Twrnameintiau Rowndiau Terfynol Pencampwriaeth Pêl-droed Ewropeaidd UEFA yn 2024 a 2028

Cyhoeddwyd: 21 Mai 2024

Mae Ofcom wedi rhoi caniatâd i’r BBC ac ITV ddarlledu Twrnameintiau Rowndiau Terfynol Pencampwriaeth Pêl-droed Ewropeaidd UEFA yn 2024 a 2028 (“y Twrnameintiau”) yn fyw ac yn egsgliwsif.

Fe wnaethom gynnal ymgynghoriad rhwng 12 Ebrill a 10 Mai 2024 ynghylch ceisiadau y BBC ac ITV am ganiatâd i ddangos Twrnameintiau Rowndiau Terfynol Pencampwriaeth Pêl-droed Ewropeaidd UEFA yn 2024 a 2028 yn fyw ac yn egsgliwsif. Cynhelir y Twrnamaint yn yr Almaen rhwng dydd Gwener 14 Mehefin a dydd Sul 14 Gorffennaf 2024. Disgwylir i Dwrnamaint 2028 gael ei gynnal ledled Cymru, Lloegr, yr Alban, Gogledd Iwerddon a Gweriniaeth Iwerddon ym mis Mehefin a Gorffennaf 2028, gyda’r union ddyddiadau eto i’w cadarnhau.

Mae Twrnamaint Rowndiau Terfynol Pencampwriaeth Pêl-droed Ewropeaidd UEFA wedi’i ddynodi’n ddigwyddiad rhestredig Grŵp A. O dan Ddeddf Darlledu 1996, rhaid cael caniatâd Ofcom er mwyn dangos y digwyddiadau rhestredig yn fyw ac yn ecsgliwsif.

Ar gyfer Twrnamaint 2024, mae’r BBC ac ITV yn bwriadu darlledu 25 gêm yn egsgliwsif, gyda’r ddau ddarlledwr yn dangos y rownd derfynol. Mae’r BBC yn bwriadu darlledu darllediadau byw o’i gemau ar BBC One neu BBC Two yn bennaf, ond gall ddangos gemau ar BBC Four lle mae gwrthdaro o ran amserlennu. Mae’r BBC hefyd wedi cael yr hawl i ddarlledu’r Twrnamaint yn fyw ar y radio.

Mae ITV yn bwriadu darparu darllediadau byw o’i gemau ar ITV1 yn bennaf, gyda'r rhain hefyd yn cael eu darlledu ar draws rhwydwaith Channel 3, sy’n cynnwys UTV (yng Ngogledd Iwerddon) a STV (yr Alban). Mae hefyd yn bwriadu darlledu nifer fach o gemau ar ITV4 lle mae gwrthdaro o ran amserlennu. Felly, mae ITV wedi gwneud cais ar ran y trwyddedeion perthnasol ar gyfer y gwasanaethau hyn.[1]

Mae’r BBC ac ITV yn rhagweld trefniadau tebyg ar gyfer darlledu Twrnamaint 2028 ac maent wedi gofyn am ganiatâd Ofcom i ddarlledu darllediadau byw ar y sail honno, gan ymrwymo i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i Ofcom os bydd unrhyw newidiadau sylweddol i’r trefniadau cyn Twrnamaint 2028.

Roedd ein hymgynghoriad yn egluro ein bod yn bwriadu rhoi caniatâd i’r BBC ac ITV ar gyfer Twrnamaint 2024 a 2028, gyda chaniatâd ar gyfer darlledu darllediadau byw o Dwrnamaint 2028 ar unrhyw wasanaeth cymwys gan y BBC neu ITV. Fe wnaethom hefyd nodi ein barn dros dro, sef bod darlledwyr gwasanaethau “cymwys” a rhai “nad ydynt yn gymwys” (at ddibenion y drefn Digwyddiadau Rhestredig.) wedi cael cyfle i gaffael yr hawliau i ddarlledu’r Rowndiau Terfynol yn fyw ar delerau teg a rhesymol.

Cawsom un ymateb i’r ymgynghoriad gan unigolyn, a oedd yn datgan eu bod o blaid y sylw egsgliwsif arfaethedig gan y BBC ac ITV.

Rydym wedi penderfynu rhoi caniatâd i’r BBC ac ITV ddarlledu’r Twrnameintiau yn fyw ac yn egsgliwsif, gan nodi bod y cynlluniau darlledu yn sicrhau bod y Twrnameintiau ar gael yn fyw ac yn ddi-dâl i gynulleidfaoedd ar draws y DU.


[1] Y trwyddedeion ar gyfer ITV1 yw ITV Broadcasting Limited ac ITV Breakfast Broadcasting Limited. Y trwyddedeion ar gyfer UTV ac STV yw UTV Limited, STV Central Limited ac STV North Limited. Y trwyddedai perthnasol ar gyfer ITV4 yw ITV2 Limited.

Yn ôl i'r brig