Rhaid i ddarparwyr ffonau nawr rwystro galwadau o dramor sy’n dynwared rhifau llinell dir y DU, o dan ganllawiau cryfach y diwydiant sy’n dod i rym heddiw.
Tacteg gyffredin a ddefnyddir gan sgamwyr i dwyllo dioddefwyr yw dynwared – neu ‘gamfeddiannu a ffugio’ (spoof) – rhifau ffôn y DU sy’n edrych fel rhif person, sefydliad neu adran o’r Llywodraeth. Mae twyllwyr yn gwneud hyn gan wybod bod pobl yn llawer mwy tebygol o ateb y ffôn os ydynt yn gweld rhif o’r DU, o’i gymharu â rhif rhyngwladol anhysbys.
O heddiw ymlaen, o dan ganllawiau cryfach Ofcom, bydd hyd yn oed yn anoddach i sgamwyr ddefnyddio rhifau wedi’u camfeddiannu a’u ffugio. Bellach, mae’n rhaid i gwmnïau ffôn ganfod a rhwystro galwadau o dramor sy’n ffugio dangos rhif ffôn llinell dir y DU fel ‘Rhif Cyflwyno’ – sy’n dangos pwy sy’n galw – ac eithrio mewn nifer cyfyngedig o achosion dilys.
Mae hyn yn adeiladu ar ofyniad cynharach i gwmnïau ffôn rwystro galwadau o dramor sy’n defnyddio rhif y DU fel ‘Rhif Rhwydwaith’, sy’n dangos o ble mae galwad yn cael ei gwneud.
Dywedodd BT ei fod wedi gallu atal hyd at filiwn o alwadau bob dydd rhag dod i mewn i’w rwydwaith yn ystod y mis cyntaf ar ôl iddo roi’r mesurau hyn ar waith yn wirfoddol. Bydd canllawiau newydd Ofcom yn sicrhau bod hyn yn dod yn arfer safonol ar draws y diwydiant.
Cynigion pellach ar fynd i’r afael â rhifau symudol sydd wedi’u camfeddiannu a’u ffugio
Y llynedd, aethom ati i ofyn am farn a thystiolaeth ynglŷn ag effeithiolrwydd, costau, risgiau ac amserlenni gwahanol atebion technegol i fynd i’r afael â galwadau sgam o dramor sy’n camfeddiannu a ffugio rhifau symudol y DU.
Rydym yn parhau â’r gwaith hwn i fynd i’r afael â chamfeddiannu a ffugio rhifau symudol, ac rydym yn disgwyl cyhoeddi ein camau nesaf yn ddiweddarach eleni.
Bydd y canllawiau cryfach hyn ar gyfer y diwydiant a gyhoeddir heddiw yn helpu i amharu ymhellach ar dacteg gyffredin a ddefnyddir gan dwyllwyr sy’n gweithredu o dramor, oherwydd dylent olygu bod unrhyw alwadau sy’n dangos rhif ffôn llinell dir y DU yn cael eu rhwystro rhag mynd trwodd.
Gyda rhagor o fesurau i fynd i’r afael â chamfeddiannu a ffugio rhifau symudol yn y DU yn cael eu cyhoeddi yn nes ymlaen eleni, bydd Ofcom yn parhau i chwarae ein rhan – ochr yn ochr â’r heddlu, rheoleiddwyr eraill a’r diwydiant telegyfathrebiadau – yn yr ymdrech gydweithredol i ddiogelu defnyddwyr rhag sgamiau.
- Marinas Gibbs, Cyfarwyddwr Polisi Rhwydweithiau a Chyfathrebu