymchwil, MediaSmarts, Canada
  • Eileen Culloty - Athro Cynorthwyol, Prifysgol Dinas Dulyn
  • Richard Graham - Seiciatrydd Ymgynghorol Plant a Phobl Ifanc, Coleg Brenhinol y Seiciatryddion
  • Michaela Gummerum - Athro/Darllenydd Cyswllt, Prifysgol Warwick
  • Sonia Livingstone - Athro Seicoleg Gymdeithasol, Ysgol Economeg a Gwyddor Wleidyddol Llundain
  • Cliff Manning - Cyfarwyddwr Ymchwil a Datblygu, Parent Zone
  • Esperanza Miyake - Cymrawd y Canghellor ac Uwch-ddarlithydd Newyddiaduraeth, Cyfryngau a Chyfathrebu, Prifysgol Strathclyde
  • Iain MacRury - Athro, Prifysgol Stirling
  • Andrew McStay - Athro Technoleg a Chymdeithas, Prifysgol Bangor
  • Irene Picton - Uwch Reolwr Ymchwil, Yr Ymddiriedolaeth Llythrennedd Genedlaethol
  • Gianfranco Polizzi - Cymrawd Ymchwil, Prifysgol Lerpwl
  • Raffaello Rossi - Uwch-ddarlithydd Marchnata, Prifysgol Bryste
  • David Zendle Cyfarwyddwr - Y Gwasanaeth Rhoi Data Clyfar (SDDS), Prifysgol Caerefrog
Yn ôl i'r brig