Mae Almudena Lara wedi cael ei phenodi’n Gyfarwyddwr Polisi Diogelwch Ar-lein Ofcom, a bydd hi’n cyd-arwain ein huned newydd ar Ddatblygu Polisi Diogelwch Ar-lein, sy’n chwarae rhan ganolog yn ein gwaith i helpu pobl i fyw bywyd mwy diogel ar-lein.
Mae gan Almudena bron i 20 mlynedd o brofiad ar draws y sector preifat, y sector cyhoeddus, y sector rheoleiddio a’r sector elusennol.
Mae hi’n ymuno â ni o Google. Yn ei swydd fel arweinydd byd-eang polisi cyhoeddus ar ddiogelwch plant, arweiniodd Almudena waith i greu fframweithiau rheoleiddio er mwyn cynnig profiadau mwy diogel sy’n briodol i oedran, gan gynnwys eu diogelu rhag cam-drin rhywiol a chamfanteisio.
Cyn ei swydd yn Google, bu Almudena yn gweithio yn yr NSPCC, lle bu’n arwain ei thîm polisi cyhoeddus ac yn hyrwyddo diwygio’r gyfraith er mwyn helpu i sicrhau gwell amddiffyniadau i blant.
Mae uned Datblygu Polisi Diogelwch Ar-lein Ofcom yn arwain y gwaith o ddatblygu a gweithredu offer polisi a rheoleiddio sy’n ymwneud â diogelwch ar-lein a llwyfannau rhannu fideos.
Mae gwaith yr uned hon yn canolbwyntio ar y prif fathau o niwed ar-lein a meysydd risg, gan helpu i wneud yn siŵr bod y rheolau a’r adnoddau cywir ar waith i ddiogelu pobl rhagddyn nhw. Mae’r uned yn rhan o’n grŵp ehangach Diogelwch Ar-lein dan arweiniad Gill Whitehead, a gafodd ei phenodi’n Gyfarwyddwr Grŵp, Diogelwch Ar-lein.
Mae Almudena yn ymuno ag Ofcom wrth i ni barhau i gryfhau ein harbenigedd ym maes diogelwch ar-lein, cyn ymgymryd â phwerau newydd yn y maes hwn ar ôl cael ein penodi’n rheoleiddiwr ar gyfer diogelwch ar-lein yn y DU.
Dywedodd Almudena: “Mae technoleg yn rhan allweddol o fywydau plant, a bydd Ofcom yn chwarae rhan hollbwysig yn y gwaith o sicrhau eu bod nhw’n cael eu diogelu rhag niwed.
“Rwy’n falch iawn o ymuno â’r tîm talentog hwn ac i gyfrannu at wella profiadau plant ar-lein.”
Ychwanegodd Gill Whitehead: “Mae’n bleser gen i groesawu Almudena i Ofcom ac i dîm arwain ein Grŵp Diogelwch Ar-lein newydd.
“Mae gan Almudena arbenigedd, angerdd a phrofiad arwain hynod berthnasol, ac mae hi’n ymuno â chriw rhagorol o gydweithwyr sy’n canolbwyntio ar helpu i wneud bywydau plant yn fwy diogel ar-lein.
Bydd Almudena yn ymuno ag Ofcom ym mis Mehefin 2023.