Y mathau o gwynion mae Ofcom yn delio â nhw

Cyhoeddwyd: 26 Hydref 2023

Rydym yn gwneud yn siŵr eich bod yn cael y gorau o’ch band eang a’ch ffôn. Rydym hefyd yn goruchwylio teledu a radio, tonnau awyr di-wifr a’r post.

Fodd bynnag, efallai na fyddwn yn gallu delio â chwynion unigol ar gyfer pob un o’r meysydd hyn. Dyma drosolwg o beth rydym yn ei wneud a beth nad ydym yn ei wneud.

Rydym yn delio â chwynion gan bobl a busnesau, sy'n ein helpu ni i gymryd camau yn erbyn cwmnïau pan fyddant yn gadael cwsmeriaid i lawr.

Nid yw San Steffan wedi rhoi pwerau i ni i ddatrys cwynion pobl am eu gwasanaeth ffôn na band eang. Yn hytrach, gellir delio â’r rhain drwy Wasanaethau Amgen o Ddatrys Anghydfod.

Er nad ydym yn ymchwilio i gwynion unigol, drwy dynnu sylw at broblemau rydych yn chwarae rhan hollbwysig yn ein gwaith ac efallai byddwn yn ymchwilio i gwmni os bydd data monitro yn dangos bod problem benodol yn bodoli.

Cwyno am wasanaethau symudol, ffôn cartref neu'r rhyngrwyd.

Mae gwahanol fathau o alwadau a negeseuon digroeso, ond nid yw Ofcom ond yn gyfrifol am fonitro galwadau mud a galwadau sy’n cael eu gadael.

Mae sefydliadau eraill yn delio â mathau eraill o alwadau a negeseuon digroeso.

Dysgwch sut mae eu cwyno amdanyn nhw neu sut mae amddiffyn eich hun rhagddynt drwy ddewis y math perthnasol o alwad neu neges rydych chi’n ei gael ar ein  porth cwynion.

Cwyno am alwadau a negeseuon diangen.

Rydym yn gwneud yn siŵr:

  • bod amrywiaeth o gwmnïau yn darparu rhaglenni radio a theledu o safon sy’n apelio at gynulleidfaoedd amrywiol;
  • bod gwylwyr a gwrandawyr yn cael eu hamddiffyn rhag ddeunydd niweidiol neu dramgwyddus ar y teledu, ar y radio ac ar-alw;
  • bod pobl yn cael eu hamddiffyn rhag triniaeth annheg mewn rhaglenni, ac rhag i neb darfu ar eu preifatrwydd; a
  • bod llwyfannau rhannu fideos a sefydlir yn y DU yn cymryd camau priodol i ddiogelu eu defnyddwyr rhag niwed.

Rydym yn ystyried pob cwyn a dderbyniwn gan wylwyr a gwrandawyr. Yn aml, byddwn yn ymchwilio ymhellach. Weithiau, byddwn yn canfod bod darlledwyr wedi torri ein rheolau.

Rydym yn rheoleiddio cynnwys y BBC (ac eithrio BBC World Service), ond mae'n rhaid i chi gofrestru cwynion am gynnwys gyda’r BBC yn gyntaf. Os nad ydych yn fodlon ar ymateb y BBC, gallwch gysylltu â ni. Dysgwch ragor am sut rydym yn delio â chwynion am wasanaethau’r BBC, ar deledu, radio a gwasanaethau ar-alw.

Rydym yn derbyn cwynion yn uniongyrchol am ddarlledwyr teledu a radio eraill rydym yn eu rheoleiddio. Dysgwch ragor am sut rydym yn delio â chwynion teledu a radio.

Rydym yn rheoleiddio rhai gwasanaethau fideo ar-alw. Dysgwch ragor am sut rydym yn delio â chwynion eraill am wasanaethau fideo ar-alw.

Rydym hefyd yn rheoleiddio llwyfannau rhannu fideos a aefydlir yn y DU ond nid ydym yn ystyried cwynion unigol. Dysgwch ragor am sut rydym yn rheoleiddio llwyfannau rhannu fideos.

Darllenwch ein rheolau ar gyfer darlledwyr.

Cwyno ynghylch teledu, radio, gwasanaethau ar-alw a llwyfannau rhannu fideos.

Er ein bod ni'n rheoleiddio'r gwasanaeth post, nid oes modd i ni archwilio cwynion unigol ynghylch gweithredwyr post.

Mae'n rhaid i unrhyw weithredwr post gael gweithdrefn cwynion ar eu gwefan.

Os ydych chi'n dymuno cwyno am y Post Brenhinol, gwnewch hynny'n uniongyrchol os gwelwch yn dda. Nid ydym ni'n rheoleiddio Parcelforce na Post Office Ltd.

.

Mewn amgylchiadau eithriadol, mae'n bosib y byddwn yn ymchwilio i ymyriad i offer radio lle rydym yn fodlon:

  • bod yr ymyriad yn niweidiol;
  • ei fod y tu hwnt i'ch rheolaeth; ac
  • y cymerwyd pob cam rhesymol i isafu'r effaith.

Mae'n bosib y byddwn yn anfon peiriannydd allan i ymchwilio iddo. Fodd bynnag, gallech fod yn atebol am gost yr ymchwiliad os gwelwn nad yw'r meini prawf uchod wedi'u bodloni.

Cyn rhoi gwybod am ymyriad i Ofcom, ac i isafu'r risg o fynd i gostau yn unol â'n telerau ac amodau cynnal ymchwilio, dylech:

  • gadw cofnod o bob digwyddiad, gan gynnwys yr amser, y dyddiad a'r orsaf neu'r cyfarpar yr effeithir arnynt (yn ddelfrydol am bythefnos);
  • sefydlu nad yw ffynhonnell ymyriad niweidiol o fewn eich rheolaeth chi (e.e. o fewn eich eiddo eich hun); a
  • sicrhau bod yr orsaf neu'r cyfarpar yr effeithir arnynt yn gweithio'n gywir (e.e. wedi'u gosod, eu cynnal a'u peiriannu'n gywir).

Cwyno am ymyriad diwifr

Ofcom yw’r rheoleiddiwr ar gyfer diogelwch ar-lein yn y DU. Ein rôl yw sicrhau bod gwasanaethau ar-lein, fel gwefannau ac apiau, yn cyflawni eu dyletswyddau i ddiogelu eu defnyddwyr.

Rydym yn rheoleiddio'r llwyfannau rhannu fideos (VSPs) sydd wedi'u sefydlu yn y DU. VSP yw gwasanaeth sy'n galluogi defnyddwyr i uwchlwytho neu rannu fideos â phobl eraill. Mae'r VSPs a reoleiddiwn yn cynnwys BitChute, OnlyFans, TikTok a Twitch - ac mae rhestr lawn ar gael ar ein gwefan.

Gallwch gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn rheoleiddio gwasanaethau ar-lein gan gynnwys VSPs.

Cwyno am wasanaethau ar-lein, gwefannau ac apiau

Dydyn ni ddim yn delio â'r canlynol:

  • anghydfod unigol rhyngoch chi a’ch darparwr ffôn cartref, bang eang neu ffôn symudol - bydd y cynllun Dulliau Amgen o Ddatrys Anghydfod (ADR) yn delio â’r rhain;
  • gwasanaethau ffôn cyfradd premiwm – mae'r rhain yn cael eu rheoleiddio gan yr Awdurdod Gwasanaethau Ffôn y Mae’n Rhaid Talu Amdanynt
  • Safonau hysbysebu ar y teledu, y radio neu’r rhyngrwyd – mae’r rhain yn cael eu rheoleiddio gan yr Awdurdod Safonau Hysbysebu;
  • BBC World Service;
  • ffi trwydded y BBC;
  • swyddfeydd post;
  • papurau newydd a chylchgronau; na’r
  • hyn mae pobl yn ei ysgrifennu neu’n ei bostio ar y rhyngrwyd.

Byddwn bob amser yn gwneud ein gorau glas i ddiwallu anghenion busnesau, defnyddwyr, gwylwyr a gwrandawyr.

Ond weithiau mae pethau’n gallu mynd o chwith - neu gallwn fethu â chyrraedd ein safonau uchel.

Os bydd hyn yn digwydd, mae gennym weithdrefnau i ddelio â chwynion am Ofcom.

Yn ôl i'r brig