Yn ddiweddar roedd cydweithwyr Ofcom wedi helpu dronau i ddanfon cyflenwadau meddygol brys rhwng dau ysbyty yn y DU, gan oresgyn heriau mawr yn ystod pandemig y coronafeirws.
Roeddem wedi rhoi caniatâd arbennig i ddefnyddio dronau fel rhan o gysylltiad cludo rhwng Ysbyty Southampton ac Ysbyty St Mary ar Ynys Wyth.
Roedd siwrneiau fferi i Ynys Wyth ar ei hôl hi ac roedd hynny’n golygu ei bod hi’n anodd i’r ddau ysbyty gael cyflenwadau yn ôl ac ymlaen rhwng ei gilydd. Fel ateb posibl, roedd Prifysgol Southampton eisiau profi a ellid defnyddio dronau.
Fodd bynnag, byddai angen trwydded ar gyfer hyn – a dyna lle roedden ni’n chwarae ein rhan. Dim ond ar ôl i ni wneud yn siŵr na fydd yr offer dan sylw – yn yr achos hwn, dronau – yn ymyrryd â thechnoleg arall sydd eisoes yn cael ei defnyddio mae modd i ni gyhoeddi’r trwyddedau hyn.
Os defnyddir offer radio heb drwydded, gallai fod yn defnyddio amleddau sydd eisoes wedi’u trwyddedu ar gyfer defnyddwyr eraill, neu mewn rhannau o’r sbectrwm a ddefnyddir gan wasanaethau eraill. Gallai hyn achosi ymyriant niweidiol.
Felly, cysylltodd y brifysgol â’n tîm trwyddedu sbectrwm er mwyn i ni allu ystyried a oedd yn ddiogel rhoi trwydded.
Mae Cliff Mason, rheolwr polisi ein tîm trwyddedu sbectrwm yn egluro: “Roedd yn rhaid i mi, a’m cydweithiwr Gordon Drake, ymchwilio’n ofalus i’r achos cyn i ni allu rhoi’r drwydded.
“Yn yr achos hwn, roedd angen y dronau i gludo cyffuriau a samplau o feinwe cyfrinachol a oedd yn mynd i gael eu dadansoddi ar frys yng nghanol y pandemig. Roedden ni’n gallu blaenoriaethu’r achos a dod i benderfyniad yn gyflym iawn, gan gydbwyso’r angen brys yn erbyn y risg isel o ymyriant i ddefnyddwyr eraill.”
Roedd Ofcom yn gallu awdurdodi’r treial oherwydd nad oedd y dronau’n mynd i hedfan dros ardaloedd poblog neu briffyrdd, gan y byddent yn croesi’r môr. Byddent hefyd yn defnyddio amleddau a oedd wedi’u heithrio o drwydded; nid yw’r amleddau hyn yn debygol o achosi ymyriant i ddefnyddwyr eraill ac maent fel arfer yn cael eu defnyddio ar gyfer dyfeisiau pŵer isel fel teclynnau rheoli o bell a ffobiau allwedd car.
Ychwanega Cliff: “Byddai hyn wedi bod yn gynnig gwahanol iawn dros ddinas neu ardal breswyl, er enghraifft. Felly, yn sicr nid yw hyn yn agor y drws ar gyfer defnyddio dronau ar raddfa fawr.”
Ar yr un pryd â’r gwaith trwyddedu, gofynnwyd i Ayan Ghosh o’n tîm technoleg ymchwilio i’r prawf, ar sail prosiect blaenorol roedd wedi gweithio arno, ar gyfer cwmni telegyfathrebiadau.
Eglura: “Roedd y prosiect blaenorol yn debyg – creu ‘llwybr i ddronau’ – coridor diogel i hedfan dronau rhwng Ullapool a Stornoway yn yr Alban gan ddefnyddio goleudai fel tyrau symudol i gyfathrebu â’r drôn
“Ond roedd yr un yma’n wahanol gan nad oedd yn defnyddio rhwydweithiau telegyfathrebiadau symudol i reoli’r drôn. Roedd y pellter yn llai ac nid oed angen ymdopi ag amodau tywydd anodd na gwynt cryf yr Alban.
“Roedd Prifysgol Southampton wedi dylunio ac adeiladu drôn dwy injan. Gall gludo hyd at 40kg a gall hedfan hyd at 65 not tua 75mya – mae hynny ychydig dros 40mya. Roedd y daith wedi’i chynllunio’n ofalus iawn, gyda pheilotiaid i arwain y drôn yn y mannau cychwyn a glanio. Roedd hefyd modd tracio’r drôn drwy ddefnyddio ap canfod awyrennau.
Yn dilyn llwyddiant prosiectau fel hwn, mae'n edrych fel y bydd llawer o gyfleoedd ar gyfer gwaith tebyg yn y dyfodol. Mae'r Awdurdod Hedfan Sifil (CAA) wedi lansio ' blwch tywod ' i alluogi arloesedd yn y maes hwn, ac mae Llywodraeth y DU hefyd yn ariannu ' her hedfan yn y dyfodol ' i gyflymu'r broses o fabwysiadu mathau newydd o hedfan. Yn erbyn y cefndir hwn, mae'n debygol y bydd dronau yn cael eu defnyddio llawer mwy ar gyfer tasgau hanfodol. Ac mae Ofcom yn chwarae rhan bwysig yn y gwaith o ddatblygu'r dechnoleg newydd hon.