Mae cyfryngau cymdeithasol yn agwedd bwysig ar fywyd bob dydd i’r rhan fwyaf ohonom. Mae bron pob oedolyn sy’n defnyddio’r rhyngrwyd yn defnyddio rhyw fath o lwyfan cyfathrebu ar-lein.[1]
Mae’r rhan fwyaf o wasanaethau cyfryngau cymdeithasol yn mynnu bod defnyddwyr yn rhannu rhywfaint o’u data personol pan fyddan nhw’n cofrestru. Er bod gan y rhan fwyaf o bobl rhyw fath o ymwybyddiaeth bod llwyfannau’n casglu data defnyddwyr, dim ond dealltwriaeth amwys sydd gan lawer o ddefnyddwyr o’r data penodol sy’n cael ei gasglu a sut mae’n cael ei ddefnyddio.[2],[3],[4],[5] Faint ohonom sy’n gallu dweud mewn gwirionedd ein bod yn deall yn iawn ymhle a sut mae ein data’n cael ei ddefnyddio ar-lein?
Gan adeiladu ar ein hymchwil ansoddol a’n treialon ar-lein blaenorol, roeddem am brofi a oedd cyflwyno gwybodaeth am rannu data mewn gwahanol ffyrdd yn gwella dealltwriaeth defnyddwyr y rhyngrwyd o’r canlynol:
- pa ddata oedd yn cael ei gasglu
- y bobl a’r sefydliadau a fyddai’n gallu cael gafael ar y data
- sut y byddai’r data’n cael ei ddefnyddio.
I wneud hyn, aeth BIT ac Ofcom ati i gynnal treial ar-lein a oedd yn edrych ar ddwy agwedd ar sut gellid cyflwyno gwybodaeth am rannu data:
Negeseuon: gellid gwneud gwybodaeth am rannu data yn fwy amlwg ar y sgrin (“amlygrwydd gwybodaeth”) neu gellid nodi goblygiadau rhannu’r data gan roi enghreifftiau (“goblygiadau”).
Dewis: gellid rhoi’r opsiwn i ddefnyddwyr ddewis pa ddata i’w rannu, a gyda phwy (“dewis manwl[6]”) neu y byddai’n rhaid iddynt rannu’r holl wybodaeth y gofynnwyd amdani i gael mynediad at y llwyfan (“dim dewis manwl”).
Arweiniodd hyn at bedwar amod, neu ‘adain’, yn y treial, gan brofi’r gwahanol gyfuniadau o ymyriadau, ynghyd â rheolydd a gynlluniwyd i efelychu sut mae llwyfannau cyfryngau cymdeithasol presennol yn casglu data defnyddwyr.
Roedd gennym sampl o ychydig dros 7,000 o oedolion sy’n defnyddio’r rhyngrwyd yn y DU (hynny yw, tua 1,400 fesul adain). Isod, gallwch weld sgrinluniau o'r pedair ‘adain’ y gwnaethon ni eu profi, yn ogystal â’r rheolydd.
Ffigur 1: Sgriniau casglu data ar gyfer pob un adain yn y treial, a’r rheolydd.
Sut wnaeth y gwahanol ffyrdd o gyflwyno gwybodaeth effeithio ar ddeall yr wybodaeth honno?
Roedd y ddealltwriaeth gyffredinol[7] yn yr adain rheolydd yn dda ar oddeutu 73%, gan ddangos bod gan gyfranogwyr ddealltwriaeth gyffredinol dda o ymhle a sut roedd eu data’n cael ei ddefnyddio. (Gallai hyn adlewyrchu’r ffaith fod yr ymchwil wedi’i chynnal gyda phanel ar-lein, a allai fod yn fwy cyfarwydd â llwyfannau cyfryngau cymdeithasol na’r boblogaeth gyffredinol.) Roedd dod i gysylltiad â’r naill adain ‘negeseuon’ neu’r llall wedi cynyddu’r ddealltwriaeth gyffredinol ychydig (tua 1 pwynt canran). Roedd cael yr opsiwn i ddewis pa ddata i’w rannu, a gyda phwy, yn rhoi hwb i ddealltwriaeth gyffredinol cyfranogwyr, 3.5 pwynt canran ychwanegol o lefel y rheolydd. Gall y cynnydd a welir yma ymddangos yn fach, ond mae’n arwyddocaol yn ystadegol.
Noder: **arwyddocaol yn ystadegol ar lefel 1% (p<0.01)
Fe welsom batrwm tebyg wrth edrych ar wahanol agweddau ar ddeall. Roedd cyfranogwyr yn fwy tebygol o ddeall yn well pa ddata oedd yn cael ei gasglu, y sefydliadau a fyddai’n gallu cael gafael ar y data a sut byddai’r data’n cael ei ddefnyddio, pan fyddai’r neges yn cael ei chyflwyno ynghyd â’r opsiwn i ddewis pa ddata i’w rannu, ac unwaith eto roedd y gwahaniaethau hyn yn arwyddocaol yn ystadegol.
Tabl 1: Sgoriau cymedr ar gyfer gwahanol agweddau ar ddeall ar gyfer y negeseuon gyda dewis manwl a heb ddewis manwl, o’i gymharu â’r rheolydd.
Sgoriau cymedr dealltwriaeth (%) | Rheolydd | Neges heb ddewis manwl | Neges gyda dewis manwl |
---|---|---|---|
Pa ddata sy’n cael ei gasglu | 75.3 | 75.8 | 77.6 |
Pwy fyddai’n cael gafael ar y data | 72.5 | 73.9 | 81.2 |
Sut byddai’r data’n cael ei ddefnyddio | 70.1 | 72.9 | 74.5 |
Sut wnaeth y ffordd y cyflwynwyd gwybodaeth ddylanwadu ar ddewisiadau rhannu data?
Dewisodd chwech o bob deg o’r cyfranogwyr rannu eu data â darparwr y llwyfan dim ond pan oedd yr opsiwn ar gael iddyn nhw. Dewisodd rhwng chwarter ac un rhan o bump rannu eu data â phartneriaid masnachol. Nid oedd y math o neges a welodd cyfranogwyr yn effeithio ar eu dewisiadau o ran rhannu data – gallwch weld o siart 2 isod fod rhannu data yn debyg iawn p’un a ddangoswyd gwybodaeth amlwg i gyfranogwyr, neu fod goblygiadau rhannu data wedi’u nodi’n glir.
Roedd bron pob cyfranogwr a welodd y neges goblygiadau gyda’r opsiwn i ddewis pa ddata i’w rannu wedi newid eu hawliau rhannu, ac roedd yn well ganddyn nhw beidio â rhannu o leiaf rhywfaint o’u data â phartneriaid masnachol. Roedd y neges am oblygiadau wedi dylanwadu’n rhannol ar rannu gwybodaeth am eu lleoliad (a ddisgrifiwyd yn y treial hwn fel y rhanbarth lle roedden nhw’n byw), gydag 84.3% yn ei newid o leiaf unwaith. Yn ddiddorol, dewisodd rhai cyfranogwyr newid y rhanbarth o’r un roedden nhw ynddo i un arall hefyd – er bod y data ar lefel ranbarthol yn hytrach na chyfeiriad neu god post penodol.
Roedd cyfranogwyr a ddewisodd beidio â rhannu eu data yn tueddu i ddweud mai’r rheswm dros hyn oedd bod eu preifatrwydd yn bwysig iddyn nhw (53%), eu bod eisiau rheoli eu data (47%) neu eisiau lleihau risg achos o ddwyn hunaniaeth (34%). Yn ddiddorol, er eu bod yn gwybod eu bod yn cymryd rhan mewn arbrawf, roedd y cyfranogwyr yn rhyngweithio â’r broses mewn ffordd sy’n ymddangos yn realistig.
Sut roedd pobl yn teimlo am y ffyrdd y cafodd yr wybodaeth ei chyflwyno?
Yn gyffredinol, cafodd y ffordd y cyflwynwyd yr wybodaeth ym mhob adain yn y treial ei derbyn yn fwy cadarnhaol na’r rheolydd. Fel mae Siart 3 yn ei ddangos, roedd cael yr opsiwn i ddewis pa ddata i’w rannu yn gwneud i gyfranogwyr deimlo bod ganddyn nhw fwy o reolaeth dros sut roedd eu data’n cael ei ddefnyddio. Fodd bynnag, nid oedd unrhyw wahaniaeth arwyddocaol yn ystadegol yn y lefelau ymddiriedaeth ar draws pob adain.
A oedd unrhyw wahaniaethau rhwng grwpiau demograffig?
Roeddem yn awyddus i weld a oedd unrhyw wahaniaethau yn y canfyddiadau yn ôl oedran, rhyw neu radd gymdeithasol. Roedd yr ymatebion yn eithaf tebyg ar draws gwahanol grwpiau, gyda rhai mân eithriadau. I’r sawl rhwng 25 a 44 oed a’r rheini yng ngradd gymdeithasol AB, roedd cael gwybodaeth amlwg yn fwy effeithiol na chael y goblygiadau. Roedd gan fenywod ddealltwriaeth gyffredinol ychydig yn well na dynion ar draws pob adain.
A oedd unrhyw anfanteision i gyflwyno’r wybodaeth mewn ffyrdd newydd?
Gallai fod anfanteision posibl i gyflwyno gwybodaeth am rannu data mewn ffordd fanwl, oherwydd efallai y bydd defnyddwyr yn teimlo bod gormod o wybodaeth, neu fod y broses wedi mynd yn rhy gymhleth neu’n cymryd gormod o amser. Mae’r dadansoddiad o deimladau yn Siart 3 uchod yn dangos bod y mwyafrif yn teimlo eu bod wedi cael y swm cywir o wybodaeth ar draws pob un adain. Fodd bynnag, fe welson ni fod cyfranogwyr a gafodd yr opsiwn i ddewis pa ddata roedden nhw’n ei rannu, yn fwy tebygol o adael y treial. Er nad oedd hyn yn effeithio ar y canfyddiadau, gallai awgrymu y gallai anghytundeb ychwanegol gael effaith yn y byd go iawn ar gymhellion i gofrestru ar lwyfan. Wedi dweud hynny, dylid edrych ar ein canfyddiadau yng nghyd-destun arbrawf, ac yn y byd go iawn bydd ffactorau ysgogi eraill yn bodoli (fel awydd i gysylltu â ffrindiau) a allai wrthbwyso’r effaith hon.
Beth nesaf?
Rydyn ni wedi gweld bod rhoi’r opsiwn i bobl benderfynu pa ddata i’w rannu yn gwella dealltwriaeth rhywfaint bach er yn arwyddocaol. Rydyn ni hefyd wedi gweld bod y rhan fwyaf o bobl wedi dewis rhannu â’r llwyfan yn unig, yn hytrach na phartneriaid masnachol, pan maen nhw’n cael y dewis, a bod cael yr opsiwn hwn yn gwneud i bobl deimlo bod ganddyn nhw fwy o reolaeth.
Gallwch ddarllen mwy o fanylion am y treial a’r canlyniadau yma.
Y treial hwn yw’r diweddaraf mewn rhaglen o dreialon ar-lein y mae Ofcom wedi’i chynnal dros y ddwy flynedd diwethaf, sydd wedi edrych ar wahanol agweddau ar ymddygiad defnyddwyr ar-lein a sut maen nhw’n rhyngweithio â gwahanol fathau o fesurau diogelwch. Bydd canlyniadau’r treial hwn yn ychwanegu at y dystiolaeth mae Ofcom yn ei chasglu ynghylch ‘beth sy’n gweithio’ i wella sgiliau, gwybodaeth a dealltwriaeth pobl ar-lein fel rhan o’n Rhaglen Gwneud Synnwyr o’r Cyfryngau. Gallwch ddarllen am sut mae’r treial hwn yn cyd-fynd â’n gwaith ehangach yn ein strategaeth 3 blynedd ar ymwybyddiaeth o'r cyfryngau.
[1] Adroddiad ar Agweddau Oedolion a’u Defnydd o Gyfryngau 2024 (ofcom.org.uk)
[2] Rader, E. (2014). Awareness of behavioural tracking and information privacy concern in Facebook and Google. Yn 10th Symposium On Usable Privacy and Security (SOUPS 2014) (t51-67).
[3] Hope, A., Schwaba, T., & Piper, A. M. (2014, Ebrill). Understanding digital and material social communications for older adults. Yn Proceedings of the SIGCHI Conference on Human Factors in Computing Systems (t3903-3912.
[4] Pangrazio, L., & Selwyn, N. (2018). “It’s not like it’s life or death or whatever”: Young people’s understandings of social media data. Social Media+ Society, 4(3).
[5] Ofcom (2022) Diwrnod ym Mywyd (ofcom.org.uk)
[6] Fel arfer, nid yw’r opsiwn “dewis manwl” yn cael ei gynnig gan lwyfannau cyfryngau cymdeithasol: os ydych chi’n meddwl am y tro diwethaf i chi gofrestru ar gyfer gwasanaeth, mae’n debygol eich bod chi wedi cael y dewis naill ai i dderbyn y telerau a rhannu eich data, neu i beidio â defnyddio’r llwyfan.
[7] ‘Fe wnaethon ni fesur dealltwriaeth ar draws tri mesur: (i) pa ddata oedd yn cael ei gasglu (ii) y bobl a’r sefydliadau y byddai’r data’n cael ei rannu â nhw a (iii) sut y byddai’r data’n cael ei ddefnyddio. Roedd ‘dealltwriaeth gyffredinol’ yn sgôr a gafwyd ar draws yr holl fesurau hyn.