Datganiad: Rhaglen Amrywiaeth a Chynhwysiad Ofcom 2018-2022

Cyhoeddwyd: 23 Ionawr 2018
Ymgynghori yn cau: 23 Chwefror 2018
Statws: Ar gau (cyhoeddwyd y datganiad)

Mae'r Diweddariad ar y rhaglen amrywiaeth a chynhwysiant 2018-19  yn egluro sut mae amrywiaeth a chydraddoldeb yn hanfodol i’r ffordd rydym ni’n gweithredu, fel cyflogwr ac fel rheoleiddiwr cyfathrebiadau’r DU.

Mae’n nodi ein hamcanion a’n camau gweithredu ar gyfer 2018-2022,

sef:

  • creu gweithlu amrywiol a chynhwysol er mwyn sicrhau bod y boblogaeth rydym yn ei gwasanaethu yn y DU yn cael ei hadlewyrchu’n well;
  • sicrhau bod amrywiaeth a chynhwysiant yn rhan ganolog o’n diwylliant a’n harferion gwaith er mwyn gwneud yn siŵr bod pawb yn deall amrywiaeth, yn cefnogi ac yn atebol am hynny; a
  • sicrhau bod anghenion a buddiannau gwahanol pob unigolyn yn cael eu hystyried wrth i ni wneud ein gwaith rheoleiddio.

Cynhaliwyd ymgynghoriad cyhoeddus ar ein cynlluniau rhwng 23 Ionawr a 23 Chwefror 2018 er mwyn i bobl gael cyfle i wneud sylwadau arnyn nhw ac i gyflwyno ymateb i ni. Mae’r datganiad hwn yn cynnwys atodiad sy’n egluro sut rydym wedi ystyried yr ymatebion i’r ymgynghoriad.

Mae copi Braille o’r datganiad hwn ar gael ar gais, ac rydym yn croesawu ceisiadau am fformatau eraill – er enghraifft, recordiad sain neu fideo yn Iaith Arwyddion Prydain.

Mae ein Rhaglen Amrywiaeth a Chynhwysiant yn rhoi sylw i’n dyletswyddau o dan Ddeddf Cyfathrebiadau 2003 i hybu buddiannau defnyddwyr, yn ogystal â dyletswyddau o dan ddeddfwriaeth cydraddoldeb, gan gynnwys rhai fel cyflogwr. Mae’n rhaid i ni hefyd gyhoeddi ein hamcanion cydraddoldeb.

Manylion cyswllt

Cyfeiriad
Alpha Abraham
Ofcom
Riverside House
2A Southwark Bridge Road
London SE1 9HA
Yn ôl i'r brig