Heddiw rydym wedi nodi ein cynlluniau ar gyfer sut y byddwn yn gweithredu rheolau diogelwch ar-lein newydd, yr ydym yn disgwyl y byddant yn dod i rym y flwyddyn nesaf gan roi pwerau newydd i Ofcom yn y maes hwn.
Yma, mae Mark Bunting, cyfarwyddwr Ofcom dros bolisi ar-lein a llwyfannau rhannu fideos, yn esbonio'r drefn newydd a rôl Ofcom ynddi.
Mae'r DU yn paratoi i gyflwyno cyfreithiau newydd cynhwysfawr sydd â'r nod o wneud defnyddwyr ar-lein yn fwy diogel, ac ar yr un pryd, cynnal rhyddid mynegiant. Bydd y Mesur Diogelwch Ar-lein yn cyflwyno rheolau ar gyfer gwefannau ac apiau fel cyfryngau cymdeithasol, peiriannau chwilio a llwyfannau negeseua – yn ogystal â gwasanaethau eraill y mae pobl yn eu defnyddio i rannu cynnwys ar-lein.
Yn ystod y 100 diwrnod cyntaf ar ôl i’n pwerau newydd ddod i rym, byddwn yn canolbwyntio ar ddiogelu defnyddwyr rhag niwed o gynnwys anghyfreithlon, gan gynnwys camfanteisio'n rhywiol ar blant, cam-drin, a chynnwys terfysgol.
Beth fydd y cyfreithiau newydd yn ei olygu?
Rheoleiddio newydd yw hwn ac felly mae hefyd yn bwysig deall yr hyn y mae'r Mesur Diogelwch Ar-lein yn gofyn amdano – a'r hyn nad yw'n gofyn amdano.
Nid cymedroli darnau unigol o gynnwys gan Ofcom mo ffocws y Mesur, ond bod y cwmnïau technoleg yn asesu'r risg o niwed i'w defnyddwyr ac yn rhoi systemau a phrosesau ar waith i'w cadw'n fwy diogel ar-lein.
Yn ogystal â phennu Codau Ymarfer a rhoi arweiniad ar gydymffurfiaeth, bydd gan Ofcom bwerau i fynnu gwybodaeth gan gwmnïau technoleg ar sut maent yn ymdrin â niwed ac i gymryd camau gorfodi os byddant yn methu â chydymffurfio â'u dyletswyddau. Bydd y Mesur hefyd yn sicrhau bod y cwmnïau technoleg mwyaf, a'r rhai sy'n peri'r risgiau uchaf, yn fwy tryloyw ac y gellir eu dwyn i gyfrif am eu gweithredoedd.
Mae hefyd yn bwysig cydnabod:
Na fydd Ofcom yn sensro cynnwys ar-lein. Nid yw'r Mesur yn rhoi pwerau i Ofcom gymedroli nac ymateb i gwynion unigolion am ddarnau unigol o gynnwys. Mae Llywodraeth y DU yn cydnabod – ac rydyn ni'n cytuno – y byddai'r maint pur o gynnwys ar-lein yn gwneud hynny'n anymarferol. Yn hytrach na chanolbwyntio ar symptomau niwed ar-lein, byddwn yn taclo'r achosion drwy sicrhau bod cwmnïau'n dylunio eu gwasanaethau gyda diogelwch mewn cof o'r cychwyn cyntaf.
Rhaid i gwmnïau technoleg isafu niwed, o fewn rheswm. Byddwn yn ystyried a yw cwmnïau'n gwneud digon i ddiogelu eu defnyddwyr rhag cynnwys anghyfreithlon a chynnwys sy'n niweidiol i blant, gan gydnabod ar yr un pryd na all unrhyw wasanaeth lle mae defnyddwyr yn cyfathrebu ac yn rhannu cynnwys yn rhydd fod yn gwbl ddi-risg. O dan y cyfreithiau drafft, mae'r dyletswyddau a osodir ar wasanaethau ar-lein sydd o fewn cwmpas wedi'u cyfyngu gan yr hyn sy'n gymesur ac yn dechnegol ymarferol.
Gall gwasanaethau gynnal cynnwys sy'n gyfreithlon ond sy'n niweidiol i oedolion, ond mae'n rhaid bod telerau'r gwasanaeth yn glir. O dan y Mesur, mae'n rhaid i wasanaethau sydd â'r cyrhaeddiad uchaf – a elwir yn 'wasanaethau Categori 1' – asesu risgiau sy'n gysylltiedig â mathau penodol o gynnwys cyfreithlon a allai fod yn niweidiol i oedolion. Rhaid iddynt gael telerau gwasanaeth neu ganllawiau cymuned clir sy'n egluro sut y maent yn ymdrin â'r cynnwys, a'u cymhwyso'n gyson. Rhaid iddynt hefyd ddarparu offer sy'n grymuso defnyddwyr i leihau eu tebygolrwydd o ddod ar draws y cynnwys hwn. Ond ni fydd yn ofynnol iddynt rwystro neu ddileu cynnwys cyfreithlon oni bai eu bod yn dewis gwneud hynny.