Radio cymunedol

Cyhoeddwyd: 20 Hydref 2023
Diweddarwyd diwethaf: 20 Hydref 2023

Mae gorsafoedd radio cymunedol yn rhoi cyfle i gannoedd o gymunedau ar draws y DU i ddarlledu. Diolch i waith caled a brwdfrydedd y gwirfoddolwyr, maent yn adlewyrchu amrywiaeth o ddiwylliannau a diddordebau ac yn darparu cynnwys cyfoethog a gynhyrchir gan fwyaf yn lleol.

Fel arfer mae gorsafoedd radio cymunedol yn darlledu i ddalgylch sy'n fach yn ddaearyddol gyda radiws darpariaeth o hyd at 5 cilomedr ac yn cael eu rhedeg ar sail dim-er-elw. Gallant wasanaethu cymunedau cyfan neu wahanol feysydd o ddiddordeb -fel grwpiau ethnig, oed neu ar gyfer pobl sydd â diddordeb penodol. Er enghraifft, gallwch wrando ar orsafoedd sy'n canolbwyntio ar gerddoriaeth ddinesig neu arbrofol. Mae gorsafoedd cymunedol eraill yn targedu pobl ifanc, cymunedau crefyddol neu'r lluoedd arfog a'u teuluoedd. Maent yn gallu bod yn fuddiol iawn i'r gymuned gan eu bod yn cynnig hyfforddiant a newyddion cymunedol a chyfle i drafod.

Nid yw’r canllawiau radio cymunedol: mewnbwn gwirfoddolwyr (y Canllawiau), na’r adran ar Gyfraddau Gwirfoddoli, wedi cael eu hadolygu gan Ofcom ers 2015. Yn ystod y cyfnod hwn, mae’r Cyflog Byw Cenedlaethol wedi bod yn cynyddu’n araf ac yn ddiweddar mae wedi rhagori ar y cyfraddau a nodwyd yn flaenorol gan Ofcom yn y Canllawiau ar gyfer “Uwch Wirfoddolwr” a ‘Gwirfoddolwr Safonol’ y gall trwyddedeion Radio Cymunedol eu defnyddio i gyfrifo gwerth mewnbwn eu gwirfoddolwyr. O’r herwydd, roedd yn bwysig bod Ofcom yn diweddaru’r cyfraddau a ddefnyddir yn y Canllawiau.

Penderfynodd Ofcom beidio ag ymgynghori ar y diweddariad hwn i’r canllawiau. Y rheswm am hyn yw ein bod ni wedi penderfynu na fyddai’r newid yn:
1. newid gweithgareddau Ofcom yn sylweddol
2. effeithio’n sylweddol ar bobl sy’n cynnal busnesau yn y marchnadoedd y mae gan Ofcom swyddogaethau ar eu cyfer
3. effeithio’n sylweddol ar y cyhoedd yn y Deyrnas Unedig.

Ar ben hynny, dim ond Adran 5 y canllawiau y mae Ofcom wedi’i diweddaru (mae’r holl adrannau eraill yn dal heb eu cyffwrdd) ac rydym o’r farn na fyddai’r newid hwn yn effeithio’n sylweddol ar y sector Radio Cymunedol. Yn hytrach nag ymgynghori’n ehangach, roeddem o’r farn ei bod yn bwysig gwneud y newid yn gyflym gan ofyn am fewnbwn gan y ddau gorff Masnach Radio Cymunedol cyn cyhoeddi (Cymdeithas Cyfryngau Cymunedol a Rhwydwaith Radio Cymunedol y DU).

Drwy gyhoeddi’r canllawiau hyn nawr, bydd Trwyddedeion Radio Cymunedol yn gallu defnyddio’r cyfraddau diwygiedig ar gyfer gwirfoddolwyr ‘Safonol’ ac ‘Uwch’ pan fydd yr Adroddiadau Blynyddol sy’n canolbwyntio ar 2023 i fod i gael eu cyflwyno.

Yn y DU, mae’r amcangyfrif cryfaf o enillion ar gyfer galwedigaethau unigol yn dod o’r Arolwg Blynyddol o Oriau ac Enillion, sy’n cael ei redeg gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol. Mae gan yr arolwg hwn sampl o tua 300,000 o bobl mewn cyflogaeth bob blwyddyn ac mae’n darparu amcangyfrifon cadarn, manwl o gyflogau ar gyfer gwahanol alwedigaethau. Felly, rydym wedi cymryd amcangyfrifon o gyfraddau gwirfoddolwyr yn y sector radio cymunedol o’r arolwg hwn. Mae hyn hefyd yn cyfateb i’r ffordd y mae Swyddfa’r Cabinet yn awgrymu bod mudiadau’n cyfrif am werth gwirfoddolwyr.

Yn olaf, mae Ofcom yn nodi bod y Llywodraeth yn bwriadu cyhoeddi ymgynghoriad a fydd, yn rhannol, yn canolbwyntio ar adolygu’r rheolau cyllido sydd ar waith ar gyfer y sector Radio Cymunedol. Er gwaethaf yr ymgynghoriad hwn sydd ar y gweill, rydym o’r farn ei bod yn dal yn berthnasol cyhoeddi’r canllawiau diweddaraf hyn nawr er mwyn i’r sector Radio Cymunedol allu defnyddio’r ffigurau diwygiedig cyn unrhyw newidiadau yn y maes hwn yn y dyfodol. Bydd y Canllawiau hyn yn cael eu hadolygu a’u diweddaru o bryd i’w gilydd lle bo angen.

Mae llawer mwy o bobl ledled y DU yn gallu gwrando ar radio cymunedol a’i fwynhau bellach, yn dilyn gwaith gan Ofcom i ymestyn y ddarpariaeth a gwella derbyniad.

Caiff gorsafoedd radio cymunedol eu llywio gan waith a brwdfrydedd gwirfoddolwyr. Maent yn adlewyrchu ystod eang o ddiwylliannau a diddordebau, ac yn darparu cymysgedd o gynnwys wedi’i gynhyrchu’n lleol, yn cynnwys newyddion, gwybodaeth a sgyrsiau.

Yn ystod 2019, cytunodd Ofcom i wella ansawdd darpariaeth 63 gorsaf radio cymunedol ac ymestyn darpariaeth 33 ohonynt, gan gynnig manteision radio cymunedol i gynulleidfa ehangach nag erioed.

Rydyn ni wrthi’n prosesu ceisiadau ar gyfer trwyddedau radio cymunedol newydd ac rydyn ni’n disgwyl dyfarnu’r rhain i orsafoedd llwyddiannus erbyn diwedd Mawrth 2020.

Dyma fydd rownd olaf y broses o drwyddedu gorsafoedd radio cymunedol ar FM neu AM yn y dyfodol agos, gan y byddwn yn dechrau trwyddedu gorsafoedd radio digidol lleol newydd cyn bo hir a fydd yn defnyddio technoleg ‘DAB ar raddfa fach’ flaengar, wedi’i harloesi gan un o beirianwyr Ofcom. Rydyn ni’n disgwyl gwahodd ceisiadau yn 2020.

Mae rhagor o wybodaeth am ein hymgynghoriad ynghylch DAB ar raddfa fach a’n gwaith i gefnogi radio cymunedol ar gael.

Radio Cymunedol: diweddariad o ran y blaenoriaethau sydd wedi’u nodi (PDF, 140.8 KB)

Bydd rhaglenni gorsaf radio cymunedol yn adlewyrchu anghenion a diddordebau ei chynulleidfa. Ond yn hytrach na 'llefaru wrth' ei chymuned, fe ddylai'r orsaf fod yn rhan ganolog ohoni. Mae hynny'n golygu creu cysylltiadau uniongyrchol â'i gwrandawyr, cynnig cyfleoedd hyfforddi a gwneud yn siŵr bod aelodau o'r gymuned yn gallu cyfrannu at y gwaith o redeg yr orsaf. Mae gorsafoedd cymunedol fel arfer yn darparu 93 awr o allbwn gwreiddiol ac unigryw bob wythnos, gyda rhan helaeth ohono wedi'i chynhyrchu'n lleol. Ar gyfartaledd, mae gorsafoedd yn gweithredu gyda 87 o wirfoddolwyr, sydd gyda’i gilydd yn rhoi tua 209 awr o'u hamser bob wythnos.

Does gan unigolion ddim hawl i ddal trwydded. Dim ond i gwmnïau cofrestredig (neu gyrff cyfatebol megis y rheini a grëwyd gan statud) rydyn ni'n cynnig trwyddedau iddynt. Ni all cwmni neu sefydliad ddal mwy nag un drwydded radio cymunedol. Mae cyfyngiadau ar berchnogaeth rhwng radio masnachol a radio cymunedol hefyd.

Mae'n golygu nad oes modd rhoi unrhyw elw a gynhyrchir gan yr orsaf radio cymunedol i randdeiliaid er enghraifft, nac i roi budd i'r bobl sy'n rhedeg y gwasanaeth. Serch hynny, nid yw'r gofyniad hwn yn atal gorsafoedd rhag talu staff. Mae'n rhaid defnyddio unrhyw elw neu arian dros ben i sicrhau neu i wella darpariaeth y gwasanaeth radio yn y dyfodol, neu i sicrhau manteision cymdeithasol / buddion cymunedol ar gyfer cymuned darged yr orsaf.

Gall pob gorsaf gynnwys hysbysebion a nawdd, ond mae rheolau ynghylch faint o incwm mae modd ei wneud o'r ffynonellau hyn (mae'n rhaid cydbwyso incwm dros £15,000 drwy hysbysebion a nawdd ag incwm ychwanegol o ffynonellau eraill). Mae nifer fach o orsafoedd cymunedol – lle maent yn gorgyffwrdd â gwasanaethau masnachol bach sydd â stiwdios nad ydynt wedi'u cyd-leoli â gorsafoedd eraill – yn gyfyngedig i uchafswm o £15,000 drwy hysbysebion a nawdd.

Bydd ceisiadau ar gael i'r cyhoedd eu harchwilio ar wefan Ofcom. Yn fuan ar ôl y dyddiad cau ar gyfer gwneud ceisiadau, byddwn yn cyhoeddi nifer y ceisiadau a gafwyd, ac wedi hynny yn cyhoeddi, ar wefan Ofcom, pob rhan o'r ceisiadau a gafwyd ar wahân i'r rhannau hynny rydym yn cytuno i'w cadw'n gyfrinachol. Bydd y rhannau a gyhoeddir yn cynnwys enw(au), cyfeiriad(au) a rhif(au) ffôn yn ystod y dydd unigolion a enwebir i ddelio ag unrhyw ymholiadau gan y wasg neu'r cyhoedd ar ran yr ymgeisydd.

Mae'r trwyddedau ar gyfer pob rhanbarth yn cael eu dyfarnu mewn swp ar sail dreigl. Os ceir nifer fawr o geisiadau ar gyfer unrhyw ranbarth, mae'r broses o ystyried pob cais yn debygol o gymryd sawl mis. Bydd gofyn i'r grwpiau llwyddiannus ddechrau darlledu cyn pen dwy flynedd ar ôl cael eu trwydded.

Bydd y drwydded yn para am hyd at bum mlynedd ar y tro. Gall trwyddedigion radio cymunedol wedyn wneud cais i Ofcom i ymestyn eu trwyddedau am ddau gyfnod arall, yn para hyd at bum mlynedd yr un.

Yn ôl i'r brig