
Cyhoeddwyd:
31 Gorffennaf 2024
Heddiw mae Ofcom wedi cyhoeddi ei Adroddiad Blynyddol a'i Gyfrifon ar gyfer y cyfnod 1 Ebrill 2023 i 31 Mawrth 2024.
Mae'r adroddiad yn nodi ein perfformiad yn erbyn ein cynllun gwaith dros y flwyddyn ariannol ddiwethaf, gan gofnodi'r cynnydd yr ydym wedi'i wneud yn ein gwaith ar draws prosiectau mawr a chyfrifoldebau rheoleiddio parhaus.
Rydym hefyd wedi cyhoeddi ein Cyfrifon Adran 400, gyda manylion derbynebau o daliadau ffi'r drwydded a chosbau ariannol yn ystod y flwyddyn ariannol.