Adolygiad o newyddion a materion cyfoes y BBC

Cyhoeddwyd: 7 Tachwedd 2019
Diweddarwyd diwethaf: 29 Tachwedd 2023

A woman using the BBC News app on a tablet device.Mae darparu newyddion a materion cyfoes o ansawdd uchel y gellir ymddiried ynddynt yn ganolog i gylch gwaith y BBC.

Ar adeg lle mae trafodaethau gwleidyddol a phegynol iawn, mae'r angen am newyddiaduraeth gywir, ddibynadwy a chadarn yr un mor bwysig ag y bu erioed.

Ym mis Mawrth, gwnaethon ni lansio adolygiad manwl o newyddion a materion cyfoes y BBC, gan roi cynulleidfaoedd wrth wraidd ein hymchwil. Dros y gwanwyn a'r haf, gwnaethon ni gasglu barn pobl ar draws y Deyrnas Unedig. Gwnaethon ni gomisiynu ymchwil i roi cipolwg manwl i ni o'r ffordd y mae pobl yn cael eu newyddion. Hefyd gwnaethon ni edrych ar yr ystod a’r dyfnder mae’r BBC yn ei gynnig o'i gymharu â darparwyr newyddion eraill.

Fel rhan o’n rhaglen ymchwil helaeth, gwnaethon ni ofyn yn fanwl i bobl am eu harferion newyddion, beth sy'n bwysig iddynt am y newyddion a'r materion cyfoes y maent yn eu gwylio, yn gwrando arnynt ac yn eu darllen, yn ogystal â phwysigrwydd Newyddion y BBC a materion cyfoes yn yn eu bywydau. Er mwyn helpu i lywio ein gwaith, gwnaethom hefyd gyfarfod â rhanddeiliaid ledled y DU, gan gynnwys darlledwyr, grwpiau papurau newydd, newyddiadurwyr y cyfryngau, cyrff proffesiynol ac academyddion.

Gallwch ddarllen ein hadroddiad llawn, yr ystod ymchwil a gweld dau glip fideo byr gan ddefnyddio’r dolenni isod.

Adroddiad llawn

Adolygiad o newyddion a materion cyfoes y BBC (PDF, 4.0 MB)

Mae'r cynnwys isod ar gael yn Saesneg yn unig.

How does social media influence how people discover news?

Rydyn ni’n cynnal adolygiad o gynnyrch newyddion a materion cyfoes y BBC ar draws teledu, radio ac ar-lein.

Mae’r ffordd rydyn ni’n defnyddio ac yn ymgysylltu â’r newyddion yn newid. Mae’r cyfuniad traddodiadol o fwletinau newyddion a radio, yn rhoi crynodeb dyddiol awdurdodol o’r prif ddigwyddiadau, wedi cael ei ddisodli gan lawer o bobl gan amgylchfyd newyddion llawer fwy cymhleth.

Yn yr hinsawdd yma, mae rôl y BBC fel darparwr diduedd o newyddion a materion cyfoes ar draws eu holl lwyfannau mor bwysig ag erioed. Yr her mae’r BBC yn ei wynebu yw parhau’n ffynhonnell berthnasol ar gyfer y newyddion y gellir ymddiried ynddo, sy’n darparu cynnwys o safon uchel ar gyfer yr holl gynulleidfaoedd. Nod yr adolygiad hwn yw deall pa mor llwyddiannus mae’r BBC yn addasu i gyflawni’r her hon.

Yn ogystal â siarad â chynulleidfaoedd, byddwn ni’n ymgysylltu â diwydiant a phartïon â diddordeb eraill drwy gydol cyfnod ein hadolygiad.

Byddwn yn disgwyl cyhoeddi ein canfyddiadau yn hydref 2019 a bydd unrhyw ganfyddiadau perthnasol yn cyfrannu at ein gwaith o reoleiddio’r BBC yn y dyfodol.

Cylch Gorchwyl: Adolygiad o newyddion a materion cyfoes y BBC (PDF, 207.6 KB)

Gwybodaeth gyswllt

BBC News and Current Affairs Review
Ofcom
Riverside House
2A Southwark Bridge Road
Llundain SE1 9HA

Ebost: bbcnewsreview@ofcom.org.uk

Yn ôl i'r brig