Gwasanaethau Rhaglenni Teledu ac Ar-alw: Adroddiad Gwasanaethau Mynediad ar gyfer Ionawr-Rhagfyr 2019
Mae’r adroddiad hwn yn nodi i ba raddau roedd sianeli teledu sy’n cael eu darlledu a gwasanaethau rhaglenni ar-alw wedi darparu is-deitlau, disgrifiadau sain a/neu iaith arwyddion (gyda’i gilydd, “gwasanaethau mynediad”) yn 2019.
Mae’r adroddiad yn galluogi defnyddwyr i gymharu i ba raddau mae teledu sy’n cael ei ddarlledu yn y ffordd draddodiadol a gwasanaethau dal-i-fyny neu ar-alw yn hygyrch i bobl sydd â nam ar eu clyw a/neu ar eu golwg.
Mae’r rheolau statudol ar gyfer gwasanaethau darlledu yn wahanol i’r rhai ar gyfer gwasanaethau ar-alw. O dan Ddeddf Cyfathrebiadau 2003, mae’n rhaid i sianeli teledu sy’n cael eu darlledu sicrhau bod cyfran benodol o’u rhaglenni’n hygyrch; mae’r Cod ar gyfer Gwasanaethau Hwyluso’r Defnydd o Deledu yn nodi’r rhwymedigaethau hyn.
Ni fu gofyniad cyfreithiol i ddarparu gwasanaethau mynediad ar gyfer gwasanaethau ar-alw (gan gynnwys dal-i-fyny). Fodd bynnag, mae Deddf Economi Ddigidol 2017 yn dangos y ffordd er mwyn i’r Llywodraeth ddrafftio rheoliadau i wella hygyrchedd gwasanaethau rhaglenni ar-alw. Mae Ofcom wedi gwneud set o argymhellion i gyfrannu at y rheoliadau, ac mae’n paratoi ail ymgynghoriad ar hyn o bryd er mwyn darparu gwybodaeth bellach i Lywodraeth y DU.
Roedd pob sianel wedi llwyddo i gwrdd neu ragori ar eu gofynion, gyda sawl sianel yn mynd ymhell y tu hwnt i’r gofynion hynny, yn enwedig ar gyfer disgrifiadau sain.
Gall sianeli domestig gyda rhwng 0.05% a 1% o gyfran y gynulleidfa naill ai ddarlledu 50 munud o raglenni sy’n cael eu cyflwyno drwy iaith arwyddion bob mis neu gymryd rhan yn nhrefniadau amgen sydd wedi’u cymeradwyo gan Ofcom sy’n cyfrannu at argaeledd rhaglenni sy'n cael eu cyflwyno drwy iaith arwyddion. Pan fydd "Alt" (neu “Amg”) yn cael ei ddangos yn yr adroddiad, mae hyn yn dangos bod y darlledwr wedi gwneud cyfraniad i Ymddiriedolaeth Darlledu Iaith Arwyddion Prydain (BSLBT), sy'n comisiynu rhaglenni sy’n cael eu cyflwyno drwy iaith arwyddion ac sy’n cael eu darlledu ar sianeli Film4 a Together.
Mae’n ofynnol i ddarlledwyr annomestig fodloni’r rhwymedigaethau hynny naill ai drwy ddarlledu rhaglenni sy’n cael eu cyflwyno drwy iaith arwyddion neu raglenni lle ceir dehonglydd iaith arwyddion neu drwy ddarparu 10% yn fwy o isdeitlau.
Mae Ofcom yn rheoleiddio ystod eang o wasanaethau rhaglenni ar-alw, gan gynnwys gwasanaethau dal-i-fyny darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus, gwasanaethau ffilmiau i danysgrifwyr ac archifau teledu lleol. Mae’n ofynnol i ddarparwyr gwasanaethau rhaglenni ar-alw gyflwyno data ddwywaith y flwyddyn ynghylch i ba raddau maen nhw’n sicrhau bod eu gwasanaethau yn hygyrch i bobl sydd â nam ar eu clyw a/neu ar eu golwg. Fodd bynnag, gall nifer y darparwyr sy’n ymateb amrywio, a gall hynny ei wneud yn anodd cymharu data â’r blynyddoedd blaenorol. Rydym yn ymwybodol iawn eleni y gall argyfwng y coronafeirws fod wedi effeithio ar allu rhai darparwyr i gyflwyno neu egluro data.
Serch hynny, roedd cyfran y darparwyr a oedd yn cynnig gwasanaethau mynediad yn eithaf tebyg i'r llynedd. Roedd 58.1% o ddarparwyr gwasanaethau rhaglenni ar-alw yn cynnig isdeitlau ar o leiaf un o’u gwasanaethau, gyda dim ond 17.4% o ddarparwyr yn cynnig disgrifiadau sain a 12.8% yn cynnig iaith arwyddion.
Gan edrych ar y darparwyr gwasanaethau rhaglenni ar-alw a oedd yn cynnig gwasanaethau mynediad yn 2019, ar y llwyfannau lle'r oedd y gwasanaethau mynediad ar gael, roedd 51.2% o oriau rhaglenni yn cynnwys isdeitlau, 9.7% yn cynnwys disgrifiadau sain a 1.5% yn cynnwys iaith arwyddion.
Mae ffigur 1 isod yn rhoi mwy o fanylion am gynnwys disgrifiadau sain, i hwyluso defnydd gyda darllenwyr sgrin. Gweler yr adroddiad rhyngweithiol am ragor o wybodaeth ynglŷn â'r ddarpariaeth o’r holl wasanaethau mynediad.
Ffigur 1: Gwasanaethau yn cynnig disgrifiadau sain yn ystod 2019
Gwasanaeth | Llwyfan | Canran y cynnwys sydd ar gael gyda disgrifiadau sain yn 2019 |
---|---|---|
All 4 | Apple TV | 21.1% |
All 4 | ap Android | 26.4% |
All 4 | ap iOS | 21.1% |
All 4 | Gwefan | 26.4% |
Arsenal Player | Gwefan | 25% |
Arsenal Player | apiau Android/iOS | 25% |
BFI Player | Teledu Clyfar Samsung | 1.2% |
BFI Player | Gwefan | 1.2% |
BT TV | BT TV | 1.1% |
BT TV | YouView | 1.1% |
Sianel CBS Reality Drama Action Horror | Virgin | 4.5% |
ITV | ap Android | 20.6% |
ITV | ap iOS | 6.2% |
MTV | Now TV | 3.5% |
MTV | Sky Go | 3.5% |
MTV | Sky On-demand | 3.8% |
MTV | ap Android | 2.2% |
MTV | ap iOS | 2.2% |
MUTV | Sianel YouTube | 2.1% |
My 5 | Amazon Fire TV | 8.2% |
My 5 | Android TV | 8.3% |
My 5 | Apple TV | 8.3% |
My 5 | Google Chromecast | 4.6% |
My 5 | Now TV | 8.0% |
My 5 | Roku | 8.3% |
My 5 | apiau Android/iOS | 8.3% |
My 5 | Gwefan | 8.3% |
Nickelodeon | BT Vision | 2.4% |
S4C | Teledu Clyfar Samsung | 12.1% |
S4C | Apiau Android/iOS | 12.1% |
S4C | TalkTalk TV | 12.1% |
S4C | Gwefan | 12.1% |
S4C | YouView | 12.1% |
Shorts International | Amazon | 19.4% |
Shorts International | Google Play | 20.8% |
Shorts International | iTunes | 17.5% |
Sky On Demand | Sky Showcase | 2.3% |
Turner Northern Europe[1] | BT TV | 16.3% |
Turner Northern Europe[1] | Now TV | 21.8% |
Turner Northern Europe[1] | Sky On-Demand | 21.8% |
Turner Northern Europe[1] | TalkTalk TV | 43.3% |
Turner Northern Europe[1] | Virgin TV | 22.3% |
Virgin Media On Demand | Virgin TV | 3.9% |
[1] Mae ffigurau Turner yn dangos bod disgrifiad sain yn cael ei ddarparu i lwyfannau ond nid o reidrwydd yn cael ei chwarae i ddefnyddwyr.
Rydym wedi darparu'r adroddiad hwn mewn ffurf rhyngweithiol fel gall defnyddwyr gymharu hygyrchedd y gwasanaethau darlledu ac ar-alw ar draws amrywiaeth o lwyfannau. Yn ogystal â'r adroddiad, rydyn ni wedi darparu taflenni excel yn cynnwys yr holl setiau data.
Os oes gennych anghenion hygyrchedd nad ydynt yn cael eu cyflawni gan y cyhoeddiadau hyn ac eisiau'r wybodaeth mewn fformat amgen, gallwch ebostio accessibility@ofcom.org.uk neu ffoniwch ein llinell Gymraeg o Ddydd Llun i Ddydd Gwener rhwng 09:00 a 17:00 sef 0300 123 2023 neu 029 7981 3042 neu ein Tîm Cynghori ar 020 7981 3040 neu 0300 123 3333. Os oes gennych chi nam clywedol neu os oes gennych nam ar eich lleferydd, gallwch ddefnyddio ein rhifau ffôn testun, sef 020 7981 3043 neu 0300 123 2024.
Adroddiad rhyngweithiol llawn
I gael y profiad gorau, defnyddiwch y sgrin llawn (cliciwch ar y botwm ar waelod yr ochr dde.) Mae'r cynnwys isod ar gael yn Saesneg yn unig.