
Mae’r Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd, Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth, yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol ac Ofcom wedi ffurfio’r Fforwm Cydweithredu ar Reoleiddio Digidol i weithio gyda’i gilydd i reoleiddio gwasanaethau digidol.
Mae’r Fforwm yn cryfhau’r cydweithrediad a’r cydlyniad presennol rhwng y pedwar rheoleiddiwr. Ei nod yw defnyddio ein harbenigedd ar y cyd pan fydd data, preifatrwydd, cystadleuaeth, cyfathrebu a chynnwys yn rhyngweithio â’i gilydd.
Cysylltwch â thîm Fforwm Cydweithredu ar Reoleiddio Digidol Ofcom yn drcf@ofcom.org.uk