Heddiw mae Ofcom wedi cynnig diweddaru ei ganllawiau cydnerthedd i ddarparu mwy o eglurder ynghylch sut y gall cwmnïau telathrebu’r DU leihau’r risg o ddiffygion rhwydwaith.
Wrth i fwyfwy o bobl ddibynnu ar y rhyngrwyd i gadw'r cysylltiad gartref ac yn y gwaith, mae rhwydweithiau telathrebu cydnerth yn hanfodol i ddefnyddwyr a busnesau ar draws y DU.
Mae'n rhwymedigaeth gyfreithiol ar ddarparwyr cyfathrebiadau i adnabod risgiau a allai gyfaddawdu argaeledd, perfformiad neu'r gallu i ddefnyddio eu rhwydweithiau neu wasanaethau, paratoi ar eu cyfer a'u lleihau.
Rydym yn cynnig diweddaru ein canllawiau cydnerthedd ar gyfer darparwyr cyfathrebiadau, gan nodi’r mesurau yr ydym yn disgwyl iddynt eu cymryd i gadw eu rhwydweithiau'n weithredol. Mae hyn yn cynnwys:
- sicrhau bod rhwydweithiau wedi'u dylunio i osgoi, neu leihau, pwyntiau unigol o fethiant;
- sicrhau bod gan bwyntiau seilwaith allweddol swyddogaethau trosglwyddo ar ôl methu awtomatig wedi'i ymgorffori, fel bod traffig rhwydwaith yn cael ei ddargyfeirio ar unwaith i ddyfais neu safle arall pan fydd offer yn methu; a
- nodi'r prosesau, yr offer a'r hyfforddiant y dylid eu hystyried i gefnogi'r gofynion ar gydnerthedd.
Pŵer wrth gefn ar gyfer rhwydweithiau symudol
Ar wahân, rydym hefyd yn galw am fewnbwn ar bŵer wrth gefn ar gyfer rhwydweithiau symudol. Mae'r rhwydweithiau hyn yn dibynnu ar bŵer trydanol i weithredu, a gall toriadau yn y cyflenwad achosi aflonyddwch i wasanaethau cwsmeriaid.
Ar hyn o bryd, mae maint y ddarpariaeth batri wrth gefn sydd yn ei lle'n amrywio yn ôl gweithredwr rhwydwaith symudol. Rydym am gychwyn trafodaeth am yr hyn y gall ac y dylai rhwydweithiau symudol ei wneud o ran darparu pŵer wrth gefn ar gyfer eu rhwydweithiau a’u gwasanaethau, gyda’r bwriad o weithredu hyn yn ein canllawiau yn y dyfodol, a/neu weithio gyda diwydiant a Llywodraeth y DU i nodi a dilyn ffyrdd eraill o ymdrin â'r mater hwn.
Rydym yn gwahodd ymatebion i’n hymgynghoriad a'n cais am fewnbwn erbyn 5pm ddydd Gwener 1 Mawrth 2024. Bwriadwn gyhoeddi ein penderfyniad ar y canllawiau cydnerthedd, a’r camau nesaf ar gydnerthedd pŵer safleoedd symudol, yn haf 2024.