Cysylltwch â ni dros y ffôn neu drwy'r post

Cyhoeddwyd: 4 Ionawr 2023
Diweddarwyd diwethaf: 16 Mawrth 2023

Dros y ffôn

I sgwrsio gyda ni am wasanaethau ffôn neu'r rhyngrwyd, neu raglenni teledu neu radio ffoniwch:

  • ein llinell iaith Gymraeg sef 0300 123 2023 -nid yw galwadau'n costio mwy na galwadau i rifau daearyddol (01 neu 02) ac mae'n rhaid iddynt gael eu cynnwys mewn cynlluniau munudau cynhwysol neu ddisgownt yn yr un modd.
  • y ganolfan galwadau canolog ar 0300 123 3333 –nid yw galwadau'n costio mwy na galwadau i rifau daearyddol (01 neu 02) ac mae'n rhaid iddynt gael eu cynnwys mewn cynlluniau munudau cynhwysol neu ddisgownt yn yr un modd.
  • 020 7981 3040 – mae galwadau o linellau tir yn debygol o gostio 9c y funud; mae galwadau o ffonau symudol fel arfer yn costio rhwng 3c a 55c fesul munud.

Os ydych chi’n fyddar neu â nam ar eich lleferydd, gallwch gysylltu â ni drwy gyfnewid testun. Dysgwch sut i lwytho’r ap cyfnewid testun i lawr ar gyfer ffonau clyfar, dyfeisiau tabled neu gyfrifiaduron.

Os oes gennych chi ffôn testun a’ch bod am ein ffonio ni’n uniongyrchol, ffoniwch 020 7981 3043. (Dim ond ar gyfer galwadau rhwng ffonau testun y mae’r rhifau hyn yn gweithio.)

I gysylltu â ni gan ddefnyddio Iaith Arwyddion Prydain, defnyddiwch ein gwasanaeth cyfnewid fideo.

Rydyn ar agor rhwng 9.00am a 5.00pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Drwy’r post

Er ei fod yn haws i ni dderbyn eich cwyn ar-lein neu dros y ffôn, gallwch wneud cwyn i ni yn ysgrifenedig os dymunwch. Y cyfeiriad yw:

Blwch Post 1285
Warrington
WA1 9GL

Ar gyfer cwynion lle tybiwch y cawsoch chi neu eich sefydliad ei drin yn annheg ac/neu y tarfwyd ar eich preifatrwydd chi neu eu preifatrwydd nhw mewn rhaglen, gyrrwch lythyr yn uniongyrchol i 'Cwynion Tegwch a Phreifatrwydd Ofcom' yng nghyfeiriad ein prif swyddfa isod:

Ofcom
Riverside House
2a Southwark Bridge Road
Llundain
SE1 9HA

Defnyddiwch ffurflen ar-lein

Gallwch chi lenwi ffurflen gwynion ar-lein ynghylch agweddau penodol sy’n ymwneud â’r ffôn, y rhyngrwyd, teledu radio a gwasanaethau ar alw. Dysgwch ragor am y mathau o gwynion rydyn ni’n mynd i’r afael â nhw, neu dilynwch y dolenni isod i:

Cwyno am wasanaethau symudol, ffôn cartref neu wasanaethau’r rhyngrwyd

Cwyno am wasanaethau teledu, radio ac ar alw

Yn ôl i'r brig