Cynllun Tair Blynedd Ofcom 2025-2028

Cyhoeddwyd: 28 Mawrth 2025

Cenhadaeth Ofcom yw gwneud i gyfathrebiadau weithio i bawb. Yng nghyd-destun arloesi a newid cyflym yn ein sectorau, mae’r cynllun hwn yn gosod sut y byddwn yn cwrdd â'n huchelgeisiau dros y tair blynedd nesaf.

Nid yw dyletswydd gyfreithiol graidd Ofcom wedi newid; sef hyrwyddo buddiannau dinasyddion a defnyddwyr lle bo hynny’n briodol drwy annog cystadleuaeth, ac ystyried buddsoddiad, arloesedd a thwf. Rhaid i ni wasanaethu dinasyddion a defnyddwyr Heddiw ac yfory–gan sicrhau tegwch a fforddiadwyedd nawr, a sicrhau buddsoddiad a fydd yn cynnal gwasanaethau da yn y dyfodol.

Mae’r byd cyfathrebu wedi newid, ac mae ein cylch gwaith wedi tyfu. Rydym yn rhyngweithio, yn cael yr wybodaeth ddiweddaraf ac yn cael ein diddanu drwy ddewis diddiwedd o rwydweithiau a gwasanaethau cyflym o ansawdd uchel sy’n pweru’r economi fodern. Er bod newidiadau wedi arwain at fanteision, mae hefyd wedi cyflwyno risgiau newydd ar draws ein cylch gwaith, gan gynnwys diogelwch ar-lein a seiberddiogelwch.

Mae'r cynllun hwn yn nodi sut y byddwn yn cyflawni ar draws ein blaenoriaethau: Rhyngrwyd a phost y gallwn ddibynnu arnyn nhw; Cyfryngau rydym ni'n ymddiried ynddyn nhw ac yn eu gwerthfawrogi; Rydym ni'n byw bywyd mwy diogel ar-lein; a Galluogi gwasanaethau di-wifr yn economi’r DU.

Yn ôl i'r brig