Mae'r adroddiad ymchwil hwn yn darparu sylfaen dystiolaeth ynghylch cyffredinolrwydd a rhwyddineb mynediad at gynnwys sydd i'w weld yn cynnig gwerthu neu gyflenwi ystod o eitemau neu erthyglau a allai fod wedi'u gwahardd ar draws pedwar categori: cyllyll ac arfau llafnog, arfau tanio, cyffuriau rheoledig a sylweddau seicoweithredol. Mae'n canolbwyntio ar gynnwys a allai fod wedi'i wahardd sy'n hygyrch trwy wasanaethau chwilio ar-lein.
Mae Ofcom wedi cynnal yr ymchwil hwn fel rhan o'n gwaith i adeiladu ein sylfaen dystiolaeth wrth i ni baratoi i weithredu'r cyfreithiau diogelwch ar-lein newydd. Ni ddylid ystyried bod y canfyddiadau'n adlewyrchu unrhyw safbwynt polisi terfynol y gallai Ofcom ei fabwysiadu pan fyddwn yn ymgymryd â'n rôl fel y rheoleiddiwr diogelwch ar-lein.
Adroddiad
Cyffredinolrwydd Eitemau Gwaharddedig Posib ar Wasanaethau Chwilio (PDF, 198.6 KB)