Cyhoeddwyd:
4 Medi 2024
Dyma ein trydydd adroddiad sy'n edrych i'r dyfodol am leoliadau rhwydwaith a gynlluniwyd sy'n cefnogi gwasanaethau band eang cyflym iawn yn y Deyrnas Unedig, sydd, ar gyfer pob rhwydwaith sefydlog yr ydym wedi'i archwilio, bellach i gyd yn seiliedig ar dechnoleg ffibr llawn.
Mae Adroddiad Ofcom yn cael ei baratoi a'i gyhoeddi i ategu ein hadroddiadau seilwaith (a elwir yn adroddiadau ein Gwledydd Cysylltiedig).
Prif Ganfyddiadau
- Gallai cyfanswm yr eiddo fydd â ffeibr llawn ar gael iddynt yn 2027 fod mor uchel â 29m (96% o’r holl eiddo). Os bydd pob rhwydwaith yn cael ei osod fel y bwriadwyd, bydd nifer yr eiddo sy’n cael darpariaeth ffeibr llawn yn cynyddu o 18.7 miliwn (ym mis Ionawr 2024) i oddeutu 29 miliwn erbyn mis Mai 2027. Gallai darpariaeth sy’n gallu delio â gigabits fod yn fwy na 97% erbyn 2027.
- Mae’r cynlluniau yn 2024 ar gyfer rhwydweithiau ffeibr llawn hyd at fis Mai 2026 yn is o’u cymharu â chynlluniau hyd at fis Mai 2026 a wnaed yn 2023. Mae cymharu’r cynlluniau i gyflwyno rhwydweithiau â’r rheini a gafwyd y llynedd yn dangos bod darparwyr wedi diwygio eu cynlluniau ar gyfer y dyfodol i lawr (tua 3 phwynt canran ar draws y DU). Fodd bynnag, mae’r cynlluniau y mae gan weithredwyr fwy o hyder i’w cyflawni ychydig yn uwch na’r llynedd (+2 pwynt canran).
- Mae rhwydweithiau’n cael eu cynllunio ym mhob ardal ledled y DU, er y gall rhai rhanbarthau ddisgwyl gweld mwy o dwf nag eraill. Er enghraifft, mae cynlluniau ar gyfer rhwydweithiau ffeibr llawn hyd at 2026 yn yr Alban yn debyg yn fras i’r rhai a adroddwyd y llynedd, tra bod cynlluniau ar gyfer cyflwyno yng Nghymru 4 pwynt canran yn is wrth gymharu â chynlluniau 2023. Rydym yn sylwi hefyd ar amrywiadau mewn cynlluniau adeiladu ar gyfer gwahanol awdurdodau lleol, ond, yn gyffredinol, rydym yn amcangyfrif bod 96% o awdurdodau lleol yn gweld darpariaeth sy’n gallu delio â gigabits yn cyrraedd mwy na 60% o eiddo preswyl erbyn 2027.
- Mae gweithredwyr rhwydwaith yn targedu ardaloedd gwledig a threfol. Os caiff yr holl gynlluniau eu gwireddu yn ôl y disgwyl, gallai darpariaeth rhwydweithiau sy’n gallu delio â gigabits mewn ardaloedd trefol gynyddu o 22m (85%) heddiw i 25.6m (99%) yn 2027 ac o 2.1m (49%) i 3.8m (88%) mewn ardaloedd gwledig. Unwaith eto, mae’r darlun hwn yn amrywio ar draws rhanbarthau ac awdurdodau lleol.
- Mae gan bron pob ardal awdurdod lleol yn y DU fwy na thri gweithredwr rhwydwaith sy’n bwriadu gosod rhwydweithiau yn y dyfodol, ac mae gan lawer o ranbarthau fwy na deg o weithredwyr sy’n bwriadu datblygu.
- Mae rhywfaint o’r gwaith adeiladu hwn yn ategol, ond mae gwaith adeiladu arall yn gallu arwain at gystadleuaeth uniongyrchol mewn eiddo unigol. Rydym yn amcangyfrif y bydd hyd at 81% o eiddo y DU yn gallu derbyn gwasanaethau sy’n gallu delio â gigabits gan ddau ddarparwr neu fwy erbyn 2027.
- Rydym hefyd yn rhagweld y bydd rhwydweithiau Mynediad Di-wifr Sefydlog (FWA) yn ehangu, sy’n cynnig gwasanaethau band eang cyflym (dros 100Mbit yr eiliad). Mae ein data’n adrodd, dros y cyfnod dan sylw, bod tua 4,300 o fastiau FWA eraill yn cael eu cynllunio neu eu huwchraddio ar draws y DU, yn ogystal ag oddeutu tua 28,500 sydd eisoes yn bodoli, a allai gynnig band eang cyflym. Fodd bynnag, nid yw’n hawdd dehongli o’r wybodaeth hon nifer yr eiddo a allai gael y gwasanaethau band eang FWA cyflym hyn.