A person working at a laptop with a mobile phone next to it and a 'no network' message on screen

Newidiadau arfaethedig i reoliadau troswyr ffôn symudol

Cyhoeddwyd: 24 Hydref 2023
Diweddarwyd diwethaf: 24 Hydref 2023

Heddiw, mae Ofcom yn cynnig gwneud newidiadau i'r rheoliadau presennol sy'n rheoli'r defnydd o droswyr ffôn symudol.

Mae troswyr symudol dan do - y cyfeirir atynt weithiau fel 'hybwyr signal' - yn ddyfeisiau a ddefnyddir fel arfer mewn eiddo preswyl i chwyddo signal symudol.

Yn 2018, cyflwynodd Ofcom reoliadau i alluogi gosod a defnyddio ystod gyfyngedig o ddyfeisiau troswyr symudol heb drwydded. Estynnodd Ofcom gwmpas yr eithriad am drwydded yn 2022, gan ddarparu mwy o ddewis i ddefnyddwyr. Mae'r rheoliadau hyn yn nodi, ymhlith pethau eraill, bod yn rhaid i droswyr dan do sefydlog a ddyluniwyd i hybu signal symudol 4G hefyd drosi signal 2G a/neu 3G.

Mae gweithredwyr ffonau symudol yn dechrau diffodd eu signalau 3G i ganolbwyntio ar ddarparu gwasanaethau 4G a 5G, ac rydym yn disgwyl iddynt hefyd ddiffodd eu signalau 2G yn y dyfodol. O ganlyniad, efallai na fydd rhai troswyr sydd eisoes wedi'u cynhyrchu a'u prynu gan ddefnyddwyr ar y sail eu bod wedi'u heithrio rhag trwydded bellach yn gallu bodloni’r gofyniad i drosi’r signal 2G/3G.

Felly, heddiw rydym yn gofyn am farn rhanddeiliaid ynghylch a ydynt yn cytuno nad yw'r gofyniad penodol hwn yn parhau i fod yn angenrheidiol neu'n gymesur mwyach. Rydym hefyd yn cynnig diweddaru'r gofynion technegol i alluogi troswyr symudol mewn cerbydau i chwyddo rhai signalau 5G.

Rhaid cyflwyno ymatebion i'n hymgynghoriad erbyn 4 Rhagfyr 2023.

Yn ôl i'r brig