HERO-radio station

Ofcom yn gwahodd ceisiadau ar gyfer y seithfed rownd o drwyddedau DAB ar raddfa fach.

Cyhoeddwyd: 28 Ionawr 2025

Mae’r cyfnod ymgeisio wedi agor ar gyfer y seithfed rownd o drwyddedau amlblecs radio DAB ar raddfa fach mewn 29 ardal ar hyd a lled Cymru, Lloegr, Gogledd Iwerddon a’r Alban.

Mae pob amlblecs ar raddfa fach y mae Ofcom yn ei drwyddedu yn galluogi gwasanaethau cymunedol ar lawr gwlad, gorsafoedd cerddoriaeth arbenigol, a gwasanaethau sydd wedi’u hanelu at grwpiau lleiafrifol a chynulleidfaoedd eraill nad ydynt yn cael eu gwasanaethu’n ddigonol, i gael presenoldeb ar y tonnau awyr digidol.

Bydd y rhaglen DAB ar raddfa fach yn golygu bod modd lansio dros 100 o amlblecsau i gyd. Hyd yma, mae 70 o amlblecsau wedi lansio darlledu i wrandawyr ar draws pedair gwlad y DU.

Bydd hyd yn oed mwy o wrandawyr yn gallu gwrando ar orsafoedd radio lleol digidol newydd cyn bo hir, wrth i Ofcom heddiw wahodd ceisiadau am amlblecsau yn yr ardaloedd canlynol:

  • Arbroath, Carnoustie a Montrose
  • Bridgwater
  • Bromsgrove, Kidderminster a Redditch
  • Cirencester
  • Ely a March
  • Enniskillen
  • Exmouth a Dawlish
  • Caerloyw
  • Caerhirfryn
  • Llanelli
  • Loughborough a Coalville
  • Malton
  • Market Harborough
  • Midlothian
  • De Arfordir Moray
  • Newark-on-Trent
  • Gogledd Berkshire a De Swydd Rydychen
  • Gogledd Norfolk
  • Gogledd Gwlad yr Haf
  • Oban
  • Ringwood, Verwood a Fordingbridge
  • Rugby a Daventry
  • Stockton-on-Tees
  • Wellingborough
  • Gorllewin Swydd Rydychen
  • Gorllewin Gwlad yr Haf a Lynton
  • Ynysoedd y Gorllewin
  • Weston-Super-Mare
  • Caerwrangon

Rydym hefyd yn ailhysbysebu trwyddedau i wasanaethu’r ardaloedd canlynol:

  • Penrhyn Ards
  • Banbury a Bicester
  • Taunton
  • Wakefield a Castleford

Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno ceisiadau yw 5pm ddydd Mawrth 29 Ebrill 2025.

Rydym hefyd wedi ailgyhoeddi a diweddaru ein nodiadau cyfarwyddyd ar gyfer amlblecsau DAB ar raddfa fach heddiw.

Yn ôl i'r brig