Cais am dystiolaeth: Adolygiad o niwtraliaeth y we

Cyhoeddwyd: 7 Medi 2021
Ymgynghori yn cau: 2 Tachwedd 2021
Statws: Ar gau (yn aros datganiad)

‘Niwtraliaeth y we', y cyfeirir ati weithiau fel 'rhyngrwyd agored', yw'r egwyddor o sicrhau y gall defnyddwyr y rhyngrwyd – nid y darparwr gwasanaeth rhyngrwyd (ISP) sy'n eu cysylltu â'r rhyngrwyd - reoli'r hyn y maent yn ei weld a'i wneud ar-lein.

Rydym wedi dechrau ar adolygiad o sut mae fframwaith niwtraliaeth y we y DU yn gweithio. Mae'r ddogfen hon yn gais am dystiolaeth ac yn nodi cyd-destun, diben a chwmpas yr adolygiad, a'r dystiolaeth gychwynnol y byddem yn ei chroesawu gan randdeiliaid. Nid yw'n cynnwys unrhyw gynigion polisi.

Mae Ofcom yn gyfrifol am fonitro a sicrhau cydymffurfiaeth â'r rheolau niwtraliaeth y we ac mae'n gallu cyhoeddi arweiniad ar gydymffurfio â'r rheolau presennol. Bwriad yr adolygiad hwn yw cyfeirio ein gwaith yn y meysydd hyn. Byddai unrhyw newidiadau i'r rheolau yn fater i Lywodraeth y DU ac yn y pen draw, Senedd y DU.

Ymateb i'r ymgynghoriad hwn

Cyflwynwch ymatebion gan ddefnyddio'r ffurflen ymateb i ymgynghoriad (ODT, 50.5 KB).

Ymatebion

How to respond

Yn ôl i'r brig