Cyhoeddodd Ofcom heddiw fod Syr Ian Cheshire wedi cael ei benodi'n Gadeirydd nesaf Channel 4.
Bydd yn ymuno â Bwrdd y darlledwr ar 11 Ebrill 2022, gan olynu'r Cadeirydd dros dro Dawn Airey.
Syr Ian oedd Prif Weithredwr Grŵp Kingfisher plc rhwng Ionawr 2008 a dechrau 2015. Cyn hynny bu'n Brif Weithredwr B&Q o 2005.
Ar hyn o bryd mae'n Gadeirydd Spire Healthcare plc, Cadeirydd yr ymddiriedolaeth buddsoddi amgylcheddol Menhaden plc, ac yn gyfarwyddwr anweithredol BT plc. Mae hefyd yn Gadeirydd Cronfa Elusennol Tywysog Cymru, a Chyngor Arweinyddiaeth Ffynnu yn y Gwaith.
Mae Syr Ian hefyd wedi gwasanaethu fel Cadeirydd Barclays UK, Consortiwm Manwerthu Prydain, Debenhams plc a Maisons Du Monde SA, ac fel Uwch Gyfarwyddwr Annibynnol yn Whitbread plc.
Mewn gwasanaeth cyhoeddus, bu'n gyfarwyddwr anweithredol arweiniol yn Swyddfa'r Cabinet, mae wedi cadeirio'r Tasglu Marchnadoedd Ecosystemau a Phwyllgor Anrhydeddau'r Economi, ac ar hyn o bryd mae'n cadeirio'r Comisiwn Bwyd Ffermio a Chefn Gwlad annibynnol. Mae wedi ennill nifer o wobrau, gan gynnwys cyfraniadau gydol oes i fanwerthu, busnes gwyrdd a gwobr Fortune WEF am arweinyddiaeth yn yr economi gylchol.
Urddwyd Syr Ian yn Farchog yn Anrhydeddau'r Flwyddyn Newydd 2014 am wasanaethau i fusnes, cynaladwyedd a'r amgylchedd ac mae'n Chevalier yr Ordre National du Mérite yn Ffrainc.
Mae penodiad Syr Ian am gyfnod o dair blynedd wedi cael ei gymeradwyo gan yr Ysgrifennydd Gwladol dros Ddigidol, Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon, y Gwir Anrhydeddus Nadine Dorries AS.
Rwyf wrth fy modd yn cymeradwyo Syr Ian Cheshire i fod yn Gadeirydd newydd Channel 4. Mae gan Syr Ian gofnod drawiadol wrth y llyw yn rhai o fusnesau mwyaf Prydain ac rwy'n hyderus y bydd ei arweinyddiaeth brofedig yn helpu Channel 4 i fynd o nerth i nerth a sicrhau ei bod yn ffynnu ymhell i'r dyfodol mewn cyfnod pan fo'r sector yn newid yn gyflym.
Nadine Dorries
Mae Syr Ian yn benodiad anhygoel ar gyfer Channel 4. Mae ganddo hanes nodedig mewn gwasanaethau cyhoeddus a phreifat, a bydd yn sicrhau'r safonau llywodraethu ac atebolrwydd pennaf fel Cadeirydd hynod brofiadol byrddau pwysig eraill.
Hoffwn ddiolch i Dawn Airey am wasanaethu mor wych fel Cadeirydd dros dro Channel 4 ers mis Ionawr, ac i Charles Gurassa am ei chwe blynedd o wasanaeth rhagorol cyn hynny
Maggie Carver, Cadeirydd dros dro Ofcom
Rwy'n gyffrous i fod yn ymuno â Channel 4 ar yr adeg hollbwysig hon ar gyfer darlledu gwasanaeth cyhoeddus. Wrth iddo drawsnewid ar gyfer oes newydd o ddefnydd o'r cyfryngau, edrychaf ymlaen at helpu Channel 4 i ddarparu ar gyfer gwylwyr ym mhob cwr o'r DU am flynyddoedd lawer i ddod
Syr Ian
Nodiadau
O dan Ddeddf Darlledu 1990, mae'n ofynnol i Ofcom benodi aelodau anweithredol i Fwrdd Channel 4, yn amodol ar gymeradwyaeth yr Ysgrifennydd Gwladol.
Bydd Ofcom yn penodi dau gyfarwyddwr anweithredol ychwanegol i Fwrdd Channel 4 yn ystod y misoedd nesaf. Bydd y broses benodi yn rhoi ystyriaeth i gynyddu amrywiaeth ar y Bwrdd.