Heddiw, mae Ofcom wedi cyhoeddi penodiad Michael Lynton fel cyfarwyddwr anweithredol i Fwrdd Channel 4 am gyfnod o dair blynedd, gan ddechrau ar 25 Ebrill 2022.
Ar hyn o bryd mae Michael yn Gadeirydd Snap Inc, swydd y mae wedi'i dal ers 2016 ar ôl ymuno â Bwrdd Snap yn 2013. Mae hefyd wedi bod yn Gadeirydd Grŵp Cerddoriaeth Warner ers 2019.
Yn flaenorol, bu Michael yn Gadeirydd a Phrif Weithredwr Sony Pictures Entertainment Inc rhwng 2004 a 2017, a hefyd yn Brif Weithredwr Sony Entertainment Inc a Sony Corporation of America rhwng 2012 a 2017.
Cyn ymuno â Sony, fe weithiodd yn The Walt Disney Company – lle dechreuodd Disney Publishing ac wedi hynny bu'n gwasanaethu fel Llywydd Disney's Hollywood Pictures; Pearson plc – lle bu'n Gadeirydd a Phrif Weithredwr Penguin Group; a Time Warner – lle bu'n Brif Weithredwr AOL Europe, Llywydd AOL International, a Llywydd Time Warner International.
Mae Michael hefyd yn aelod o Fwrdd Regents y Smithsonian, y Cyngor ar Gysylltiadau Tramor, y Gorfforaeth RAND, ac mae'n gwasanaethu ar Fwrdd Ymddiriedolwyr y Tate.
Mae ei benodiad wedi cael ei gymeradwyo gan yr Ysgrifennydd Gwladol dros Ddigidol, Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon, y Gwir Anrhydeddus Nadine Dorries AS.
O dan Ddeddf Darlledu 1990, mae'n ofynnol i Ofcom benodi aelodau anweithredol i Fwrdd Channel 4, yn amodol ar gymeradwyaeth gan yr Ysgrifennydd Gwladol. Mae dwy swydd cyfarwyddwr anweithredol agored o hyd ac mae'n flaenoriaeth uchel i Ofcom sicrhau rhestr amrywiol o ymgeiswyr.
Nodiadau i Olygyddion
1.Arweiniwyd yr ymgyrch benodi gan y cwmni chwilio am weithredwyr byd-eang, Russell Reynolds. Cadeiriwyd y panel recriwtio gan Maggie Carver, Cadeirydd dros dro Ofcom.