Mae Ofcom wedi cymeradwyo cais gan y BBC i ddarlledu’n fyw ac yn ecsgliwsif o Gemau’r Gymanwlad 2018 (“y Gemau”).
Gwnaethom ymgynghori ar y cais yn ystod mis Chwefror a Mawrth a chawsom ddau ymateb i’r ymgynghoriad.
Roedd un ymateb yn ymwneud â sicrhau darpariaeth addas ar gyfer gwylwyr â nam ar eu golwg, ac roedd y llall yn holi pam fod angen tarfu ar yr amserlen arferol o raglenni ar sianeli daearol, yn enwedig nawr bod sianeli digidol ychwanegol ar gael. Nid yw’r Cod ar Chwaraeon a Digwyddiadau Rhestredig a Dynodedig Eraill (“Y Cod”) yn mynnu bod rhaid ystyried darparu cynnwys wedi’i addasu ar gyfer cynulleidfaoedd gyda nam ar eu golwg neu'r clyw, nac ychwaith newidiadau i amserlen rhaglenni arferol y darlledwr. Fodd bynnag, mae Ofcom wedi tynnu sylw’r BBC at yr ymatebion hyn. Ni chafwyd datganiadau o ddiddordeb.
Ar ôl ystyried yr ymatebion i’r ymgynghoriad a'r wybodaeth a ddarparwyd gan y BBC i gefnogi eu cais, mae Ofcom wedi penderfynu caniatáu i’r BBC wneud darllediadau byw ecsgliwsif.
Manylion cyswllt
Ofcom
Riverside House
2a Southwark Bridge Road
London
SE1 9HA