Ymchwiliad i Gyfradd Premiwm Darparwr Gwasanaethau S P Two Cyf

Cyhoeddwyd: 4 Ebrill 2025

Ar agor

Ymchwiliad i

S P Two Ltd – Hysbysiadau

Achos wedi’i agor

17 Ionawr 2023

Crynodeb

Ar 17 Ionawr 2023, agorodd y PSA ymchwiliad i weld a oedd darparwr y gwasanaeth cyfradd premiwm, S P Two Limited , wedi methu cydymffurfio â’r rhwymedigaethau rheoleiddio o dan God Ymarfer 2021 (Pymthegfed Argraffiad) y PSA a Chod Ymarfer 2016 (Pedwerydd Argraffiad ar Ddeg) y PSA.  

Darpariaeth(au) cyfreithiol perthnasol

Gorchymyn Rheoleiddio Gwasanaethau Cyfradd Premiwm 2024 (y “Gorchymyn PRS”)

Ers 1 Chwefror 2025, mae Ofcom wedi ysgwyddo’r cyfrifoldeb dros reoleiddio gwasanaethau cyfradd premiwm oddi ar yr Awdurdod Gwasanaethau Talu dros y Ffôn (PSA) yn unol â Gorchymyn Rheoleiddio Gwasanaethau Cyfradd Premiwm 2024 (y “Gorchymyn PRS”). Mae rhagor o fanylion ar gael yn ein datganiad ‘Dyfodol rheoleiddio gwasanaethau y telir amdanynt dros y ffôn’ (yma) sy’n nodi penderfyniadau Ofcom i weithredu i drosglwyddo swyddogaethau rheoleiddio’r PSA i Ofcom.

Mae’r Gorchymyn PRS yn cynnwys trefniadau pontio, ac effaith hynny yw bod unrhyw ymchwiliad PSA agored wedi cael ei drosglwyddo i Ofcom ar 1 Chwefror 2025.


Cyswllt

Tîm gorfodi enforcement@ofcom.org.uk  

Cyfeirnod yr achos

CW/01290/02/25

Yn ôl i'r brig