Datganiad hygyrchedd ar gyfer OPIR

Cyhoeddwyd: 3 Gorffennaf 2024
Diweddarwyd diwethaf: 16 Mawrth 2023

Datganiad yw hwn ar gyfer OPIR, sef offeryn Ofcom ar gyfer Cofrestru Ar-lein ar ôl Cyflwyno, mae’n berthnasol i bob tudalen we sy’n dechrau gyda secure.ofcom.org.uk/opir.

Ofcom sy'n cynnal y wefan hon. Rydym am sicrhau bod cynifer â phosib o bobl yn gallu defnyddio'r wefan hon. Er enghraifft, mae hyn yn golygu y dylech chi allu gwneud y canlynol:

  • newid lliwiau, lefelau cyferbyniad a ffontiau
  • chwyddo i mewn hyd at 200% heb golli'r testun oddi ar y sgrin
  • llywio drwy ran o'r wefan gan ddefnyddio dim ond bysellfwrdd
  • llywio drwy'r rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio meddalwedd adnabod llais
  • gwrando ar y rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio rhaglen darllen sgrin (gan gynnwys fersiynau diweddaraf JAWS, NVDA a VoiceOver)
  • Cael strwythur penawdau ystyrlon ar y rhan fwyaf o dudalennau
  • Mwynhau safonau AA o ran 1.4.3 Cyferbyniad
  • Gwneud cais rhesymol am fformatau eraill, y bydd Ofcom yn eu hystyried
  • Rydym wedi sicrhau bod testun y wefan mor syml â phosibl

Mae cyngor ar gael ar AbilityNet ynghylch gwneud eich dyfais yn haws ei defnyddio os oes gennych chi anabledd.

Pa mor hygyrch yw'r wefan hon

Rydym yn gwybod nad yw rhai rhannau o’r wefan hon yn gwbl hygyrch:

  • Dydy’r gwymplen ‘sgwâr grid 2 lythyren’ a ‘Math o derfynell’ ddim yn dilyn trefn tabiau resymegol
  • Dydy'r ddolen 'Yn ôl i'r rhestr o derfynellau' ddim yn dilyn trefn tabiau resymegol
  • Dydy’r botymau ‘Tynnu’ ddim yn dilyn trefn tabiau resymegol
  • Dydy’r dangosydd ffocws ddim yn glir yn Internet Explorer
  • Dolen ‘osgoi'r gwe-lywio’ wedi torri ar bob tudalen
  • Dydy'r dudalen we ddim yn cael ei hailfeintio wrth ddefnyddio chwyddo porwr ac mae angen sgrolio ar draws
  • Wrth chwyddo’r testun yn unig, mae’r blwch ‘Nodiadau’ yn gorlapio rhywfaint o’r testun cymorth
  • Dydy PDF canllawiau OPIR ddim yn hygyrch

Adborth a gwybodaeth gyswllt

Os oes angen gwybodaeth arnoch am y wefan hon mewn fformat gwahanol, fel PDF hygyrch, print bras, testun hawdd ei ddarllen, recordiad sain neu braille, cysylltwch â’r tîm Digidol gan ddefnyddio'r ffurflen hon:

Cysylltu â’r Tîm Digidol

Byddwn yn ystyried eich cais ac yn cysylltu â chi o fewn 21 diwrnod.

Gweithdrefn Gorfodi

  Y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) sy’n gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau ac Apiau Symudol) (Rhif 2) 2018 (y ‘rheoliadau hygyrchedd’). Os nad ydych chi’n fodlon ar sut rydym yn ymateb i’ch cwyn ,cysylltwch â’r Gwasanaeth Cynghori a Chefnogi Cydraddoldeb (EASS).

Cysylltu â ni dros y ffôn

Gallwch gysylltu â ni dros y ffôn, drwy’r post neu wneud cwyn drwy ein hyb. Mae manylion cyswllt ar gael ar ein tudalen cysylltu â ni.

Yn ystod y cyfnod clo, ni allwn dderbyn galwadau cyfnewid testun neu ganiatáu ymweliadau wyneb yn wyneb.

Gwybodaeth dechnegol am hygyrchedd y wefan hon

Mae Ofcom wedi ymrwymo i sicrhau bod ei wefan yn hygyrch, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau ac Apiau Symudol) (Rhif 2) 2018.

Statws cydymffurfio

  Mae’r wefan hon yn cydymffurfio’n rhannol â safon AA Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We fersiwn 2.1 oherwydd y mathau o ddiffyg cydymffurfio sydd wedi'u rhestru isod. 

Cynnwys nad yw’n hygyrch

  • Dydy’r gwymplen ‘sgwâr grid 2 lythyren’ a ‘Math o derfynell’ ddim yn dilyn trefn tabiau resymegol. Nid yw hyn yn bodloni Maen Prawf Llwyddiant 2.4.3 ac mae wrthi’n cael ei ddatblygu ar hyn o bryd
  • Dydy'r ddolen 'Yn ôl i'r rhestr o derfynellau' ddim yn dilyn trefn tabiau resymegol. Nid yw hyn yn bodloni Maen Prawf Llwyddiant 2.4.3 ac mae wrthi’n cael ei ddatblygu ar hyn o bryd
  • Dydy’r botymau ‘Tynnu’ ddim yn dilyn trefn tabiau resymegol. Nid yw hyn yn bodloni Maen Prawf Llwyddiant 2.4.3 ac mae wrthi’n cael ei ddatblygu ar hyn o bryd
  • Dydy’r dangosydd ffocws ddim yn glir yn Internet Explorer.  Nid yw hyn yn bodloni Maen Prawf Llwyddiant 2.4.7 ac mae wrthi’n cael ei ddatblygu ar hyn o bryd
  • Dolen ‘osgoi'r gwe-lywio’ wedi torri ar bob tudalen.  Nid yw hyn yn bodloni Maen Prawf Llwyddiant 2.4.1 ac mae wrthi’n cael ei ddatblygu ar hyn o bryd
  • Dydy'r dudalen we ddim yn cael ei hailfeintio wrth ddefnyddio chwyddo porwr ac mae angen sgrolio ar draws.  Nid yw hyn yn bodloni Maen Prawf Llwyddiant 1.4.10 ac mae wrthi’n cael ei ddatblygu ar hyn o bryd
  • Wrth chwyddo’r testun yn unig, mae’r blwch ‘Nodiadau’ yn gorlapio rhywfaint o’r testun cymorth. Nid yw hyn yn bodloni Maen Prawf Llwyddiant 1.4.10 ac mae wrthi’n cael ei ddatblygu ar hyn o bryd
  • Dydy PDF canllawiau OPIR ddim yn hygyrch.  Nid yw hyn yn bodloni Maen Prawf Llwyddiant 1.1.1 a 2.4.6.  Caiff hyn ei ddatrys erbyn mis Hydref 2020

Paratoi’r datganiad hygyrchedd hwn

Cafodd y datganiad hwn ei baratoi ar 21 Medi 2020.

Cafodd y wefan hon ei phrofi ddiwethaf ar 25 Awst 2020. Cynhaliwyd y prawf gan Ofcom, a defnyddiwyd yr offer canlynol:

  • JAWS
  • NVDA
  • Offeryn Gwerthuso WAVE
  • headingsMap
  • Accessibility Insights for Web
  • Gwiriwr Cyferbyniad Lliw WCAG
  • Chwyddo’r Testun yn Unig
  • Darllen yn Uchel
  • Adroddwr
Yn ôl i'r brig